Cynlluniwyd ein FUW Academi gyda myfyrwyr a phobl ifanc mewn golwg. Gall aelodau FUW Academi fanteisio ar ostyngiadau ar hyfforddiant a gwybodaeth am y cynlluniau hyfforddi, grantiau a phartneriaethau diweddaraf. Darganfyddwch fwy am aelodaeth FUW Academi yma.
Gallwch chi gymryd rhan cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch. Mae llawer am fod yn aelod am y sicrwydd bod ganddynt gefnogaeth ac arweiniad pan fydd materion yn codi. Mae eraill yn ymaelodi fel bod ganddyn nhw gyfrwng uniongyrchol i leisio barn i lywodraeth a llunwyr polisi. Rydym yn annog pob aelod i ymgysylltu'n llawn er mwyn sicrhau ein bod yn lobïo dros y pethau sy'n wirioneddol bwysig i'r gymuned ffermio yng Nghymru.
Mae gennym le pwrpasol ar ein gwefan i aelodau gysylltu â'i gilydd trwy ein fforymau. Gall aelodau gwrdd â'i gilydd ym mhob digwyddiad rydyn ni'n ei fynychu e.e. digwyddiadau brecwast ym mis Ionawr, ynghyd â chyfarfodydd, cyfarfodydd cangen sirol, digwyddiadau Academi ac ymweliadau fferm ac ati. Os ydych chi'n mynychu sioeau lleol neu rhai cenedlaethol yng Nghymru, stondin FUW yw'r lle gorau i rwydweithio ag aelodau eraill wrth fwynhau lletygarwch a saib bach.
Mae'r FUW yn mynd ati i gasglu barn aelodau er mwyn lobïo gwleidyddion a chyrff amaethyddol. Rydyn ni'n gwrando ar ein haelodau mewn cyfarfodydd a phwyllgorau sir, trwy gynnal ymgynghoriadau trwy'r wefan a thrwy gwrdd â chi wyneb yn wyneb mewn marchnadoedd a sioeau. Dim ond galwad ffôn i ffwrdd yw ein canghennau lleol ac maent yn sianelu barn i ffurfio calon ein safbwyntiau polisi. Cysylltwch â'ch swyddfa leol i rannu eich barn.
Dewch o hyd i'ch swyddfa agosaf ar ein map. Rhowch alwad iddynt neu anfonwch e-bost atynt a byddant yn hapus i ateb eich cwestiynau neu wrando ar bryderon.
Mae FUW yn cynnal cysylltiad llawr gwlad trwy nifer o swyddfeydd lleol sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad. Mae'r grwpiau sirol yn darparu cynrychiolaeth a chefnogaeth ar faterion lleol. Mae'r Brif Swyddfa yn herio'r llywodraeth trwy lobïo ac ymgyrchu. Rydym hefyd yn datblygu meysydd marchnad ac yn darparu gwybodaeth trwy ein pwyllgorau sector. Yn ogystal â hyn, mae ein Tîm Polisi Llywyddol yn cael ei ethol gan ein haelodau sy’n ffermwyr ac yn cynrychioli ffermwyr ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, yn aml yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd gweinidogol, gweithdai rhanddeiliaid a chyfarfodydd cangen leol. Darllenwch fwy am ein Harweinyddiaeth.
Yn aml mae gennym lythyrau wedi'u hysgrifennu ymlaen llaw ar ein gwefan fel y gallwch ddod o hyd i fanylion ar gyfer eich AC neu AS lleol yn hawdd a chysylltu â nhw'n uniongyrchol. Cysylltwch â'ch swyddfa sir FUW leol i ddarganfod pa gefnogaeth y gallwn ei roi i chi.
Gallwch! Mae gennym dudalen sy’n gwerthu nwyddau FUW diweddaraf.