Categorïau Aelodaeth

Aelodaeth amaethyddol llawn
Mae’r gyfradd aelodaeth yn dibynnu ar sawl erw yw’r fferm. Ffoniwch eich swyddfa leol heddiw i gael rhagor o wybodaeth!

FUW Academi
Fel aelod FUW Academi byddwch chi’n cael
- hyfforddiant a phrawf trelar B + E am bris gostyngol
- het beanie
- papur newydd Y Tir yn y post bob mis
- eich gwahodd i amrywiaeth o ymweliadau fferm, profiadau a digwyddiadau.
Byddwn hefyd yn anfon Bwletin Amaethyddol rheolaidd atoch gyda'r cyfleoedd diweddaraf yn amaethyddiaeth megis grantiau, cynlluniau hyfforddi a phartneriaethau a byddwch hefyd yn gallu manteisio ar holl ostyngiadau aelodau FUW!
Dim ond £54 y flwyddyn yw’r pecyn yma.

Aelod cefn gwlad
- gwahoddiad i leisio’ch barn ar bolisïau a datblygiadau diweddar yng nghyfarfodydd cangen leol;
- derbyn y papur newydd misol 'Y Tir';
- manylion mewngofnodi i’r wefan gyda’r polisïau diweddaraf a’r newyddion sy’n berthnasol i aelodau cefn gwlad *(Yn dod yn fuan)*;
- cylchlythyron rheolaidd oddi wrth eich swyddfa leol gyda’r newyddion a’r datblygiadau diweddaraf;
- gwahoddiadau arbennig i ddigwyddiadau UAC yn y Sioe Frenhinol a digwyddiadau arbenigol yn lleol i chi.

Ffermwr am oes
Y ffermwyr fu’n herio'r diffyg llais i ffermwyr Cymru a'r rhai sydd wedi ymuno ers hynny ac sy’n cefnogi’r Undeb yw'r rheswm pam yr ydym yn parhau’n gadarn ar ran amaethwyr Cymru. Mae hyn yn aelodaeth arbennig i goffau’r hanes a’r bobl sydd wedi sefydlu a diogelu dyfodol a llais cryf ar gyfer ffermwyr Cymru. Efallai eich bod wedi bod yn aelod yn y gorffennol neu wedi ymddeol o waith dyddiol y fferm ond yn dal yn awyddus i gefnogi'r Undeb. Neu, efallai eich bod chi eisiau cefnogi a datblygu’r modd ni’n siarad ar ran aelodau.
Mae’r aelodaeth yma’n cynnwys:
- copi o’r papur newydd amaethyddol ‘Y Tir’ bob mis.
- Byddwch hefyd yn medru gweld cyngor ac arweiniad arbenigol ar-lein ar olyniaeth, profiant a materion yn ymwneud ac etifeddiaeth.
- Byddwch yn derbyn gwahoddiad i dderbyniad caws a gwin ar gyfer aelodau yn unig gyda’r Llywydd, cyn llywyddion, aelodau am oes ac aelodau arall o’r bwrdd ar Faes y Sioe Frenhinol.