Image

Gwasanaethau FUW

Rydym yn cynnig rhestr helaeth o wasanaethau i’n haelodau. Dyma esiampl o’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd sy’n rhan o’r pecyn: 

  • Cwblhau ffurflen Taliad Sengl
  • Cyngor proffesiynol gan Swyddog Gweithredol lleol UAC drwy gydol y flwyddyn 
  • Cyngor a chymorth gydag ymholiadau, apeliadau a chosbau gan Lywodraeth Cymru- CTS, Glastir, Glastir Organig, Gwaith Cyfalaf ayyb
  • Papur newydd amaethyddol misol i’ch drws yn rhad ac am ddim gyda diweddariadau a’r newyddion amaethyddol Cymreig diweddaraf
  • Cofrestru eich symudiadau BCMS
  • Mynediad am ddim i bob cynhadledd genedlaethol a lleol UAC
  • RPW ar-lein- cofrestru a chymorth cyffredinol 
  • Cymorth ar faterion cynllunio, llwybrau tramwy, anghydfodau ynglyn â ffiniau a materion tenantiaeth
  • Cymorth gydag etifeddiaeth, profiant ac olyniaeth 
  • Cymorth gydag fforddfraint a hawddfraint
  • Materion yn ymwneud â chwmniau cyfleustodau 

Gall ein timoedd proffesiynol yn eich swyddfa leol agosaf a’r tîm polisi yn y Brif Swyddfa gynnig cymorth ar nifer o faterion arall. 

Cysylltwch heddiw i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymaelodi. 

Image

Buddion Aelodaeth FUW

Aelodaeth Undeb

Rhoi ffermwyr yng Nghymru yn gyntaf

Rydym yn hyrwyddo'n annibynnol safbwyntiau ffermwyr yng Nghymru yn unig, heb ddylanwad allanol gan sefydliadau eraill.

Cynrychiolaeth broffesiynol

0 gynghorau Ileol i gyrff cenedlaethol, rydym yn helpu i ddiffinio a mireinio'r polisiau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio a nhw ar eich fferm.

Lobio a dylanwadu

Hyrwyddwn fuddiannau ein haelodau wrth ymgyrchu'n weithredol, i sicrhau bod ffermio yn cael blaenoriaeth ar agenda gwleidyddol Cymru .

Caiff eich Ilais ei glywed

Mae'n strwythur democrataidd yn golygu bod eich barn yn cyfrif ac yn greiddiol i'n polisïau. Os yw'n cyfri i chi, mae'n cyfri i ni.

Gwasanaethau Undeb

Cwblhau ffurflen SAF yn flynyddol

Fel rhan o'ch aelodaeth, cynigwn gymorth yn Ileol i gwblhau eich ffurflen cais sengl - gan arbed unrhyw gamgymeriadau costus i chi.

Cefnogaeth broffesiynol

Medr ein harbenigwyr polisi hyfforddedig ateb eich cwestiynau a'ch cefnogi gydag apeliadau cosb, Gwaith Cyfalaf, Cynlluniau Glastir a grantiau eraill.

Cyngor rheoleiddio

Gall ein tim polisi gynghori ar hawliau tramwyo, anghydfodau ffinio, tenantiaeth a rhenti, etifeddiaeth a phrofiant, Wayleaves a hawddfreintiau a llawer mwy!

Gwasanaethau ar-lein

Medrwn reoli eich symudiadau BCMS, eich cyfrif RPW ar-lein a diweddaru unrhyw newidiadau Rheoli fy Nhir. HEFYD mynediad i'n gwefan aelodau yn unig sy'n llawn newyddion amaethyddol.

Buddiannau ychwanegol

Papur newydd amaethyddol AM DDIM

Dosbarthir 'Y Tir' i ddrws eich tŷ yn fisol, yn Ilawn newyddion amaethyddol o bwys, diweddariadau polisi a gwahoddiadau i ddigwyddiadau unigryw FUW.

Gostyngiadau unigryw!

Cyfraddau arbennig ar ystod eang o wasanaethau proffesiynol a chynhyrchion, megis moduron, band eang, ynni, deunyddiau adeiladu, cyrsiau hyfforddiant a Ilawer mwy!

Digwyddiadau Ileol gyda siaradwyr arbenigol

Trafod materion cyfredol gydag aelodau eraill a derbyn cyngor gan arbenigwyr diwydiant cymwys ar bynciau sy'n effeithio eich fferm

Lletygarwch AM DDIM mewn sioe yn eich ardal chi

Cynigwn luniaeth AM DDIM i bob aelod mewn sioeau amaethyddol Ileol ledled Cymru