Prisiau Gwlân Prydain yn codi

Bydd Gwlân Prydain yn talu pris cyfartalog cyffredinol o 36.4 ceiniog y cilogram i’w aelodau a gyfer cneifiad 2021, yn sgil cynnydd o 135% dros y 12 mis diwethaf.

Mi fydd prisiau cneifiad 2021 oddeutu 40c y cilogram am nifer o’r graddau craidd, tua 30c y cilogram am wlân y ddafad Benddu a thua 15c y cilogram am y ddafad Cymreig a’r Swaledale.

Telir 80c y cilogram am wlân defaid Herdwick, a £5.50 y cilogram am y Bluefaced Leicester.  Telir £1.00 y cilogram ychwanegol hefyd am y rhan fwyaf o fathau o wlân organig ardystiedig.   

Bydd cneifiad o dros ddwy dunnell yn cael 4c y cilogram ychwanegol, gan godi i 8c y cilogram am gneifiad o 8 tunnell neu fwy.

Bydd y gwlân yn dal i gael ei gasglu a’i gludo o’r holl fannau gollwng yn rhad ac am ddim, a bydd Gwlân Prydain yn dychwelyd i’r system tâl sengl ar gyfer tymor 2022.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi am gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â thîm Gwasanaethau Aelodau Gwlân Prydain ar 01274 688666 neu ebostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Dŵr Cymru’n ail-lansio ei gynllun gwaredu plaladdwyr am ddim

Mae Dŵr Cymru wedi ail-lansio ei gynllun gwaredu plaladdwyr am ddim ar gyfer ffermwyr a thyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir yng Nghymru fel rhan o’r prosiect PestSmart.

Nod y cynllun yw lleihau’r perygl sy’n gysylltiedig â chynnyrch gwarchod planhigion cofrestredig sy’n hen neu heb drwydded bellach, a dip defaid heb ei wanhau.

Dylai’r rhai sy’n credu eu bod yn gymwys gofrestru rhwng 1af Mehefin a 31ain Gorffennaf 2022. 

Gall y rhai sydd wedi cymryd rhan yn ystod y blynyddoedd blaenorol wneud hynny eto yn 2022 a chael gwared â 30L/Kg o gynnyrch cymwys am ddim.

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun a sut i gofrestru, cliciwch yma.

I gofrestru dros y ffôn gydag aelod o dîm PestSmart, ffoniwch 01443 452716

Cyhoeddi canlyniadau Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol 2022 GWCT

Mae canlyniadau Cyfrif Adar Tir Amaethyddol 2022 yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt (GWCT) wedi’u cyhoeddi.

Gweithiodd UAC mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt (GWCT) i roi cyhoeddusrwydd i’r rôl bwysig mae ffermwyr yn ei chwarae yn gofalu am adar tir amaethyddol, yn ogystal â helpu ffermwyr i ddeall beth allan nhw ei wneud ar eu ffermydd i warchod adar, trwy gyfres o ddigwyddiadau rhithwir ac ar ffermydd.

Bu dros 1,900 o ffermwyr a rheolwyr tir yn cymryd rhan, gan gofnodi 130 o wahanol rywogaethau ar draws dros 1.5 miliwn o aceri yn ystod y cyfrif, a gynhaliwyd rhwng 4ydd ac 20fed Chwefror 2022.

Cofnodwyd cyfanswm o 26 o rywogaethau o’r rhestr goch, gyda 7 o’r rheiny ymhlith y 25 o rywogaethau mwyaf prin.

Mae gwybodaeth bellach a’r canlyniadau llawn ar gael yma.

Arolwg Plannu yn y Gwanwyn ac Amrywiaeth Cnydau AHDB 2022

Mae Arolwg Plannu yn y Gwanwyn ac Amrywiaeth Cnydau AHDB yn darparu’r darlun cynharaf o’r arwynebedd grawnfwyd a rêp hadau olew y bwriedir ei gynaeafu ym Mhrydain yn 2021.  Nod yr arolwg yw asesu’r amrywiaeth o gnydau gwenith, barlys, ceirch a rêp hadau olew ym Mhrydain, all gynorthwyo’r tyfwyr i wneud penderfyniadau marchnata.

I roi’r arwynebedd a gynaeafwyd yn 2020 a’r arwynebedd y bwriedir ei gynaeafu yn 2021, ynghyd â’r amrywiaeth o bob cnwd a restrir, ewch i borth ar-lein AHDB.

Bydd canlyniadau’r arolwg ar gael ar-lein ar ahdb.org.uk yng Ngorffennaf, a bydd dadansoddiad fwy manwl ar gael ar dudalennau marchnad  Grawnfwyd a Hadau Olew AHDB.

Deall pryderon iechyd meddwl ffermwyr Cymru wrth i bolisïau ffermio newid

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cynnal ymchwil i ddeall sut y gall pryderon iechyd corfforol a meddyliol ffermwyr yng Nghymru effeithio ar y ffordd mae ffermwyr yn bwriadu ymateb i newidiadau polisi. Maent yn chwilio am ffermwyr (sydd â ffermydd yng Nghymru) i gymryd rhan mewn arlowg ar-lein sy’n archwilio i’r materion hyn.

I ddiolch, gall y cyfranogwyr gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb Wynnstay (gwerth £750, £500 a £250).

Mae’r arolwg ar gael yma.

Canlyniadau Arolwg Siapio’r Dyfodol AHDB

Mae canlyniadau arolwg Siapio’r Dyfodol cyntaf AHDB, a roddodd gyfle i dalwyr lefi ddweud eu dweud, ar gael erbyn hyn.

Canlyniadau allweddol:

  • Ymatebodd 42% o’r talwyr lefi cofrestredig i’r arolwg (cyfanswm o 4,478 o dalwyr lefi allan o’r 10,537 sydd wedi cofrestru)
  • Roedd y sgorau cyfartalog yn amrywio o 2.3 allan o 5 i 4.8 allan o 5 (gyda 5 yn bwysicaf), gyda dim ond 3 sgôr cyfartalog is na 3 ar draws 70 o gwestiynau
  • Mae holl aelodau’r cynghorau sector (aelodau newydd a rhai sydd ar eu hail dymor) wedi’u cymeradwyo, gan dderbyn dros 50% o’r pleidleisiau. 

Trwy gydol Mehefin bydd aelodau cynghorau AHDB yn cwrdd i wneud penderfyniadau ariannu mewn perthynas â’r pum mlynedd nesaf o waith y byddant yn ei gyflawni ar gyfer talwyr lefi, yn seiliedig ar yr adborth o’r bleidlais.

Mae’r canlyniadau llawn ar gael yma.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Mehefin 2022

Cynllun

Crynodeb

Dyddiadau ffenestri

Llacio Rheolau Glastir

Gall unrhyw ffermwr sy’n cael anhawster cwrdd â gofynion ei gontract Glastir ofyn am lacio’r rheolau, gan ddefnyddio’i gyfrif RPW Ar-lein.


Gellir gwneud cais i lacio’r rheolau ar unrhyw opsiwn o fewn contract Glastir ac ystyrir y ceisiadau fesul achos.


Dylid darparu manylion yr opsiwn a rhif y cae, ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosib ynghylch yr amgylchiadau sydd wedi arwain at y cais.  Gall fod angen dogfennau ategol mewn rhai amgylchiadau, yn dibynnu ar natur y cais.


FODD BYNNAG, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, bydd yn rhaid fforffedu’r taliad perthnasol ar y parsel tir dan sylw.

 

Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd.


Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed.


Mae gwybodaeth bellach ar gael yma 


Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd.  Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos.


Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb).

Ar agor tan 31ain Rhagfyr 2022

Grantiau Bach - Effeithlonrwydd

Cynllun i gefnogi buddsoddiad mewn offer a thechnoleg newydd i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol busnesau fferm.


Mae hwn yn debyg i’r cynllun Grant Busnes i Ffermydd.


Mae’r isafswm grant wedi’i ostwng i £1,000 a’r uchafswm yw £12,000. Ni fydd cymryd rhan eisoes yn y Grant Busnes i Ffermydd yn effeithio ar gymhwysedd.  Mae uchafswm cyfraniad o 40% ar gael yn erbyn costau go iawn a anfonebwyd.  Cafodd prisiau eu diweddaru a’u cymeradwyo ar ddiwedd Mawrth.


Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar RPW Ar-lein maes o law.  Mae gan y ffenestr hon gyllideb ddangosol o £5m

18fed Mai – 29ain Mehefin 2022

Grantiau Bach - Amgylchedd

Cynllun i gefnogi amrywiaeth eang o ymyriadau rheoli tir a darparu cymorth cyfalaf ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar y fferm, i wella ansawdd adnoddau naturiol Cymru.


Mae hwn yn cyfateb i’r cynllun Grantiau Bach Glastir cynt.  Mae’n gynllun annibynnol sy’n darparu uchafswm o £7,500 fesul ffenestr ar gyfer Prosiectau Gwaith Cyfalaf.  Bydd y rownd hon yn ymwneud â’r thema Dŵr.  Ni fydd parseli tir sydd eisoes dan gytundebau Glastir yn gymwys.  Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £3m.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma 

23ain Mai – 1af Gorffennaf 2022

Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth

Cynllun i gefnogi rhai sy’n sefydlu mentrau garddwriaeth masnachol newydd.  Y grant sydd ar gael i bob ymgeisydd yw £3,000, a ddyfarnir ar ffurf cyfalaf gweithio.  Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £300,000.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma 

25ain Mai – 29ain Mehefin 2022

Grantiau Bach – Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd

Cynllun peilot yn annog tyfu cnydau a phorfeydd i ddarparu budd amgylcheddol megis cnydau protein, gwndwn cymysg a chnydau gorchudd er budd yr amgylchedd, bioamrywiaeth a chynhyrchu.


Bydd y ffenestr gyntaf wedi’i chyfyngu i sefydlu cnwd gorchudd heb ei chwistrellu ar ôl cynaeafu grawnfwyd neu india-corn yn yr hydref.  Bydd ffenestr newydd ar gyfer plannu yng ngwanwyn 2023 yn agor yn yr hydref.


Cadarnhad a manylion pellach i ddilyn. 

(Hau Hydref)
20 Mehefin - 29 Gorffennaf 2022

Ail ffenestr

24 Awst - 5 Hydref 2022

Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau

Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i wella rheolaeth o faetholion drwy fuddsoddi i orchuddio seilwaith presennol iard y fferm.

27 Mehefin - 5 Awst 2022

Y Cynllun Troi’n Organig

Cynllun i helpu ffermwyr i newid i systemau cynhyrchu organig.  Ceir un ffenestr mynegi diddordeb yn unig.


Bydd y cynllun yn cynnwys taliad newid dwy flynedd.  Bydd y cyfraddau talu’n seiliedig ar y defnydd tir a’r system gynhyrchu presennol.


Rhaid cynnwys  Rhif y Daliad (CPH) cyfan ac mae cyfanswm ymrwymiad o bum mlynedd o reolaeth organig yn ofynnol.

18 Gorffennaf - 26 Awst 2022

Y Cynllun Buddsoddi Mewn Rheoli Maethynnau

Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i fuddsoddi mewn seilwaith i wella dulliau o reoli a storio maethynnau ar y fferm.

4 Gorffennaf - 12 Awst 2022

Creu (Plannu) Coetir

Cynllun i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Coedwig Genedlaethol i Gymru.

Agor yn Awst 2022 

Cyfoeth Naturiol Cymru – Cyllid Grant ar gyfer Mawndiroedd

Mae grantiau datblygu cyfalaf o rhwng £10,000 a £30,000 ar gael i adfer cynefinoedd a gollwyd a gwella cyflwr mawndiroedd Cymru. 


Bydd y grant datblygu yn galluogi unigolion a sefydliadau i:

  • ystyried a yw eu prosiect adfer mawndir yn ddichonadwy
  • datblygu prosiect adfer mawndir wedi’i gostio erbyn mis Ebrill 2023 y mae siawns realistig o’i gyflawni
  • casglu'r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i wneud cais am rowndiau cyllid grant ar gyfer cyflawni yn y dyfodol.


Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

4ydd Ebrill – 4ydd Gorffennaf  2022 

Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Mae’r cynllun yn agored unwaith eto i berchnogion a rheolwyr tir, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw.  Bydd yn rhoi cymorth i bobl i greu coetiroedd newydd a/neu wella ac ehangu coetiroedd presennol.


Grantiau o £40,000 i £250,000 a hyd at 100% o arian cyfalaf a refeniw.


Mae manylion llawn ar gael yma.


Bwriedir cael rowndiau pellach yn nes ymlaen yn  2022 a 2023.

Cau 15fed Gorffennaf 2022

PWYSIG

Ni fydd unrhyw estyniadau i’r dyddiadau cau ar gyfer hawlio unrhyw un o’r cynlluniau uchod oherwydd y cyfyngiadau ar ddyrannu cyllideb.  O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru’n caniatáu i bobl  archebu eitemau unwaith y byddant wedi derbyn cynnig o gontract, a chyn derbyn y contract.

Maent yn cynghori pobl i archebu, neu o leiaf i wneud ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau bod eitemau’n cael eu dosbarthu mewn pryd neu’r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen.  Os na ellir gwneud hynny, a bod tystiolaeth ysgrifenedig yn cael ei darparu i gadarnhau’r rhesymau pam, gall ymgeiswyr dynnu’n ôl o’r cynllun ac ni fyddant yn cael eu heithrio o rowndiau yn y dyfodol.

Os byddant yn derbyn y contract ac yna’n methu â bodloni’r amodau o fewn yr amserlen berthnasol, mi allant gael eu heithrio o rowndiau’r cynllun yn y dyfodol.

UAC yn lansio Maniffesto cyn etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2022

Lansiodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ei Maniffesto cyn etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2022 a gynhaliwyd ar 5ed Mai.

Mae’r Maniffesto’n gosod gofynion allweddol a galwadau’r Undeb ar Gynghorwyr ac Awdurdodau Lleol mewn perthynas â: caffael lleol, daliadau fferm cynghorau sir, cronfeydd sy’n disodli cyllid yr UE, tai lleol, twristiaeth gynaliadwy, gwrthbwyso carbon a choedwigo, cysylltedd digidol a safonau masnach.

Wrth i bob cwr o gymdeithas adfer ar ôl digwyddiadau diweddar a chyfredol ar draws y byd, mi fydd gan Awdurdodau Lleol ran fawr i’w chwarae yn sicrhau bod cymunedau lleol, economïau, cymdeithas a diwylliannau Cymru’n ffynnu - serch cydnabod bod y baich cynyddol ar Awdurdodau Lleol yn dod ochr yn ochr â chwtogi ar y gyllideb flynyddol a ddyrannir iddynt.

Ymchwil yn amlygu effeithiau trychinebus diwygiadau Defra ar gymunedau gwledig Lloegr – ac yn gosod rhybuddion clir i Gymru medd UAC

Mae ymchwil newydd sy'n amcangyfrif y gallai de-orllewin Lloegr golli tua £800m o ganlyniad i ddiwygiadau Defra i gymorth amaethyddol Lloegr yn cadarnhau pryderon a godwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru mewn ymateb i ymgynghoriadau'r llywodraeth yng Nghymru a Lloegr.

Edrychodd adroddiad terfynol 'Asesu Effaith Newid Amaethyddol yng Nghernyw ac Ynysoedd Sili, Dyfnaint, Dorset a Gwlad yr Haf' gan Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned (CCRI) Prifysgol Caerloyw, a gomisiynwyd gan bartneriaeth Great South West ar effeithiau a chyfleoedd polisi ‘Newid Amaethyddol’ presennol Lloegr ar ffermwyr, rheolwyr tir a’r gymuned wledig ehangach.

Dangosodd yr ymchwil y bydd ffermwyr yr ardal yn colli cyfanswm o £884 miliwn mewn cymorth amaethyddol uniongyrchol dros y cyfnod pontio yn Lloegr erbyn diwedd 2027, gyda chyllid y cynllun disodli’n cyfrif am gyfran fach yn unig o'r golled hon, hyd yn oed yn y senarios achos gorau.

Rhaid i’r gadwyn gyflenwi dalu mwy i adlewyrchu costau mewnbwn anghynaliadwy medd Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth UAC

Mae Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru wedi cytuno’n unfrydol bod angen i’r pris llaeth ar gât y fferm godi’n sylweddol, i wneud iawn am y cynnydd enfawr mewn costau mewnbwn, a achoswyd gan brisiau porthiant, tanwydd, gwrtaith ac ynni uwch - sy’n gysylltiedig i raddau helaeth â’r rhyfel yn Wcráin.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd yr Undeb at y manwerthwyr mwyaf yn eu hannog i sicrhau nad yw’r costau mewnbwn cynyddol yn bygwth dyfodol cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru a’r DU, a bod ffermwyr yn derbyn pris teg am eu cynnyrch yng ngoleuni’r amgylchiadau presennol.

Mae cynnydd ym mhrisau bwyd y DU yn anorfod, ac er bod gan fanwerthwyr ran i’w chwarae, mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei adlewyrchu ar hyd y gadwyn gyflenwi a’i fod yn cyrraedd gât y fferm.

Diogelu’r Cyflenwad Bwyd yn uchel ar agenda’r UE

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi cael effaith ar gynnyrch amaethyddol a’r cyflenwad bwyd ledled y DU, gan gynnwys costau uwch ac argaeledd mewnbynnau.

I ymdopi â’r argyfwng hwn, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gofyn i aelod-wladwriaethau i addasu cynlluniau strategol cenedlaethol eu Polisi Amaethyddol Cyffredin, gan roi ystyriaeth i effeithiau parhaus y rhyfel.

Mae’r Comisiynydd Amaeth Janusz Wojciechowski hefyd wedi dweud bod yn rhaid i’r UE gynhyrchu mwy o fwyd yng ngoleuni’r rhyfel yn Wcráin.

Crynodeb o newyddion Mai 2022

Allforion cig dafad yn edrych yn bositif ar gyfer 2022

Mae data ar allforion cig oen yn dangos arwyddion positif o adferiad yn dilyn y pandemig ac effeithiau Brexit. Mae dadansoddiadau AHDB yn dangos bod yna adferiad bach ym mis Ionawr, gydag allforion cig dafad i fyny 13% o’i gymharu â 2021, ar dros 4,000 o dunelli. Roedd allforion mis Chwefror 37% yn uwch na rhai 2021, ar 6,300 o dunelli, gan gyrraedd lefelau nas gwelwyd ers cyn Brexit a’r pandemig.

Allforiwyd cyfanswm o 95,050 o dunelli yn 2019, a gwympodd i 88,200 o dunelli yn 2020. Ochr yn ochr â pandemig Covid-19, cafodd y trefniadau masnachu newydd a gwrthdaro masnachol yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit effaith pellach ar allforion yn 2021, gyda’r allforion yn gyfanswm o 70,000 o dunelli.

Cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) proffesiynol: cofrestru fel defnyddiwr

Pwy ddylai gofrestru

Os ydych chi’n defnyddio PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), rydych dan rwymedigaeth gyfreithiol i gofrestru dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020.  Rhaid ichi gofrestru erbyn 22ain Mehefin 2022.

Mae hyn yn cynnwys ffermwyr tir glas a ffermwyr sy’n llogi contractwyr i wasgaru plaladdwyr ar eu tir.

Codi mesurau lletya Ffliw Adar

Cafodd mesurau lletya gorfodol a gyflwynwyd i helpu i ddiogelu adar caeth rhag Ffliw Adar eu codi Ddydd Llun 2il Mai 2022.

Gwnaed y cyhoeddiad gan y Prif Swyddog Milfeddygol yn dilyn adolygiad o’r lefelau risg o heintiad Ffliw Adar i ddofednod, sydd wedi newid o lefel ganolig (gydag ansicrwydd isel) i lefel isel (gydag ansicrwydd uchel), cyn belled â bod rhagofalon bioddiogelwch da yn cael eu rhoi ar waith. 

Mae gofynion bioddiogelwch llymach yn unol â’r Parth Atal Ffliw Adar yn parhau i fod mewn grym, a rhaid i bawb sy’n cadw adar ddal ati i fod yn ddiwyd o ran bioddiogelwch. 

Trwyddedau Cyffredinol i ganiatáu lladd rhywogaethau penodol o adar gwyllt

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llwytho copïau ymlaen llaw o Drwyddedau Cyffredinol sydd i’w cyflwyno ar 1af Gorffennaf 2022.

Trwydded Gyffredinol 001 – Trwydded i ladd neu gymryd adar gwyllt, neu gymryd neu ddifrodi eu nythod neu wyau, at ddibenion atal difrod difrifol neu ledaenu clefydau i dda byw, porthiant da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau.  Noder y matrics pwrpas i rywogaeth sydd wedi’i gynnwys yn y drwydded, sy’n cyfyngu ar y mesurau rheoli drwy ladd o’i gymharu â’r drwydded gyffredinol bresennol.

Trwydded Gyffredinol 002 – Trwydded i ladd neu gymryd colomennod gwyllt neu gymryd neu ddinistrio eu nythod a’u hwyau at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd, diogelwch y cyhoedd, neu atal lledaeniad clefydau.

Adroddiad Gweithredu ar Fethan y grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil

Cyhoeddodd y grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil ei adroddiad ‘Acting on methane: opportunities for the UK cattle and sheep sectors’ yn ddiweddar.

Wedi’i lunio ar y cyd â Sefydliad Ymchwil Moredun, daw’r adroddiad yn sgil yr Adduned Methan Fyd-eang a ffurfiwyd yn ystod cynhadledd COP26 i leihau allyriadau methan 30% erbyn 2030.

Yn ôl gwaith a ariannwyd gan Defra a Llywodraeth yr Alban mi allai gwella iechyd a lles da byw leihau allyriadau methan hyd at 10% drwy ddefnyddio arfau sydd eisoes ar gael.

Grwpiau ffocws Pwyllgor Cyllid y Senedd

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn awyddus i ddeall barn pobl Cymru pan ddaw hi’n fater o benderfynu beth ddylai gwariant Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arno.

Yn ystod Mai a Mehefin 2022, bydd y Pwyllgor yn rhedeg rhaglen o grwpiau ffocws, i gasglu profiadau a barn pobl ar ‘beth mae bobl Cymru am i wariant Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arno?’

Nifer cyfyngedig fydd yn cael mynychu’r sesiynau hyn felly gofynnir i gyfranogwyr lenwi holiadur byr cyn mynychu cyfarfod grŵp ffocws.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Mai 2022

Cynllun

Crynodeb

Dyddiadau Ffenestri

Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio 

Bydd y ffenestr gais bresennol am hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn cau ar Ddydd Gwener 27ain Mai.

  • Cynigir cymhorthdal o hyd at 80% ar yr holl gyrsiau hyfforddi i unigolion cofrestredig
  • Dros 70 o gyrsiau ar gael, dan y categorïau ‘Busnes, ‘Tir’ a ‘Da Byw’
  • Rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy wedi’u lleoli ledled Cymru

Am restr lawn o gyrsiau a/neu gymorth i ymgeisio, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Ceir mwy o wybodaeth yma.

Cau 27ain Mai 2022

Cynllun Datblygu Garddwriaeth

Mae’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru.

Mae’r gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr gais hon yn £1.5 miliwn.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma:

https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-llyfryn-rheolau

https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-gan-defnyddio-rpw-ar-lein-i-wneud-cais

Cau 27ain Mai 2022

Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd.

Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma 

Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd.  Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos.

Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb).

Ar agor tan 31ain Rhagfyr 2022

Grantiau Bach - Effeithlonrwydd

Cynllun i gefnogi buddsoddiad mewn offer a thechnoleg newydd i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol busnesau fferm.

Mae hwn yn debyg i’r cynllun Grant Busnes i Ffermydd.

Mae’r isafswm grant wedi’i ostwng i £1,000 a’r uchafswm yw £12,000. Ni fydd cymryd rhan eisoes yn y Grant Busnes i Ffermydd yn effeithio ar gymhwysedd.  Mae uchafswm cyfraniad o 40% ar gael yn erbyn costau go iawn a anfonebwyd.  Cafodd prisiau eu diweddaru a’u cymeradwyo ar ddiwedd Mawrth.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar RPW Ar-lein maes o law.  Mae gan y ffenestr hon gyllideb ddangosol o £5m

18fed Mai – 29ain Mehefin 2022

Grantiau Bach - Amgylchedd

Cynllun i gefnogi amrywiaeth eang o ymyriadau rheoli tir a darparu cymorth cyfalaf ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar y fferm, i wella ansawdd adnoddau naturiol Cymru.

Mae hwn yn cyfateb i’r cynllun Grantiau Bach Glastir cynt.  Mae’n gynllun annibynnol sy’n darparu uchafswm o £7,500 fesul ffenestr ar gyfer Prosiectau Gwaith Cyfalaf.  Bydd y rownd hon yn ymwneud â’r thema Dŵr.  Ni fydd parseli tir sydd eisoes dan gytundebau Glastir yn gymwys.  Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £3m.

23ain Mai – 1af Gorffennaf 2022

Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth

Cynllun i gefnogi rhai sy’n sefydlu mentrau garddwriaeth masnachol newydd.  Y grant sydd ar gael i bob ymgeisydd yw £3,000, a ddyfarnir ar ffurf cyfalaf gweithio.  Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £300,000.

25ain Mai – 29ain Mehefin 2022

Grantiau Bach – Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd

Cynllun peilot yn annog tyfu cnydau a phorfeydd i ddarparu budd amgylcheddol megis cnydau protein, gwndwn cymysg a chnydau gorchudd er budd yr amgylchedd, bioamrywiaeth a chynhyrchu..

Bydd y ffenestr gyntaf wedi’i chyfyngu i sefydlu cnwd gorchudd heb ei chwistrellu ar ôl cynaeafu grawnfwyd neu india-corn yn yr hydref.  Bydd ffenestr newydd ar gyfer plannu yng ngwanwyn 2023 yn agor yn yr hydref.

Cadarnhad a manylion pellach i ddilyn. 

Agor ym Mehefin 2022

Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau

Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i wella rheolaeth o faetholion drwy fuddsoddi i orchuddio seilwaith presennol iard y fferm.

Agor ym Mehefin 2022

Y Cynllun Troi’n Organig

Cynllun i helpu ffermwyr i newid i systemau cynhyrchu organig.  Ceir un ffenestr mynegi diddordeb yn unig.

Bydd y cynllun yn cynnwys taliad newid dwy flynedd.  Bydd y cyfraddau talu’n seiliedig ar y defnydd tir a’r system gynhyrchu presennol.

Rhaid cynnwys  Rhif y Daliad (CPH) cyfan ac mae cyfanswm ymrwymiad o bum mlynedd o reolaeth organig yn ofynnol.

Agor yng Ngorffennaf 2022

Y Cynllun Buddsoddi Mewn Rheoli Maethynnau

Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i fuddsoddi mewn seilwaith i wella dulliau o reoli a storio maethynnau ar y fferm.

Agor yng Ngorffennaf 2022

Creu (Plannu) Coetir

Cynllun i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Coedwig Genedlaethol i Gymru.

Agor yn Awst 2022 

Cyfoeth Naturiol Cymru – Cyllid Grant ar gyfer Mawndiroedd

Mae grantiau datblygu cyfalaf o rhwng £10,000 a £30,000 ar gael i adfer cynefinoedd a gollwyd a gwella cyflwr mawndiroedd Cymru. 


Bydd y grant datblygu yn galluogi unigolion a sefydliadau i:

  • ystyried a yw eu prosiect adfer mawndir yn ddichonadwy
  • datblygu prosiect adfer mawndir wedi’i gostio erbyn mis Ebrill 2023 y mae siawns realistig o’i gyflawni
  • casglu'r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i wneud cais am rowndiau cyllid grant ar gyfer cyflawni yn y dyfodol.


Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

4ydd Ebrill – 4ydd Gorffennaf  2022

UAC yn lansio Maniffesto cyn etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2022

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi lansio ei Maniffesto cyn etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2022 a gynhelir ar 5ed Mai.

Mae’r Maniffesto’n gosod gofynion allweddol a galwadau’r Undeb ar Gynghorwyr a etholir ac Awdurdodau Lleol mewn perthynas â: caffael lleol, daliadau fferm cynghorau sir, cronfeydd sy’n disodli cyllid yr UE, tai lleol, twristiaeth gynaliadwy, gwrthbwyso carbon a choedwigo, cysylltedd digidol a safonau masnach.

Wrth i bob cwr o gymdeithas adfer ar ôl digwyddiadau diweddar a chyfredol ar draws y byd, mi fydd gan Awdurdodau Lleol ran fawr i’w chwarae yn sicrhau bod cymunedau lleol, economïau, cymdeithas a diwylliannau Cymru’n ffynnu - serch cydnabod bod y baich cynyddol ar Awdurdodau Lleol yn dod ochr yn ochr â chwtogi ar y gyllideb flynyddol a ddyrannir iddynt.

Dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a all i liniaru pwysau rhyfel Wcráin ar ffermwyr a defnyddwyr yng Nghymru, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, am yr eildro, i’w hannog i gymryd y camau sydd o fewn eu gallu i liniaru peth o bwysau rhyfel Wcráin ar ffermwyr a defnyddwyr yng Nghymru.

Mewn ymateb i’r llythyr cyntaf a anfonwyd at Lywodraeth Cymru ar 4ydd Mawrth 2022, lle gofynnodd yr Undeb am gyfarfod bwrdd crwn â nhw a rhanddeiliaid eraill i drafod materion o’r fath a chamau posib, dywedodd Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, nad oedd Llywodraeth Cymru’n credu bod cyfarfod o’r fath yn briodol.

Mae UAC yn hynod o bryderus ynghylch methiant Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi yn gynnar yn y dydd i archwilio camau uniongyrchol a fydd yn helpu i liniaru’r problemau sy’n cael effaith ar hyn o bryd, ac a fydd yn parhau i gael effaith am weddill y flwyddyn, ac i mewn i 2023 o leiaf.

Cytundeb masnach Awstralia’n creu risg o ddisodli bwyd a gynhyrchir yn y DU – medd UAC wrth Bwyllgor Yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ailadrodd ei phryderon am y cytundeb masnach presennol ag Awstralia a’i effeithiau ar amaethyddiaeth y DU, wrth roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Cymru.

Mae yna bryder naturiol bod rhyddfrydoli’r drefn masnachu nwyddau amaethyddol yn llwyr yn creu’r risg o ddisodi bwyd a gynhyrchir yng Nghymru a’r DU..

Er bod asesiad effaith Llywodraeth y DU yn amcangyfrif colled o £29 miliwn o ran cynnyrch gros sectorau cig eidion a chig oen Cymru, mae angen ystyried hyn yng nghyd-destun y ffaith bod cytundeb masnach y DU-Awstralia’n debygol o osod cynsail ar gyfer cytundebau masnach yn y dyfodol.

UAC yn annog manwerthwyr mawr i barhau i gefnogi cynnyrch y DU a Chymru yng ngoleuni’r amgylchiadau sy’n datblygu

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ysgrifennu at fanwerthwyr mawr y DU yn pwysleisio’r angen am gefnogaeth barhaus i fwydydd Cymru a’r DU o ystyried effeithiau rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin ar gostau mewnbwn.

Yn ddiau bydd y manwerthwyr mawr yn ymwybodol o’r cynnydd enfawr o ran costau cynhyrchu bwyd y mae ffermwyr ar draws y byd wedi’i wynebu, ac yn parhau i’w wynebu.

Ochr yn ochr â phrinder posib, a’r ffaith na fydd cynhwysion bwydydd anifeiliaid megis india-corn a blawd blodyn haul ar gael, mae AHDB wedi amcangyfrif cynnydd o 40% o un flwyddyn i’r llall ym mhrisiau dwysfwyd. Cododd pris cyfartalog diesel coch 75.4 ceiniog y litr, neu 50%, rhwng 10fed Chwefror a 10fed Mawrth, ac mae prisiau cyfartalog gwrtaith wedi treblu a mwy ers y llynedd, gyda rhai mathau o wrtaith nitrogen yn costio bron £1,000 y dunnell.

Crynodeb o newydd Ebrill 2022

i) Arla Foods yn rhybuddio ynghylch costau cynhyrchu cynyddol

Mae Arla Foods, sef cyflenwr mwyaf llaeth a hufen ffres y DU, wedi rhybuddio na all ffermwyr wneud digon i dalu’u costau bellach, gyda rhai’n wynebu cynnydd o tua 35 y cant. Yn ôl Arla, mae cost llaeth yn yr archfarchnadoedd 7 y cant yn is nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl mewn termau real.

Mae prisiau llaeth wedi codi’n ddiweddar i dros 40 ceiniog y litr ym mis Mai, ond mae Kite Consulting wedi dweud y bydd angen i broseswyr ddisgwyl talu’n nes at 50 ceiniog y litr os ydyn nhw am wrthdroi’r gostyngiad yn y lefelau cynhyrchu llaeth.

ii) Gall fod angen i fewnforion bwyd ac amaeth yr UE fodloni safonau’r UE

Mae’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi cyhoeddi cynlluniau’n ddiweddar i sicrhau bod yr holl fwyd a chynnyrch amaethyddol a fewnforir i’r UE yn cwrdd â’u safonau iechyd ac amgylcheddol.

Mae ffermwyr a ranshwyr yn yr Unol Daleithiau, a nifer o gynhyrchwyr ac allforwyr Ewropeaidd wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau. Mi all allforwyr Ewropeaidd wynebu ardrethi dial os bydd Sefydliad Masnach y Byd yn canfod nad yw safonau gorfodol yr UE yn cydymffurfio â chytundebau masnach.

iii) Rhybuddion am brinder wyau yn sgil costau cynhyrchu

Mae Cyngor Diwydiant Wyau Prydain (BEIC) wedi rhybuddio y gall fod prinder wyau yn sgil y cynnydd enfawr mewn costau cynhyrchu.

Mae costau bwyd ieir sy’n dodwy yn £400 y dunnell erbyn hyn, i fyny tua 50% dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae costau cludiant wedi codi tua 30%, pris llafur wedi codi tua 7%, pris pelenni wedi codi 15%, a chostau cyfanwerthol nwy gan gyflenwyr wedi cynyddu 250% ers dechrau 2021.

Mae Prif Weithredwr 2 Sisters Food Group, Ronald Kers hefyd wedi rhybuddio bod yna fygythiad mawr i ddiogelwch cyflenwad bwyd y DU o ganlyniad i’r rhyfel yn Wcráin.

Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £227 miliwn i’r economi wledig

Ar 31ain Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £227 miliwn ar gael dros y tair blynedd nesaf i gefnogi’r economi wledig a’r amgylchedd naturiol.

Bydd y cyllid, a fydd ar gael i gefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig, yn cael ei ddarparu ar draws chwe thema:

Y diweddaraf am Ffliw Adar yng Nghymru

Cafwyd adroddiadau am bum achos o Ffliw Adar yng Nghymru, yng Nghrughywel, Gaerwen, Y Waun, Y Drenewydd a’r Trallwng; hefyd mae pedwar achos dros y ffin yn Lloegr wedi effeithio ar ddaliadau yng Nghymru.

Ers 30ain Mawrth 2022 mae’r cyfyngiadau symud lleol a oedd yn eu lle yn Y Drenewydd a’r Trallwng ers yr achos o Ffliw Adar a adroddwyd ar 21ain Chwefror 2022 wedi’u codi.

Mae’r mesurau Parth Atal Ffliw Adar a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2021, a oedd yn galw am fwy o fioddiogelwch a gorfodaeth i gadw adar caeth o bob math dan do, yn parhau i fod mewn grym ar draws Cymru.

Isafswm cyflog amaethyddol newydd o 1af Ebrill 2022

Mae gwefan Llywodraeth Cymru wedi’i diweddaru gyda’r cyfraddau cyflog amaethyddol isaf diweddaraf o 1af Ebrill, yn dilyn newid sylweddol i Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022, a ddaw i rym o 22ain Ebrill 2022.

Y bwriad gwreiddiol oedd bod y newidiadau’n dod i rym ar 1af Ebrill 2021, ond bu oedi o 12 mis yn sgil y broses o sicrhau bod y newidiadau a awgrymwyd gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yn cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru.

Dylid nodi, oherwydd yr oedi cyn i Orchymyn 2021 ddod i rym, ac er gwaethaf ymdrechion UAC ac NFU Cymru, sydd â chynrychiolaeth ar y Bwrdd, y gall fod yn ofynnol i’r rhai sy’n cyflogi gweithwyr amaethyddol ôl-dalu’r gweithwyr hynny a fyddai wedi disgwyl codiad cyflog o 1af Ebrill 2021.

Gweminar Gwella cysylltedd digidol

Bydd NFWI-Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru, CFfI Cymru a’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA) yn cynnal digwyddiad cysylltedd digidol ar-lein ar 28 Ebrill am 12 canol dydd.  Nod y digwyddiad hwn yw darparu trosolwg o’r wybodaeth, cefnogaeth a chyllid sydd ar gael i helpu cartrefi a chymunedau i wella eu cysylltedd.  Mae hyn mewn ymateb i ganfyddiadau arolwg a gynhaliwyd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, a ganfu nad oedd yna fawr o ymwybyddiaeth o’r cyllid a’r cymorth sydd ar gael.

Adolygiad Adar Gwyllt – Trwyddedau Cyffredinol

Mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried yr argymhellion a ddeilliodd o’r Adolygiad Adar Gwyllt, yn benodol mewn perthynas â thrwyddedau cyffredinol.  Penderfynwyd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru barhau i roi trwyddedau cyffredinol i reoli adar gwyllt at rai dibenion, mewn rhai amgylchiadau, a lle nad oes unrhyw atebion boddhaol eraill.

Bydd y penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd yn golygu newidiadau i drwyddedau o 1af Gorffennaf ac mae’r rhain yn cynnwys:

Sefydliad DPJ yn ehangu ei wasanaethau Rhannu’r Baich a Chwnsela

Mae Sefydliad DPJ wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i ddarparu ei wasanaethau Rhannu’r Baich a Chwnsela ar gyfer rhai sydd wedi dioddef profedigaeth.  Mi fydd hyn yn gweithio yn yr un ffordd â’r llinell gymorth Rhannu’r Baich – drwy alw 0800 587 4262 neu decstio 07860 048 799. 

Yn ôl yr arfer, mae’r gwasanaeth hwn yn gyfrinachol ac am ddim i’r rhai sy’n gofyn am gymorth, ac mae’r cwnsela’n cael ei ddarparu gan gwnselwyr proffesiynol.  Er bod Sefydliad DPJ wedi bod yn gysylltiedig â hunanladdiad yn y gorffennol, gall y gwasanaeth hwn gynorthwyo’r bobl hynny sy’n wynebu profedigaeth dan unrhyw sefyllfa, ac nid o ganlyniad i hunanladdiad yn unig.

Mae gwasanaeth Rhannu’r Baich wedi cefnogi nifer fawr o bobl sy’n galaru ac mewn profedigaeth, ond bydd yr arian hwn yn hyrwyddo’r agwedd hon o’r gwasanaethau yn fwy penodol.

Arolwg IBERS ar gyfer holl ffermwyr gwartheg Cymru

Mae Canolfan Rhagoriaeth TB Gwartheg IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal ymchwil ar arferion rheoli a safbwyntiau ffermwyr yng Nghymru, i geisio gwella iechyd a lles buchesi.  Byddant hefyd yn archwilio sut mae’r rhain yn effeithio ar iechyd a lles ffermwyr.

Os ydy’r cyfranogwyr yn dymuno, gallant roi eu manylion cyswllt ar ddiwedd yr holiadur er mwyn cael cyfle i ennill pâr o esgidiau glaw Dunlop.

Mae’r arolwg ar gael i’w gwblhau yma:

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Ebrill 2022

Cynllun   Crynodeb   Ffenestr yn Cau
Apwyntiadau SAF 2022  

Mae UAC yn atgoffa’i haelodau mai’r dyddiad olaf ar gyfer llenwi eu Ffurflenni Cais Sengl (SAF) heb gosb yw 16eg Mai.

Mae UAC yn annog ei haelodau a’r rheiny sy’n llenwi’r ffurflen am y tro cyntaf i gysylltu â’u swyddfa leol cyn gynted â phosib i drefnu apwyntiad os oes angen help arnynt i lenwi’r ffurflen.

  16eg Mai 2022
         
Trosglwyddo Hawliau BPS  

Mae’r hysbysiad ynghylch trosglwyddo hawliau 2022 ar gael ar RPW Ar-lein. Rhaid hysbysu RPW erbyn 15 Mai 2022 er mwyn i’r derbynnydd wneud cais am hawliau mae’n eu derbyn ar gyfer blwyddyn 2022 y cynllun BPS.

Mae croeso i aelodau UAC gysylltu â’u Swyddfa Sirol am gymorth.

  15fed Mai 2022
         
Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio  

Bydd y ffenestr gais nesaf am hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn agor ar Ddydd Llun 2il Mai ac yn cau ar Ddydd Gwener 27ain Mai.

  • Cynigir cymhorthdal o hyd at 80% ar yr holl gyrsiau hyfforddi i unigolion cofrestredig
  • Dros 70 o gyrsiau ar gael, dan y categorïau ‘Busnes, ‘Tir’ a ‘Da Byw’
  • Rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy wedi’u lleoli ledled Cymru

Am restr lawn o gyrsiau a/neu gymorth i ymgeisio, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Ceir mwy o wybodaeth yma.

  2il – 27ain Mai 2022
         
Cynllun Datblygu Garddwriaeth  

Mae’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru.

Mae’r gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr gais hon yn £1.5 miliwn.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma:

https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-llyfryn-rheolau

https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-gan-defnyddio-rpw-ar-lein-i-wneud-cais

  27ain Mai 2022
         
Cynllun Cynllunio Creu Coetir  

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd.

Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-cynllunio-creu-coetir 

Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd.  Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos.

Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb).

   
         
Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru  

Mae’r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd o fewn cartrefi a busnesau yng Nghymru.

Cyn gwneud cais, ewch i wiriwr cyfeiriadau Openreach  i weld a oes gennych chi fynediad at gysylltedd band eang cyflym yn barod.

Bydd y swm a ddyrannir yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:

  • £400 am 10Mbit yr eiliad neu fwy
  • £800 am 30Mbit yr eiliad neu fwy

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

   

Cyfarfod adeiladol gyda’r Gweinidog Materion Gwledig yn tynnu sylw at gamau posib mewn ymateb i effeithiau Wcráin ar gynhyrchu bwyd

Cafodd cynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gyfarfod adeiladol â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd Lesley Griffiths i dynnu sylw at, a thrafod y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru effeithiau rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin.

Ysgrifennodd UAC at y Gweinidog ar 4ydd Mawrth yn tynnu sylw at effeithiau’r rhyfel ac yn gofyn am drefnu cyfarfod bwrdd crwn brys gyda rhanddeiliaid.

Mae’r rhyfel yn cael, a bydd yn parhau i gael effaith fawr ar gadwyni cyflenwi bwyd y DU a chostau mewnbwn. Mae’r DU yn dibynnu’n drwm ar Wcráin a Rwsia am oddeutu tri deg y cant o’i india-corn, yn ogystal â nifer o gynhwysion eraill a ddefnyddir mewn bwydydd anifeiliaid, ac mae gwrtaith erbyn hyn yn costio tua mil o bunnau’r dunnell.

Cytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU yn dangos difaterwch di-hid i ddiogelwch y cyflenwad bwyd ac amaethyddiaeth medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi disgrifio agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddiogelu’r cyflenwad bwyd ac amaethyddiaeth fel un ddi-hid mewn ymateb i’r cyhoeddiad bod cytundeb masnach rydd wedi’i arwyddo â Seland Newydd.

Mae ffermwyr yn teimlo’n ddig iawn bod Llywodraeth y DU wrthi’n ffurfio cytundebau masnach a fydd, yn ôl yr hyn mae ei ffigurau ei hun yn cadarnhau, yn niweidiol i sectorau bwyd a ffermio’r DU, ac yn tanseilio diogelwch y cyflenwad bwyd.

Does dim angen edrych yn bellach na’r hyn sy’n digwydd yn Wcráin, a’r effaith ar gyflenwadau nwy a thanwydd, i weld pa mor gyflym y gall pethau newid ar y llwyfan rhyngwladol, ac eto mae polisi masnach Llywodraeth y DU yn mynd ati’n ddi-hid i danseilio diogelwch ein cyflenwad bwyd, drwy symud y ddibyniaeth i wledydd sydd ddegau o filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi newidiadau i bremiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi a meini prawf adrethi busnes yn dilyn ymgynghoriad

Mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ardrethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar, pwysleisiodd UAC y dylai’r effeithiau sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi gael eu hystyried fel mater ar gyfer y gymuned amaethyddol ledled Cymru, o ystyried bod 80 y cant o holl dir amaethyddol Cymru wedi’i leoli yn y saith sir sy’n cynnwys dwy ran o dair o’r holl ail gartrefi.

Cynigiodd yr Undeb y dylid cynyddu cyfanswm premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi fesul tipyn er mwyn gallu monitro’r canlyniadau o flwyddyn i flwyddyn, a bod llety hunanddarpar ar gael am 280 o ddiwrnodau yn hytrach na 140, i’w osod am o leiaf 140 o ddiwrnodau, yn hytrach na 70, yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis, i fod yn gymwys i hawlio ardrethi busnes.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd y lefel uchaf ar gyfer premiymau Awdurdodau Lleol ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir yn codi i 300% yn Ebrill 2023.

Rhaid i gynigion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth gynllunio ail gartrefi fod yn rhai y gellir eu gorfodi - medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu agweddau o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ond mae’n rhybuddio bod yn rhaid iddynt fod yn rhai y gellir eu gorfodi.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1987 i gynnwys tri dosbarth defnydd gwahanol ar gyfer prif gartrefi, ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ynghyd â newidiadau dilynol i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1995 a’r ddeddfwriath sylfaenol ar sut a phryd y dylai caniatâd cynllunio fod yn ofynnol.

Mynegodd UAC ei chefnogaeth i dri argymhelliad mewn perthynas â’r polisi cynllunio o’r adroddiad ‘Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’ y llynedd. Felly, mae’n croesawu’r ffaith bod y tri argymhelliad yn cael eu hystyried.

Crynodeb o newyddion Mawrth 2022

i) Llywodraeth Cymru i sefydlu Gweithgor Tenantiaeth yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu Gweithgor Tenantiaeth yng Nghymru i archwilio materion a rhwystrau y mae’r sector ffermio tenant yn debygol o’u hwynebu yn ystod cyfnod pontio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Disgwylir y bydd y grŵp newydd yn cael ei greu yn dilyn cyhoeddi amlinelliad o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Ngorffennaf 2022.

 

ii) Chile yn agor ei drysau i fewnforion porc o’r DU

Mae 27 o safleoedd prosesu porc y DU wedi cael y golau gwyrdd i ddechrau allforio’n fasnachol i Chile, fel rhan o gytundeb newydd y rhagamcanir y bydd yn werth tua £4 miliwn y flwyddyn am y pum mlynedd cyntaf.

Mae’r cytundeb yn sicrhau tariffau Gwlad a Ffefrir Fwyaf o 6% yn unol â rhai amodau.

 

iii) Llywodraeth y DU yn cyflwyno tariffau ar fewnforion bwyd o Rwsia

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno tariff o 35% ar gannoedd o nwyddau o Rwsia, gan gynnwys bwyd môr, un o’i heconomïau mwyaf.

Rwsia sy’n gyfrifol am dros 40% o’r pysgod gwyn a gynhyrchir yn fyd-eang ac mae’n gyfrifol am dros 30% o benfras yr Iwerydd, a 25% o’r hadog a gynhyrchir yn fyd-eang.

 

Gweithdai Llywodraeth Cymru i drafod agweddau ffermwyr tuag at frechu gwartheg a moch daear yn erbyn TB

Mae Llywodraeth Cymru a Defra wedi comisiynu prosiect ymchwil cymdeithasol i ddeall agweddau ffermwyr tuag at frechu gwartheg a moch daear yn erbyn TB yng Nghymru a Lloegr.  Mae’r prosiect yn cael ei gynnal gan y Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymunedol (CCR) a Phrifysgol Caerdydd..

Maent yn cynnal nifer o weithdai ledled Cymru a Lloegr i gasglu barn ac adborth gan ffermwyr.  Yng Nghymru, trefnwyd gweithdai ar y dyddiadau hyn:

  • 23ain Mawrth – Sir Benfro (Gwesty Nant y Ffin , Llandysilio, Clunderwen) 12-2pm
  • 31ain Mawrth - Dinbych (Marchnad Da Byw Rhuthun, Parc Glasdir, Rhuthun) 12-2pm

Gwneir rhodd ariannol o £20 i linell gymorth bTB newydd Rhwydwaith y Gymuned Ffermio  am bob ffermwr sy’n mynychu (Gall cyfranogwyr hawlio’r arian tuag at gostau teithio, os dymunant).

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael – i gofrestru, cysylltwch â Holly Shearman (Gwasanaeth Cynghori TB) ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 07889 806597, neu Gareth Enticott (Prifysgol Caerdydd) ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Defnydd o ddiesel coch o 1af Ebrill 2022

Yng nghyllideb 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn diddymu’r hawl i ddefnyddio diesel coch yn y rhan fwyaf o sectorau o 1af Ebrill 2022.  Nid yw hyn yn cynnwys y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, ffermio pysgod a rheilffyrdd, a’i ddefnydd ar gyfer gwresogi anfasnachol.

Mae hyn yn golygu y bydd ffermwyr a chontractwyr a hurir i wneud gwaith amaethyddol ar y tir yn parhau i allu defnyddio tanwydd rhatach yn y cerbydau a’r peiriannau a ddefnyddir at ddibenion cymwys o fewn y sector amaethyddol.

Mae dibenion cymwys o fewn y sector amaethyddol yn cynnwys bridio neu fagu unrhyw anifail a gedwir i gynhyrchu bwyd, gwlân, croen neu ffwr; tyfu neu gynaeafu cnydau; porthiant i gynhyrchu tanwydd; tyfu neu gynaeafu planhigion blodeuol neu addurniadol; tyfu neu gynaeafu coed neu gynnyrch coedwigaeth arall; a chynnal a chadw tir amaethyddol dan gynlluniau rheolaeth amgylcheddol.

Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Agorodd ffenestr bresennol y Cynllun Cynllunio Creu Coetir ar 28ain Chwefror 2022.  Mae’r cynllun yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd.

Pan fydd cynllun wedi’i gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed.  (Mae cyllid o £500,000 ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau a wneir erbyn 31ain Mawrth 2023).

Ceir mwy o wybodaeth yma: https://llyw.cymru/cynllun-cynllunio-creu-coetir

Archwiliadau y clafr ar gael am ddim tan 31ain Mawrth 2022

Mae gwasanaeth archwilio samplau o grafiadau croen defaid sy’n dangos arwyddion clinigol amheus o’r clafr ar gael tan 31ain Mawrth 2022.

Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a chynhelir y profion yn APHA Canolfan Ymchwil Milfeddygol Caerfyrddin.   Dylid postio’r samplau o grafiadau croen i Ganolfan Ymchwil Milfeddygol Caerfyrddin drwy filfeddyg y ffermwr.

I fod yn gymwys ar gyfer y profion, rhaid cyflwyno holiadur epidemiolegol byr gyda’r samplau.  Dylai milfeddygon lenwi’r holiadur hwn gyda’r ffermwyr wrth gasglu’r samplau.

Gellir cyflwyno samplau un ai gyda ffurflen Anifeiliaid Bach sy’n Cnoi Cnil, sydd ar gael ar  y Porth Milfeddygon neu drwy’r Gwasanaeth Profi Clefydau Anifeiliaid.

Safonau Tractor Coch: Platfform Hyfforddiant Lles Moch

Ar 1af Mawrth 2022, lansiwyd platfform hyfforddiant lles ar-lein, lle bydd gofyn i unrhyw un sy’n trin a thrafod moch i gwblhau cwrs hyfforddiant ar-lein fel rhan o safonau’r cynllun Tractor Coch.

Bydd disgwyl i aelodau’r cynllun Tractor Coch gwblhau’r modiwl hyfforddiant cyntaf, sef ‘Symud a Thrafod Moch’ cyn 31ain Awst 2022.  Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’r 8,000 cyntaf sy’n cymryd rhan, neu am y 6 mis cyntaf, pa un bynnag a ddaw gyntaf, ac wedi hynny codir tâl o £10. Bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn derbyn tystysgrif ddigidol, y gellir ei chadw ar gyfer geirda ac archwiliadau yn y dyfodol.

Mae AHDB, Tractor Coch, y Gymdeithas Foch Genedlaethol, y Gymdeithas Milfeddygon Moch a’r Cyngor Iechyd a Lles Moch wedi gweithio ochr yn ochr â chynhyrchwyr moch i ddatblygu’r platfform hyfforddiant, i sicrhau hyfforddiant achrededig cyson ar gyfer y diwydiant.

Am wybodaeth bellach ar sut i gofrestru a chael mynediad at y platfform hyfforddiant cliciwch yma.

Cyfoeth Naturiol Cymru – Natur a Ni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi lansio menter a elwir yn ‘Natur a Ni’, sy’n anelu at greu platfform a fydd yn caniatáu i bobl Cymru ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.

Hyd at ddiwedd Mai, gall unrhyw un yng Nghymru gymryd rhan a dweud eu dweud ar https://freshwater.eventscase.com/CY/Natureandus 

Mae hyn yn cynnwys cwblhau arolwg Natur a Ni neu gymryd rhan yn un o’r digwyddiadau  neu grwpiau ffocws ar-lein.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gobeithio y bydd hyn yn help i ddeall sut mae pobl yn teimlo am fyd natur, ac yn gwneud iddyn nhw feddwl am y newidiadau y gallwn eu mabwysiadu i warchod byd natur a’r amgylchedd.

Arolygon a holiaduron Mawrth 2022

Arolwg o ganfyddiadau defnyddwyr o ansawdd cig eidion a phriodoldeb system EUROP

Mae  Megan Phillips, myfyriwr Busnes-Amaeth pedwaredd blwyddyn ym Mhrifysgol Harper Adams yn cynnal arolwg o ‘ganfyddiadau presennol defnyddwyr y DU o ansawdd cig eidion, ac a system dosbarthu carcasau EUROP yn briodol i gwrdd â gofynion defnyddwyr?’

Mae’r arolwg, sy’n cymryd llai na phum munud i’w gwblhau, ar gael yma:

https://harper-adams.onlinesurveys.ac.uk/consumer-perceptions-of-beef-meat-quality 



Rheoli clefydau o fewn buchesi gwartheg y DU

Hoffai ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Nottingham a Warwick siarad â ffermwyr gwartheg yn y DU am reoli clefydau yn eu buchesi, ac maent yn chwilio am wirfoddolwyr a fydd yn cael eu talu i gymryd rhan mewn cyfweliad unigol ar-lein.

Bydd y cyfweliad yn para am awr ar y mwyaf a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn taleb gwerth £40 (o ddewis o siopau e.e. John Lewis, M&S) am eu hamser.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan ac ychwanegu’ch enw ar y rhestr recriwtio, cofrestrwch ar https://feed.warwick.ac.uk/research.html. Neu gallwch ebostio Naomi Prosser (Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.) yn nodi ai gwartheg cig eidion a/neu wartheg llaeth sydd gennych chi, ac ymha sir rydych chi’n ffermio.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Mawrth 2022

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau
Trosglwyddo hawliau BPS

Mae’r hysbysiad ynghylch trosglwyddo hawliau 2022 ar gael ar RPW Ar-lein. Rhaid hysbysu RPW erbyn 15 Mai 2022 er mwyn i’r derbynnydd wneud cais am hawliau mae’n eu derbyn ar gyfer blwyddyn 2022 y cynllun BPS.

Mae croeso i aelodau UAC gysylltu â’u Swyddfa Sirol am gymorth.

15fed Mai 2022
 Cwrs dysgu Cymraeg ar gyfer y sector amaethyddol  

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Menter a Busnes wedi lansio Cwrs Dysgu Cymraeg ar-lein newydd ar gyfer y sector amaethyddol.

Mae’r cyrsiau Cymraeg Gwaith 10 awr sector-benodol, gan gynnwys amaethyddiaeth, ar gael yn rhad ac am ddim ar y wefan Dysgu Cymraeg.

Am fwy o wybodaeth, ebostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 

Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio

Mae Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Mae’n darparu cyngor wedi’i ariannu hyd at 80% i unigolion neu 100% ar gyfer sesiynau grŵp.

Y nod yw sicrhau eich bod yn:

  • elwa o gefnogaeth busnes a/neu gyngor technegol, wedi'i deilwra i anghenion eich busnes
  • lleihau costau drwy gynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o'ch busnes
  • meincnodi eich perfformiad ac yn gweithio tuag at gynnydd a thwf
  • adnabod meysydd i wella a chanfod atebion i broblemau

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

 

Rhaid i gynigion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth gynllunio ail gartrefi fod yn rhai y mae modd eu gorfodi yn ôl UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu agweddau o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ond mae’n rhybuddio bod yn rhaid iddynt fod yn rhai y gellir eu gorfodi.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1987 i gynnwys tri dosbarth defnydd gwahanol ar gyfer prif gartrefi, ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ynghyd â newidiadau dilynol i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1995 a’r ddeddfwriath sylfaenol ar sut a phryd y dylai caniatâd cynllunio fod yn ofynnol.

Mynegodd UAC ei chefnogaeth i dri argymhelliad mewn perthynas â’r polisi cynllunio o’r adroddiad ‘Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’ y llynedd. Felly, mae’n croesawu’r ffaith bod y tri argymhelliad yn cael eu hystyried.

UAC yn annog gofal gyda’r cynigion TB Gwartheg diweddar yng Nghymru

Mae UAC wedi mynegi gwrthwynebiad cryf i gynlluniau a allai gosbi ceidwaid gwartheg am ‘fethu â rhoi sylw’ i wybodaeth TB wrth brynu stoc, yn ei hymateb i ymgynghoriad diweddaraf Rhaglen Dileu TB Adnewyddedig.Llywodraeth Cymru.

Mi allai’r cynigion Masnachu Seiliedig ar Risg a geir o fewn yr ymgynghoriad olygu bod yna ‘oblygiadau’ i geidwaid gwartheg sy’n prynu stoc heb ystyried y ‘risgiau a amlygir’ yn yr wybodaeth TB a ddarperir yn y man gwerthu.

Er bod yr ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gyfer gwybodaeth TB orfodol yn y man gwerthu, mae’n aneglur o hyd pa feini prawf fyddai’n cael eu defnyddio i bennu risg cymharol y stoc. Mae UAC yn annog gofal yn hyn o beth, oherwydd gall cynigion Masnachu Seiliedig ar Risg sydd heb eu datbygu’n iawn wneud hi’n hynod o anodd i brynwyr ffurfio barn wybodus wrth brynu stoc.

Diweddariad ar Brexit a phroblemau gyda’r gadwyn gyflenwi

Mae diwydiant bwyd y DU yn parhau i wynebu trafferthion yn sgil rhwystrau allforio sy’n gysylltiedig â Brexit, a phroblemau gyda’r gadwyn gyflenwi a achoswyd yn bennaf gan bandemig Covid-19.

Mae’r cynnydd yn araf o hyd yn nhermau sefydlu Safleoedd Rheoli Ffiniau yn Sir Fôn a Sir Benfro. Er bod Safle Rheoli Ffiniau wedi’i gytuno ar gyfer Sir Fôn ym Mawrth 2021, mae’r gwaith adeiladu a threfnu i gael y safle’n barod i weithredu yn araf, tra bod y trafodaethau ar gyfer safle yn Sir Benfro dal ar y gweill.

Serch y trafodaethau cyfredol ynghylch sut i fynd i’r afael â materion Protocol Gogledd Iwerddon, mae Llywodraeth Iwerddon wedi datgelu bod y masnachu trawsffiniol rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon wedi cynyddu €2.8 biliwn yn 2021, gyda mewnforion i’r Weriniaeth o Ogledd Iwerddon i fyny 65%, i €3.9 biliwn, ac allforion o’r Weriniaeth i Ogledd Iwerddon i fyny 54%, i €3.7 biliwn.

Iwerddon yn cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer adnabod a thagio anifeiliaid

Tra bod Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar newidiadau i drefniadau adnabod, cofrestru ac adrodd ar symudiadau da byw y llynedd, cyhoeddodd Gweinidog Iwerddon dros Amaeth, Bwyd a’r Môr, Charlie McConalogue y penderfyniad i gyflwyno Tagiau Adnabod Electronig (EID) gorfodol ar gyfer gwartheg yn Awst 2021.

Fel rhan o’r symudiad tuag at dagiau EID gorfodol yn Iwerddon, bydd pob set o dagiau gwartheg newydd gan gyflenwyr cymeradwy yn cynnwys tag EID gwyn.

O 1af Ionawr 2022, mae’n ofynnol bod pob cyflenwr tagiau gwartheg cymeradwy’n cyflenwi tag EID gyda phob archeb tagiau newydd. Bydd pob set o dagiau newydd yn cynnwys un tag EID ac un tag meinwe.

Crynodeb o newyddion Chwefror 2022

i) Cynnydd yn nifer y taliadau Glastir a wnaed yn gynnar

Talwyd dros 2,200 o hawiadau dan gynlluniau Glastir yn Ionawr 2022, sef 78% o’r holl hawliadau gwerth £26.2 miliwn i ffermwyr yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, gwnaed hyn yn bosib yn sgil cyflwyno rhagdaliadau BPS ym mis Hydref y llynedd. Mae hyn yn rhan o’r £66.7 miliwn a glustnodwyd i ymestyn y cynlluniau Glastir tan Rhagfyr 2023.

ii) Iceland yn ymrwymo i rewi prisiau 60 o eitemau tan ddiwedd y flwyddyn

Mae’r manwerthwr mawr, Iceland, wedi ail-ddatgan ei ymrwymiad i rewi prisiau dros 60 o’i nwyddau gwerth gorau hyd at ddiwedd 2022.

Credir y bydd yr holl fanwerthwyr yn gorfod codi eu prisiau, ond bydd yr holl nwyddau rhewedig a werthir gan Iceland am £1 yn aros felly, er nad oes cap ar brisiau ynni busnesau, ac er gwaetha’r cynnydd ym mhris nwyddau, cludiant a llafur.

iii) Tesco’n disgwyl i brisiau’r archfarchnad godi 5%

Mae Cadeirydd Tesco, John Allen, wedi amcangyfrif y gallai prisiau’r archfarchnad godi cymaint â 5% yn ystod chwarter cyntaf 2022 yn sgil y cynnydd ym mhrisiau ynni.

Ar hyn o bryd mae tua 2,100 o’u nwyddau ar eu pris isaf.

Trefnwch eich apwyntiad SAF 2022

Daeth yr adeg honno o’r flwyddyn unwaith eto pan fydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn dechrau meddwl am y Ffurflenni Cais Sengl (SAF). Mae’r ffenestr ymgeisio’n agor ar 1af Mawrth ac mae UAC yn atgoffa’i haelodau bod staff sirol ar gael i helpu, a lliniaru’r straen o lenwi’r ffurflen.

Mae UAC yn darparu’r gwasanaeth hwn yn benodol i’w holl aelodau taledig fel rhan o’u pecyn aelodaeth, ac mae wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd – gan arbed amser a phoen pen gwaith papur iddyn nhw.

Mae’n siŵr mai’r broses o lenwi ffurflen SAF yw’r ymarfer llenwi ffurflen pwysicaf a wneir gan ffermwyr Cymru, a hynny ers 2004, ac mae ôl-effeithiau ariannol camgymeriadau yn y ffurflen yn rhai difrifol. Mae staff UAC nid yn unig wedi’u hyfforddi’n dda ond maent yn gyfarwydd iawn â delio â’r broses ymgeisio gymhleth.

Ers i Lywodraeth Cymru fynnu bod yr holl geisiadau’n cael eu gwneud ar-lein, mae UAC wedi canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’w haelodau.

Mae UAC yn annog ei haelodau, a’r rheiny sy’n llenwi’r ffurflen am y tro cyntaf, i gysylltu â’u swyddfa leol cyn gynted â phosib i drefnu apwyntiad, os oes angen help arnynt i lenwi’r ffurflen.