Diweddariad gan y Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil

Mae grwpiau iechyd a lles gwartheg a defaid wedi uno i ffurfio’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil newydd, i ddarparu un llais dros iechyd a lles anifeiliaid cnoi cil yn y DU, gan gynnwys geifr a cheirw yn y dyfodol.

Cwrddodd y grŵp am y tro cyntaf ym Medi 2020 gyda Ms Kate Hovers, llawfeddyg milfeddygol yng Nghanolbarth Cymru, yn cynrychioli FUW.

Er bod y grŵp yn cynnwys nifer fawr o randdeiliaid y diwydiant, mi fydd yn gweithredu fel corff annibynnol sy’n canolbwyntio ar gynnal a gwella iechyd a lles anifeiliaid cnoi cil, ac yn arbennig ar daclo clefydau endemig.

Ochr yn ochr â chyfarfodydd y grŵp bob deufis, cynhaliodd Cymru’r cyfarfod ‘pedair gwlad’ cyntaf, a oedd yn canolbwyntio ar y gwaith a wnaed yng Nghymru o ran cynllunio iechyd.

Yn ddiweddar mae’r grŵp wedi trafod y cynigion ar gyfer magu lloi llaeth gwrywaidd a dyfais newydd a elwir yn Numnuts. Mae Numnuts yn ddyfais sydd wedi’i thrwyddedu i’w defnyddio yn Awstralia i ddisbaddu a thorri cynffonnau ŵyn a lloi, sy’n cynnwys chwistrelliad anaesthetig lleol cyn gosod y cylch rwber.

Mae defnydd o’r ddyfais wedi’i wahardd yn y DU ar hyn o bryd am nad oes unrhyw drwyddedau ar gael i ddefnyddio anaesthetig lleol mewn defaid, ond yn ddiweddar mae’r grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil wedi ysgrifennu at y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol i ofyn am gael trwydded o’r fath.

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan RHWG a dylech drafod unrhyw bryderon ynghylch clefydau penodol ac iechyd a lles anifeiliaid gyda’ch aelod lleol o Bwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid FUW.

Cynllun Hyrddod Mynydd HCC yn chwilio am ddiedyll masnachol

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru yn chwilio am ddiedyll mynydd masnachol yng Nghymru i ymuno â’r cynllun gwella geneteg, sy’n anelu at gymharu perfformiad dau hwrdd ar grŵp dethol o ddefaid mynydd sy’n cael eu monitro.

Mae’r cynllun yn caniatáu i ffermwyr gymharu dau hwrdd drwy fonitro perfformiad yr ŵyn a’r mamogiaid, all ganiatáu iddyn nhw ddewis yr eneteg orau ar gyfer eu diadell yn y dyfodol.

Bydd y ffermwyr a’u diedyll yn cael cymorth gan y tîm Cynllun Hyrddod Mynydd ar adegau perthnasol, a byddant yn cael hyfforddiant i’w cynorthwyo gyda’r gwaith cofnodi.

Ceir mwy o wybodaeth am y Cynllun Hyrddod Mynydd a’r ffurflen mynegi diddordeb yma: https://meatpromotion.wales/cy/industry-projects/hill-ram-project 

Mae’r ffenestr mynegi diddordeb bresennol yn cau ar 21ain Mai 2021.

Rhowch eich barn ar anghenion y proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn ei myfyrwyr israddedig cyntaf i’r Ysgol Filfeddygol newydd ym Medi 2021.

Gyda chymorth gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol, mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi adnoddau enfawr er mwyn cyfrannu at y sectorau milfeddygol a bwyd amaeth yng Nghymru.

Hoffai Prifysgol Aberystwyth gael eich barn ar sut y gall yr Ysgol newydd gwrdd ag anghenion y proffesiwn milfeddygol yng Nghymru, megis:

  • Pa hyfforddiant ôl-raddedig ddylid ei gynnig?
  • Beth am DPP, hyfforddiant clinigol neu gynadleddau?
  • A ddylid hefyd hyfforddi nyrsys milfeddygol, ffisiotherapyddion a/neu reolwyr?

I ddysgu mwy am yr Ysgol Filfeddygol, ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/vet-sci/ neu ebostiwch Darrel Abernethy, Pennaeth a Chadeirydd Ysgol Filfeddygol Aberystwyth ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Arolwg Plannu yn y Gwanwyn ac Amrywiaeth AHDB

Mae Arolwg Plannu yn y Gwanwyn ac Amrywiaeth AHDB yn darparu’r olwg gyntaf ar yr ardal o rawnfwyd a rêp hadau olew y bwriedir ei chynaeafu yn 2021 ym Mhrydain. Nod yr arolwg yw asesu cyfansoddiad yr amrywiaeth o gnydau gwenith, barlys, ceirch a rêp hadau olew ym Mhrydain, all gynorthwyo tyfwyr i wneud penderfyniadau marchnata.

I ddarparu’r ardal a gynaeafwyd yn 2020 a’r ardal cynaeafu arfaethedig yn 2021, ynghyd â’r amrywiaeth ar gyfer pob cnwd a restrir, ewch i borth ar-lein AHDB.

Bydd canlyniadau’r arolwg ar gael ar-lein ar ahdb.org.uk yng Ngorfffennaf, a bydd dadansoddiad fwy manwl ar gael ar dudalennau marchnad Grawnfwyd a Hadau Olew AHDB

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Mai 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 

Cynllun Gwaredu Plaladdwyr Cyfrinachol a Rhad ac Am Ddim 2021

Mae Dŵr Cymru unwaith eto’n rhedeg ei gynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol a rhad ac am ddim yn 2021.

Mae’r cynllun yn rhan o’r prosiect PestSmart ac mae’n cynnig cyfle i ffermwyr, tyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill i gael gwared ag unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr diangen sydd heb drwydded neu wedi darfod, yn ddiogel ac am ddim.

Cliciwch yma i gofrestru.

 31 Mai 2021
 Ffenestr   Hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Bydd y ffenestr nesaf ar gyfer gwneud cais am gyllid hyfforddiant yn agor ar Ddydd Llun 3 Mai hyd at Ddydd Gwener 25 Mehefin 2021.

Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr sgiliau uchod er mwyn gwneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu rai sydd angen diweddaru manylion eu cyfrif, gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ar Ddydd Llun 21 Mehefin 2021.

Ceir mwy o wybodaeth yma.


3 Mai - 25 Mehefin 2021

Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau

Agorodd ail rownd y Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau a 18fed Mai a bydd yn cau ar 25ain Mehefin 2021.

Nod y cynllun Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau yw cynorthwyo ffermwyr i wella’u seilwaith presennol ar gyfer gorchuddio iardiau – gorchuddio ardaloedd bwydo, storfeydd slyri, storfeydd silwair ac ati – lle gellir gwahanu dŵr glaw.

Gall Swyddogion Gweithredol Sirol FUW esbonio gofynion y cynllun i’r aelodau. Ni fydd staff FUW yn cael llenwi’r Datganiad o Ddiddordeb ar ran aelodau oherwydd y gofynion technegol.

Mae gwybodaeh a chanllawiau pellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 18 Mai - 25 Meh 2021
Adfer Coetir Glastir  

Mae’r 9fed ffenestr Mynegi Diddordeb ar agor nawr ar gyfer y cynllun Adfer Coetir Glastir.

Mae’r cynllun Adfer Coetir Glastir yn darparu gwaith cyfalaf ar gyfer ailstocio, ffensio a gweithgareddau cysylltiedig ar safleoedd sy’n cynnwys llarwydd a hyd at 50% o rywogaethau eraill.

Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno’u trwydded cwympo coed gysylltiedig neu gais am drwydded cwympo coed wrth fynegi diddordeb. Ni fydd Llywodraeth Cymru’n ystyried unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd yn ystod ffenestr Adfer Coetir Glastir flaenorol.

Gweler yma am fwy o wybodaeth ac i fynegi diddordeb.

18 Mai - 25 Meh 2021
Cynllun Grantiau Bach – Tirwedd a Pheillwyr  

Agorodd y ffenestr bresennol ar gyfer y cynllun Grantiau Bach – Tirwedd a Pheillwyr ar 18fed Mai a bydd yn cau ar 25ain Mehefin.

Mae hon yn rhaglen o waith cyfalaf sydd ar gael i fusnesau ffermio ar draws Cymru, i gynnal prosiectau a fydd yn helpu i wella a chynnal nodweddion tirwedd traddodiadol, a darparu cysylltiadau rhwng cynefinoedd pryfed peillio.

Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Llywodraeth Cymru.

18 Mai - 25 Meh 2021
Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio  Mae Cyswllt Ffermio nawr yn cynnig cyrsiau hyfforddiant TGCh i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd.

Mae sesiynau un i un a gweithdai ar-lein ar gael hefyd ar integreiddio technoleg TGCh i’ch busnes fferm.

I archebu, cysylltwch â Lantra ar 01982 552646 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
 

Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield

Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i fod yn rhai sy’n gweithio ym myd ffermio, bwyd neu amaethyddiaeth ac maent yn derbyn bwrseriaeth sylweddol i ariannu teithiau i astudio eu dewis bynciau.

Mae gwybodaeth a manylion ymgeisio ar gael yma: https://www.nuffieldscholar.org/

31 Gorff 2021

Maniffesto Etholiadau Senedd Cymru FUW 2021


Cyn etholiadau Senedd Cymru 2016, rhybuddiodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) am yr heriau digynsail oedd yn wynebu Aelodau’r Senedd a’r Llywodraeth newydd. Ers hynny, mae’r heriau hynny nid yn unig wedi dod yn realiti ond wedi cynyddu a gwaethygu.

Ym Maniffesto Etholiadau Senedd Cymru FUW 2021, mae’r Undeb yn parhau i ddatgan yn glir bod ffermydd teuluol Cymru'n rhan ganolog o'n heconomi wledig, ein diwylliant a'n tirwedd. Maent yn cynnal cannoedd o filoedd o swyddi a degau o filoedd o fusnesau sy'n rhan o'r diwydiant cyflenwi bwyd, tra'n gwneud cyfraniadau dirifedi eraill i les trigolion Cymru a'r DU. Yn ganolog i hyn oll mae cynhyrchu bwyd, sef ein cyfleustod mwyaf gwerthfawr, ochr yn ochr â dŵr.
Rhaid i bolisïau’r dyfodol adlewyrchu’r angen i liniaru’r newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn ein hamgylchedd, ond rhaid bod dyheadau o’r fath wedi’u lliwio gan yr wybodaeth na fydd newidiadau ysgubol sy’n tanseilio’n ffermydd teuluol, a chynhyrchu bwyd, yn gwneud dim mwy na symud y cynhyrchu i wledydd sydd â safonau lles anifeiliaid is, ac ôl troed amgylcheddol uwch yn fyd-eang.

Mae FUW hefyd yn dal i fod yn rhwystredig am y diffyg polisïau penodol i Gymru yn y cynigion ar gyfer cynllun ffermio a thaclo ansawdd dŵr yn y dyfodol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Cymru bresennol, a’r teimlad pendant bod y rhai sy’n ein llywodraethu o Fae Caerdydd erbyn hyn yn bellach i ffwrdd ac yn fwy di-hid o’n cymunedau gwledig nag erioed.

Llywodraeth Cymru’n diddymu cymorth ardrethi ar gyfer cynlluniau ynni dŵr preifat

O Ebrill 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei Chymorth Ardrethi Annomestig (busnes) ar gyfer y cynllun grant Ynni Dŵr fel ei bod yn helpu prosiectau ynni dŵr cymunedol yn unig gyda’u biliau ardrethi, cynllun sydd wedi darparu £1m o gymorth i’r sector hyd yn hyn dros y pedair blynedd diwethaf.

Mae’r grant yn rhyddhau busnesau yng Nghymru rhag y cyfraddau busnes uchel mae cynlluniau ynni dŵr yn gymwys i’w talu.

Bydd amseriad diddymu‘r cymorth hwn yn cael effaith niweidiol sylweddol. Mae Cymdeithas Ynni Dŵr Prydain (BHA) o’r farn y bydd hyn yn effeithio ar tua 50 o gynlluniau preifat, sef 75% o’r sector cynlluniau ynni dŵr graddfa fach, ac mi all nifer ohonynt fethu â dal ati.

Mae hwn yn benderfyniad annoeth ac mae’n tanseilio ymrwymiad Llywodraeth Cymru ei hun i daclo’r newid yn yr hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi cyfarwyddyd clir i ffermwyr i arallgyfeirio i fod yn fwy cydnerth, ac mae hefyd yn hyrwyddo ynni adnewyddadwy fel ffordd hanfodol o gwrdd â’n hymrwymiadau o ran y newid hinsawdd, sy’n golygu bod y penderfyniad i ddiddymu’r cymorth ar gyfer y ffermwyr hynny sydd wedi arallgyfeirio, ac sy’n cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn un dryslyd sy’n peri pryder. Mae hyn yn fwy perthnasol fyth o ystyried bod cynhadledd COP26 yn cael ei chynnal yn y DU eleni.

Gwnaed y penderfyniad hwn gan Lywodraeth Cymru ar adeg pan oedd y Pwyllgor Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i sut y gall Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y ffordd orau.

Diffyg cydnabyddiaeth i ffermwyr yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cymru 2020

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ail gam yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cymru 2020 (SoNaRR2020). Mae SoNaRR2020 yn ofyniad dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a dyma’r ail adroddiad SoNaRR. Cyhoeddwyd y cyntaf yn 2016 i osod llinell sylfaen ar gyfer adnoddau naturiol yng Nghymru.

Mae SoNaRR2020 yn edrych ar statws a thueddiadau adnoddau naturiol, gan adeiladu ar nifer o asesiadau a gynhaliwyd yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang. Mae’n edrych ar y risgiau i’n hecosystemau ac i lesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru sy’n gysylltiedig â’r tueddiadau hynny, yn nhermau’r diffiniadau a osodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae SoNARR2020 yn ymgorffori nifer o adroddiadau sy’n canolbwyntio ar ecosystemau bras, themâu trawsbynciol ac adnoddau naturiol.

Ymgyrch Bathodyn Gwyrdd Blue Peter – yr Undeb yn gwneud safiad dros blant a ffermwyr

Unwaith eto mae FUW yn rhwystredig ynghylch safiad y BBC ar beidio â chynnwys cig coch fel rhan o ddeiet iach a chytbwys, ac mae’n arbennig o ddig ei fod wedi’i anelu at blant y tro hwn, fel rhan o ymgyrch Bathodyn Gwyrdd Blue Peter. Aethpwyd ati’n ddioed felly i daclo’r mater drwy ysgrifennu at olygydd Blue Peter, Ellen Evans, a Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie.

Yn ei lythyr, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts:

“Mae rhaglenni eiconig fel Blue Peter yn cael eu gwylio gyda brwdfrydedd gan blant ledled y wlad, ac yn ddiamau mae’n cael dylanwad mawr ar eu hymddygiad a’u barn, gyda nifer o blant yn chwennych y bathodynnau sydd ar gael. Yr hyn sy’n peri pryder mawr am yr ymgyrch ddiweddaraf hon yw eich bod chi (y BBC) yn annog plant yn fwriadol i roi’r gorau i fwyta cig coch, gan ensynio bod cynhyrchu cig coch yn niweidiol i’r amgylchedd.

“Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gan y BBC gyfrifoldeb dros ddarparu dadl ddiduedd. Mae hyn yn bwysicach fyth wrth gyfathrebu â phlant, ac nid yw’r wybodaeth sydd ar eich gwefan, ac yn yr ymgyrch hon, yn cwrdd â’r cyfrifoldeb hwnnw.”

Yn ei hymateb, dywedodd Ellen Evans fod Blue Peter wedi newid ei neges ‘dim cig’, ond mae’r pryderon yn parhau bod yn rhaglen yn dal i annog plant i wneud ‘addewid mawr’ sy’n eu hannog i beidio â bwyta cig.

Ceir mwy o fanylion yma.

Yr Undeb yn cymryd camau yn erbyn hysbyseb Peta yn y Daily Post

Cafodd aelodau FUW eu cythruddo gan hysbyseb tudalen lawn gan PETA (People for the Ethical Treatment of Animals) a ymddangosodd yn y Daily Post ar 24ain Mawrth 2021, yn galw ar aelodau’r cyhoedd i chwythu’r chwiban, ac anfon lluniau, fideos neu dystiolaeth ysgrifenedig o droseddau lles anifeiliaid ar ffermydd llaeth, megis carnau hollt, gwartheg yn methu sefyll, cloffni heb ei drin, briwiau all fod oherwydd diffyg gwasarn, mastitis heb ei drin, lloi tan bwysau, buchod wedi’u gorchuddio â thom, a cham-drin yn ystod ffrwythloni artiffisial, i enwi ond ychydig.

Mewn ymateb i’r hysbyseb, cysylltodd FUW â thîm golygyddol y Daily Post, yn pwysleisio bod cyhoeddi hysbyseb sy’n annog y cyhoedd i dresmasu ar dir ffermio nid yn unig yn rhoi straen ar yr anifeiliaid, ond hefyd yn beryglus i’r sawl sy’n mynd ar gyfyl y da byw – yn enwedig am y bydd llawer o’r buchod â lloi yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn ein gohebiaeth, mi wnaethon ni bwysleisio bod yr hysbyseb hwn wedi ymddangos ar yr un pryd â llacio’r cyfyngiadau teithio oherwydd Covid, a gwyliau ysgol y Pasg, gan gynyddu’r pryder y gallai aelodau’r cyhoedd fentro i sefyllfaoedd peryglus er mwyn ceisio cydymffurfio â chais ymfflamychol PETA.

Mewn llythyr i’r tîm golygyddol, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Mae'n bosib iawn y bydd unigolion sy’n gweithredu o ganlyniad i’r hysbyseb hwn yn camddeall y sefyllfa, a gall camddealltwriaeth o’r fath wneud niwed i enw da’r diwydiant, os bydd y cyhoedd yn penderfynu rhannu fideos a lluniau allan o’u cyd-destun, yn seiliedig ar eu dealltwriaeth rannol o beth yw gofal cywir o anifeiliaid fferm.

Crynodeb o newyddion Ebrill 2021

i) SNP yn ymrwymo i gadw at bolisïau ffermio’r UE

Yn ei Maniffesto, mae Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) wedi ymrwymo i gadw at bolisïau tebyg i’r rhai sy’n cael eu datblygu fel rhan o’r newidiadau i Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, gan gynnwys y cynigion Fferm i’r Fforc presennol – yn unol â’i hawydd o hyd i ail-ymuno â’r UE.

Er y byddai hanner yr holl daliadau fferm yn canolbwyntio ar ganlyniadau amgylcheddol o 2025, mi fyddai Llywodraeth SNP yn parhau i ddarparu cyfran o daliadau fferm uniongyrchol petai’r Ddeddf Marchnad Fewnol yn caniatáu - sef dull sy’n cyferbynnu’n llwyr â’r sefyllfa yng Nghymru a Lloegr, lle mae’r llywodraethau wedi addunedu i ddod â thaliadau cymorth uniongyrchol i ben yn raddol, gyda’r taliadau yn Lloegr i gael eu cwtogi o eleni ymlaen. Mae hyn yn tynnu sylw at un o’r nifer o bryderon difrifol mae FUW wedi’u codi ers refferendwm Brexit, oherwydd dan y cynlluniau presennol mi fyddai ffermwyr Cymru’n derbyn taliadau am nwyddau cyhoeddus yn unig, gan olygu eu bod yn wynebu cystadleuaeth annheg o du’r rhai yn yr Alban a’r UE oedd yn derbyn cymorth uniongyrchol.

ii) Ffermwyr cig eidion yr Alban yn dal i dderbyn taliadau y pen

Yn ddiweddar, cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban y byddai ei ffermwyr cig eidion yn parhau i dderbyn taliad y pen yn 2021 fel rhan o Gynllum Cymorth Gwartheg Sugno Eidion yr Alban.

Bydd anifeiliaid a enir ar ddaliadau yn yr Alban a fagir o leiaf 75% ar gyfer cig eidion, ac a gedwir am dros 30 diwrnod, yn gymwys i dderbyn £98.92 (tir mawr) neu £144.27 (ynys) y pen, a ddaw o’r gyllideb o £40 miliwn, mewn ymdrech i gynnal niferoedd y buchesi cig eidion.

Cyhoeddi canllawiau Rheoliadau Adnoddau Dŵr ‘NVZ’

Tra bod FUW yn dal i drafod y ffordd orau ymlaen o ran taclo’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) a gyflwynwyd yn ddiweddar, cafodd cam cyntaf y newidiadau ei gyflwyno ar 1af Ebrill 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i ffermwyr a thirfeddianwyr i gydymffurfio â phob un o’r rheoliadau hyn, gan gynnwys y niferoedd enfawr o gyfrifiadau fydd yn ofynnol o 1af Ionawr 2023, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd.

Mae Cyswllt Ffermio hefyd wedi cyhoeddi’r ddwy gyntaf o gyfres o fideos yn esbonio’r rheoliadau a gyflwynwyd ar 1af Ebrill:

  1. Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol
  2. Gwasgaru Gwrtaith: Y Gofynion o 1 Ebrill 2021

Mae FUW am atgoffa aelodau bod 10% o ostyngiad ar gael oddi ar ffioedd ymgynghori Gwasanaethau Amgylcheddol Gwledig Kebek, a gellir cysylltu â nhw drwy Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Bydd FUW yn parhau i roi gwybod i aelodau am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â newidiadau neu arweiniad pellach ar y rheoliadau hyn.

 

 

NAAC yn cyhoeddi consesiwn arbennig i gneifwyr tramor

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol (NAAC) wedi cyhoeddi bod cneifwyr defaid rhyngwladol wedi cael consesiwn arbennig i ddod mewn i’r DU yn 2021 a 2022.

Mae cneifwyr defaid o dramor yn ffynhonnell hanfodol o lafur profiadol, ac er y bydd hi’n parhau i fod yn anodd i lawer ohonynt deithio i’r DU eleni oherwydd cyfyngiadau pandemig Covid-19, mi fydd y consesiwn yn caniatáu i gyfran ohonynt ddod draw i gynorthwyo contractwyr y DU dros y ddau dymor nesaf.

I sicrhau bod cneifwyr, rhai sy’n trafod gwlân, a ffermwyr yn gallu cydweithio’n ddiogel, mae NAAC – gyda chymorth FUW a rhai o gyrff eraill y diwydiant – wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyhoeddi Rhestr Wirio ddiwygiedig ar gyfer cneifio yn ystod Covid.

Anogir ffermwyr i gysylltu â’u cneifwyr yn gynnar i drefnu’r gwaith ac i sicrhau bod y cneifio mor ddidrafferth â phosib, a’i fod yn digwydd yn unol â chanllawiau Covid. Gall unrhyw un sy’n cael trafferth dod o hyd i gneifwyr hefyd ddefnyddio’r Gofrestr Gneifio.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Jill Hewitt, Prif Weithredwr NAAC drwy e-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

FCN, Ffederasiwn Cenedlaethol y CFfI a Sefydliad DPJ yn dod ynghyd i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr ifanc

Mae Rhwydwaith y Gymuned Ffermio (FCN), Ffederasiwn Cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc, a Sefydliad DPJ wedi dod at ei gilydd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ffermwyr ifanc, drwy fodiwlau hyfforddiant Rural+ newydd.

Bydd y fenter hon, sef ‘Cefnogi’n Gilydd’ yn cael ei hariannu gan Sefydliad Westminster, sy’n anelu at annog pobl ifanc o fewn teuluoedd ffermio i gymryd camau cynnar i gynllunio ar gyfer y newidiadau a fydd yn siapio dyfodol y diwydiant amaeth.

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol y CFfI ac FCN wedi gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl i Glybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr, drwy’r fenter Rural+, ers 2013, a nawr bydd Sefydliad DPJ yn darparu cymorth pellach i helpu i ddatblygu’r modiwlau hyfforddiant iechyd meddwl newydd ar gyfer aelodau CFfI 10-26 oed a myfyrwyr amaethyddol 16-25 oed, cyn eu lleoliad gwaith cyntaf o fewn y diwydiant.

Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddeall straen a phryder, rheoli iechyd meddwl personol, sut i siarad am iechyd meddwl, gofyn am gymorth, a chynorthwyo eraill.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Vicki Beers, Rheolwr Partneriaethau Cenedlaethol drwy e-bost : Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol GWCT 2021 y mwyaf erioed

Gyda chymorth Undeb Amaethwyr Cymru, llwyddodd Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt (GWCT) eleni i ddenu mwy o gyfranogwyr, a hynny dros ardal ehangach nag erioed, ers i’r fenter ddechrau yn 2014.

Er gwaetha’r tywydd garw yn ystod y cyfnod cyfrif rhwng y 5ed a’r 21ain o Chwefror 2021, cynyddodd nifer y cyfranogwyr yng Nghymru o 37% o’i gymharu â’r llynedd, sef cyfanswm o 115 o ffermwyr, a gofnododd 107 o rywogaethau ar draws ardal o dros 34,000 o aceri.

Mae’r Cyfrif Mawr yn gofyn i reolwyr tir dreulio 30 munud yn cofnodi’r gwahanol rywogaethau o adar a welant ar eu tir. Mae’n darparu ffermwyr a thirfeddianwyr â dull syml o asesu faint o wahanol adar sydd ar eu fferm bob blwyddyn, ochr yn ochr â gwaith cadwraeth hirdymor. Mae hefyd yn tynnu sylw at y gwaith positif a wneir gan ffermwyr a thirfeddianwyr i geisio gwyrdroi’r gostyngiad yn nifer yr adar ar dir ffermio, ac mae’n dangos ymrwymiad hirdymor ffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghymru i gadwraeth, ochr yn ochr â defnydd cynhyrchiol o’r tir.

Cofnodwyd cyfanswm o 22 o rywogaethau o’r Rhestr Coch o Adar sydd o Bryder Cadwraethol yn ystod y cyfrif eleni. Y pum math mwyaf toreithiog o adar ar draws Cymru oedd y sguthan, y drudwy, yr asgell fraith, y sogiar, a’r gornchwiglen, gyda chyfanswm o 9,200 yn cael eu cyfrif, sef 36% o’r cyfanswm adar a gofnodwyd.

Maint cyfartalog y ffermydd a gymerodd ran oedd 299 acer, gyda 58% o’r rheiny’n rhan o gynllun amaeth-amgylcheddol o ryw fath.

Her Llwybr yr Arfordir Sefydliad DPJ

Yn ddiweddar, lansiodd Sefydliad DPJ, gyda chymorth prop Cymru, y ffermwr Wyn Jones, her newydd, yn cyfuno gweithgaredd corfforol ag iechyd meddwl yng ngefn gwlad.

Mae Her Llwybr Arfordir Cymru’n agored i unigolion a thimau (o hyd at bedwar) i redeg neu gerdded Llwybr Arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd – cyfanswm o 870 o filltiroedd – o fewn tri mis. Bydd yr her yn rhedeg o 26ain Ebrill hyd 8fed Gorffennaf, sef beth fyddai wedi bod yn noswyl Sioe Amaethyddol Frenhinol 2021.

Sefydliad DPJ yw’r brif elusen iechyd meddwl sy’n gweithio gyda’r gymuned amaethyddol yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yng Ngorffennaf 2016, yn dilyn hunanladdiad Daniel Picton Jones, mae Sefydliad DPJ yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl o fewn cymunedau gwledig, ac yn darparu cymorth pan fydd ei angen fwyaf.

Mae llinell ffôn gyfrinachol 24 awr Sefydliad DPJ ‘Rhannu’r Baich’ (0800 587 4262) a’r llinell testun (07860 048 799) yn darparu galwyr â mynediad at wirfoddolwyr hyfforddedig y Samariaid, a fydd yn gwrando heb farnu ac yn cynnig help. Trwy alw ‘Rhannu’r Baich’, gall galwyr hefyd gael mynediad at gwnselwyr cymwysedig, yn rhad ac am ddim, o fewn wythnos o’u galwad i’r gwasanaeth.

Yn dilyn yr her #RHEDEG1000 hynod lwyddiannus a gynhaliwyd yn gynharach eleni, pan lwyddodd 567 o bobl yng Nghymru i godi cyfanswm o dros £45,000 ar gyfer elusennau iechyd meddwl gwledig y DU, bydd yr her hon yn helpu pobl i gwrdd â’r Pum Ffordd o Wella Lles a osodwyd gan y GIG:

  1. Cysylltu â phobl eraill
  2. Gweithgaredd corfforol
  3. Dysgu sgiliau newydd
  4. Rhoi i eraill
  5. Sylwi ar yr hyn sydd o’ch cwmpas (ymwybyddiaeth ofalgar)

I gael mwy o wybodaeth am Sefydliad DPJ, ewch i: www.thedpjfoundation.co.uk
I ymuno â’r her, ewch i: https://thedpjfoundation.wlve.co.uk/

 

Gweminarau Pori Cadwraethol ar Laswelltir

Mae Gweirgloddiau Gwych Cymru, mewn partneriaeth â PONT, yn cynnal cyfres o dair gweminar ar Bori Cadwraethol ar Laswelltir.

Mae’r gyfres ar gyfer tirfeddianwyr, tyddynwyr, ffermwyr a phorwyr ar draws Cymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am bori cadwraethol.

Bydd y weminar gyntaf (gweler isod) yn cyflwyno pori cadwraethol a’i agweddau ymarferol, bydd yr ail (13eg Mai) yn trafod manteision defnyddio bridiau gwahanol o anifeiliaid, a bydd y drydedd (27ain Mai) yn edrych ar bori glaswelltir o fewn cynefinoedd gwahanol.

Rhan 1 – Pori cadwraethol ar laswelltir – Cyflwyniad i bori cadwraethol a’i agweddau ymarferol.
Dyddiad ac amser: 29ain Ebrill 2021, 6-7.30pm
Prif siaradwr: Hilary Kehoe


I gael mwy o fanylion am y sesiwn a chofrestru’ch diddordeb: us02web.zoom.us/webinar/register/WN_M0igXjqzREKIti6TGdYRvg

Profion ymwrthedd i wenwyn llygod rhad ac am ddim

Mae rheolwyr plâu, ffermwyr, a chiperiaid wedi cael cais i helpu i greu darlun mwy cywir o ymwrthedd llygod i wenwyn llygod, fel rhan o raglen brofion CRRU (Yr Ymgyrch dros Ddefnydd Cyfrifol o Wenwyn Llygod), yn gyfnewid am gael syniad bras o’r sefyllfa yn eu lleoliad nhw.

Mae hyn yn cael ei gynnig yn dilyn arolwg mwyaf diweddar CRRU, a ganfu bod tri chwarter y llygod mawr a ddadansoddwyd yn cario genyn ymwrthedd, a bod gan un o bob pump ohonynt ddau enyn gwahanol, sef ymwrthedd hybrid.

Mae’r profion yn golygu casglu 2-3cm o flaenau cynffonnau llygod sydd newydd farw a’u hanfon drwy’r post mewn pecynnau rhad ac am ddim, sydd ar gael, ynghyd â chyfarwyddiadau yma.

Heb gasglu tystiolaeth o’r fath, gall fod yna gyfyngiadau pellach ar y defnydd o wenwyn llygod, os yw’n dal i gael ei ddefnyddio pan mae’n aneffeithlon neu’n ddiangen.

Gwobrau British Farming Awards 2021

Am eu nawfed blwyddyn, bydd gwobrau British Farming Awards yn dychwelyd yn 2021 i ddathlu amrywiaeth, arloesedd a hyblygrwydd ffermwyr ar draws yr holl sectorau.

Bydd y digwyddiad – a drefnir gan AgriBriefing gyda chymorth Morrisons – yn gwobrwyo ffermwyr mewn meysydd megis ffermydd teuluol, myfyrwyr, a newydd-ddyfodiaid, ochr yn ochr â’r sectorau craidd, sef llaeth, cig eidion, defaid, âr, a pheiriannau.

Mae gwobr newydd yn cael ei chynnig yn 2021, sef Arloeswr Cynaliadwyedd y Flwyddyn, i gydnabod ffermwyr sy’n ffermio ochr yn ochr â’r amgylchedd ac yn gweithio i ddiogelu dyfodol ffermio ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mae’r gwobrau hefyd yn croesawu enwebiadau gan fusnesau sydd wedi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio, p’un ai drwy fabwysiadu technolegau newydd, canfod marchnadoedd newydd, neu addysgu’r cyhoedd am amaethyddiaeth yn y DU.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25ain Mehefin 2021. Cliciwch cynnig neu enwebu.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Ebrill 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 

Trosglwyddo Hawliau PBS 2021

Gall ffermwyr erbyn hyn drosglwyddo eu Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) drwy eu gwerthu, eu prydlesu, neu’u hetifeddu.

Rhaid i hyn gael ei gwblhau drwy RPW Ar-lein. Sylwer y gall gwerth yr hawliau a arddangosir yn eich cyfrif newid.

15 Mai 2021

Cynllun Gwaredu Plaladdwyr Cyfrinachol a Rhad ac Am Ddim 2021

Mae Dŵr Cymru unwaith eto’n rhedeg ei gynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol a rhad ac am ddim yn 2021.

Mae’r cynllun yn rhan o’r prosiect PestSmart ac mae’n cynnig cyfle i ffermwyr, tyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill i gael gwared ag unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr diangen sydd heb drwydded neu wedi darfod, yn ddiogel ac am ddim.

Cliciwch yma i gofrestru.

 31 Mai 2021
 Ffenestr   Hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Bydd y ffenestr nesaf ar gyfer gwneud cais am gyllid hyfforddiant yn agor ar Ddydd Llun 3 Mai hyd at Ddydd Gwener 25 Mehefin 2021.

Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr sgiliau uchod er mwyn gwneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu rai sydd angen diweddaru manylion eu cyfrif, gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ar Ddydd Llun 21 Mehefin 2021.

Ceir mwy o wybodaeth yma.


3 Mai - 25 Mehefin 2021

Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield

Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i fod yn rhai sy’n gweithio ym myd ffermio, bwyd neu amaethyddiaeth ac maent yn derbyn bwrseriaeth sylweddol i ariannu teithiau i astudio eu dewis bynciau.

Mae gwybodaeth a manylion ymgeisio ar gael yma: https://www.nuffieldscholar.org/

31 Gorff 2021

FUW yn feirniadol o’r cyfnod ‘mynd yn hawdd’ ar fewnforion o’r UE

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi disgrifio penderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu i fewnforion o’r UE osgoi gwiriadau tan yr hydref fel ergyd i nifer o gynhyrchwyr y DU, a cham gwag yn nhermau sefyllfa negodi’r DU dros welliannau a fyddai’n helpu allforwyr y DU.

Tra bod gwiriadau trylwyr yn eu lle ar gyfer bwydydd a allforir o’r DU i’r UE ers 1af Ionawr 2021, y bwriad oedd cynnal gwiriadau tebyg ar gynnyrch bwyd a fewnforir o’r UE o 1af Ebrill, yn dilyn cyfnod pontio, i ganiatáu i fewnforwyr addasu i’r sefyllfa ar ôl i’r DU adael Marchnad Sengl yr UE.

Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 11eg Mawrth na fydd y gofynion rhaghysbysu ar gyfer cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, rhai mathau o sgil-gynnyrch anifeiliaid, a bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid yn dod i rym tan 1af Hydref 2021. Bydd gofynion tystysgrifau iechyd allforio ar gyfer cig a chynnyrch llaeth, a rhai mathau o sgil-gynnyrch anifeiliaid, yn dod i rym ar yr un dyddiad, ac mae nifer o ofynion eraill wedi’u gohirio tan 2022.

Ar hyn o bryd mae ffiniau’r DU yn gweithredu fel falfiau sy’n gwneud hi’n hynod o anodd a chostus allforio i’r UE yn sgil y gwaith papur a’r fiwrocratiaeth ar ffiniau’r UE, ac eto mae’n hynod o hawdd i’r rhai yn yr UE sy’n mewnforio cynnyrch i’r DU, am fod Llywodraeth y DU wedi hepgor yr angen am wiriadau tebyg ar ein ffiniau ni.

Cyfarfod bwrdd crwn gyda George Eustice AS yn gyfle i ofyn cwestiynau

Mynychodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ac aelodau o’r staff gyfarfod bwrdd crwn gyda’r Gwir Anrhydeddus George Eustice AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan ar 18fed Mawrth 2021.

Yn ystod y cyfarfod, pwysleisiodd FUW yr angen am eglurder ynghylch y cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa o hyd i neilltuo cyllid ar gyfer amaethyddiaeth o 2023 ymlaen, gan greu ansicrwydd ynghylch parhad y taliadau BPS a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, ar ben y cwtogiad o £137 miliwn i gyllideb amaethyddol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn wir, mi ymrwymodd Llywodraeth y DU yn ei maniffesto i sicrhau'r un lefel o gyllid yn union ag y mae Cymru wedi’i dderbyn yn flaenorol gan yr UE i gefnogi amaethyddiaeth, gan addo na fyddai ‘yr un geiniog yn llai’. Mae angen sicrwydd ar y diwydiant am y gyllideb a phryd y bydd taliad aml-flwyddyn yn cael ei gynnig, yn hytrach na chyllideb flynyddol.

FUW wedi’i gythruddo gan hysbyseb PETA yn y Daily Post

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi anfon llythyr o gŵyn at y Daily Post yn dilyn ymateb o du ei haelodau nas gwelwyd ei debyg o’r blaen i’r hysbyseb PETA diweddar a ymddangosodd yn rhifyn Dydd Mercher 24ain Mawrth o’r papur.

Mae aelodau FUW wedi mynegi dicter, rhwystredigaeth a siom bod papur sydd â chynulleidfa wledig ac amaethyddol gref wedi cyhoeddi hysbyseb sy’n annog ymddygiad anghyfrifol a pheryglus, fel y gwna’r hysbyseb PETA, sy’n gofyn i aelodau o’r cyhoedd roi gwybod os welant achosion o fuchod sâl ar ffermydd y DU.

Mae’r llythyr yn datgan bod annog y cyhoedd i dresmasu ar dir ffermio nid yn unig yn aflonyddu ar yr anifeiliaid, ond mae hefyd yn beryglus i’r sawl sy’n mynd yn agos at y da byw - yn enwedig am y bydd llawer o’r buchod â lloi yr adeg hon o’r flwyddyn.

Mae'n bosib iawn y bydd unigolion sy’n gweithredu o ganlyniad i’r hysbyseb hwn yn camddeall y sefyllfa, a gall camddealltwriaeth o’r fath wneud niwed i enw da’r diwydiant, os bydd y cyhoedd yn penderfynu rhannu fideos a lluniau allan o’u cyd-destun, yn seiliedig ar eu dealltwriaeth rannol o beth yw gofal cywir o anifeiliaid fferm.

I wneud iawn am hysbyseb mor amhriodol, mae FUW wedi gofyn am dudalen lawn i’r diwydiant ffermio, er mwyn rhoi sylw i’r broblem o dresmasu ar dir ffermio, a rhoi cyfle i’r diwydiant roi esboniadau cywir o faterion lles anifeiliaid, y tu hwnt i’r adran ffermio arferol.

Gwnaed y penderfyniad i beidio â rhoi cyhoeddusrwydd pellach i’r hysbyseb drwy ddatganiadau i’r wasg neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gweminar FUW ‘Cŵn yn Poeni Da Byw – ydych chi’n ymwybodol o’ch hawliau?’ yn rhoi gobaith

Mae troseddau gwledig wedi dod yn broblem fawr i gymunedau ffermio a chefn gwlad Cymru, gyda mwy a mwy o adroddiadau am gŵn yn poeni da byw, a lladrata da byw a pheiriannau amaethyddol ar gynnydd.

Y mwyaf perthnasol o’r rhain i’r diwydiant amaeth yng Nghymru yw cŵn yn poeni ac yn ymosod ar dda byw. Mewn ymdrech i daclo ymosodiadau ar dda byw a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau o’r fath, lansiodd FUW ei ymgyrch ‘Eich Ci Chi, Eich Cyfrifoldeb Chi’ yn 2019, oedd yn cynnwys arwyddion rhybudd ar gatiau ffermydd, i ddarparu ffermwyr â ffordd ymarferol o atgoffa’r rhai sy’n cerdded eu cŵn yn ymyl da byw o’u cyfrifoldebau a’r peryglon posib.

O ystyried y cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl a fu’n defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y pandemig, ac yn sgil hynny, y cynnydd yn nifer y cŵn sy’n cael eu cerdded yn ymyl da byw, cynhaliodd FUW weminar ar-lein yn dwyn y teitl ‘Cŵn yn Poeni Da Byw – ydych chi’n ymwybodol o’ch hawliau?’ gyda siaradwyr o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed Powys, i daflu goleuni ar y cyfreithiau presennol mewn perthynas â chŵn yn ymosod ar dda byw.

Yn ôl Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru, roedd 449 o achosion o gŵn yn poeni da byw rhwng 2013 a 2017, gyda 648 o anifeiliaid yn cael eu lladd a 376 yn cael eu hanafu, er bod 89 y cant o’r ymosodiadau hyn gan gŵn oedd wedi dianc o’u cartref.

Fodd bynnag, am nad yw’r Swyddfa Gartref yn gofyn bod lluoedd heddlu’n cofnodi ymosodiadau ar dda byw, ni wyddys beth yw maint yr effaith go iawn ar yr economi, cyflenwadau bwyd, cymunedau a busnesau ffermio.

Crynodeb o newyddion Mawrth 2021

i) Cytuno ar ailddosbarthiad yr ardoll cig coch

Bydd ailddosbarthiad ardollau cig coch yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cael ei roi ar waith o 1af Ebrill 2021 er mwyn ystyried symudiadau da byw trawsffiniol.

Bydd y symudiad hwn yn caniatáu talu arian ardollau i fwrdd ardollau’r Wlad y mae’r anifail wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes ynddi, yn hytrach na ble cafodd ei ladd. Er y bydd hyn yn helpu Hybu Cig Cymru, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) a Quality Meat Scotland (QMS) i ganolbwyntio ar eu hymgyrchoedd marchnata unigol, bydd prosiectau ar y cyd er budd pob un o’r tair gwlad yn parhau.

ii) FUW yn croesawu rôl Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru gyfan

Mae cyhoeddiad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ynghylch bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu rôl benodedig Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan wedi’i groesawu gan Undeb Amaethwyr Cymru.

Yn ei chyhoeddiad, cytunodd y Gweinidog i ddarparu cyllid ar gyfer y rôl beilot 12 mis, ac mae wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabliaid y 4 heddlu yng Nghymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn gofyn am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth i benodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr ‘NVZ’ – beth nesaf?

Serch yr ymdrech arwrol a wnaed gan y diwydiant ffermio i annog Aelodau’r Senedd i bleidleisio i ddiddymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) yn y Senedd ar 3ydd Mawrth 2021, cafodd y cynnig ei drechu o drwch blewyn, o 30 pleidlais i 27.

Felly, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, bydd y rheoliadau’n dod yn rhan o’r gofynion trawsgydymffurfio dan Ofyniad Rheoli Statudol (SMR) 1 o Ebrill 2021.

  • Wythnos yn dechrau 22ain Mawrth 2021 – Taflen ffeithiau SMR1 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a neges yn cael ei hanfon i bob ffermwr drwy RPW Ar-lein. Mae’r daflen ffeithiau’n amlinellu’r rheoliadau sydd ar fin dod yn gyfraith o 1af Ebrill, a bydd yn cael ei diweddaru cyn y newidiadau yn 2023 a 2024.
  • Wythnos yn dechrau 22ain Mawrth 2021 – Canllawiau llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dau gwestiwn a ofynnir yn aml – bydd un o’r rheiny’n canolbwyntio ar ffermwyr tenant.
  • Cynhyrchir arweinlyfr maes o law i helpu ffermwyr i wneud y cyfrifiadau gofynnol, ac i roi arweiniad ar y cofnodion a fydd yn ofynnol o 1af Ionawr 2023.
  • 25ain Mawrth 2021 - bydd Cyswllt Ffermio’n lansio canllawiau fideo. Hefyd, bydd modiwlau e-ddysgu, digwyddiadau ar-lein a digwyddiadau wyneb yn wyneb (pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu) yn cael eu lansio dros y misoedd nesaf.

Bydd yr amserlen, ynghyd â chrynodeb o’r rheoliadau ar gael yn rhifyn Ebrill Y Tir.

Ymddengys bod y frwydr hon wedi’i cholli ond nid yw’r rhyfel drosodd o bell ffordd. Mae FUW, ar ran ei aelodau, wedi ymrwymo i wneud ei orau i ddwyn y Llywodraeth nesaf yng Nghymru i gyfrif, i ddiddymu, neu o leiaf i newid trywydd y rheoliadau draconaidd, costus ac anghymesur hyn.

 

 

Y prif fanwerthwr Morrisons yn targedu ffermydd carbon sero-net Prydain

Mae’r prif fanwerthwr Morrisons wedi cyhoeddi cynlluniau i ddod yn archfarchnad gyntaf yn y DU i gael ei chyflenwi’n gyfan gwbl gan ffermwyr carbon sero-net Prydain erbyn 2030.

Fel cwsmer mwyaf ffermwyr Prydain, sy’n cefnogi tua 3,000 o gynhyrchwyr, mae Morrisons yn disgwyl cyrraedd y nod hwn 5 mlynedd o flaen gweddill y farchnad.

Bydd cynhyrchwyr dethol yn dechrau edrych ar strategaethau i leihau allyriadau carbon ar hyd y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys magu bridiau gwahanol, cwtogi teithiau bwyd, ynni adnewyddadwy, adeiladau allyriadau isel, a lleihau defnydd o ddŵr a gwrtaith.

Byddant hefyd yn edrych ar wrthbwyso’r allyriadau carbon drwy blannu glaswelltir a meillion, adfer mawndiroedd a phlannu coed.

Er mwyn cyrraedd ei nod yn 2030, mae Morrisons yn bwriadu gwerthu ei holl wyau â statws carbon sero-net erbyn 2022, a gwneud yr un peth gyda chig eidion erbyn 2025.

HSBC y DU yn lansio cronfa £550m i gefnogi Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru

Mae HSBC y DU wedi lansio cronfa fenthyca gwerth £550m yn ddiweddar i helpu i gefnogi twf Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru.

Mae hon yn rhan o gronfa DU fwy o faint, gwerth £15bn, sy’n cynnwys potiau arian mwy, a glustnodwyd ar gyfer busnesau sy’n masnachu’n rhyngwladol (£2bn), y sector amaethyddol (£1.2bn) busnesau o fewn y sector technoleg (£500m) a busnesau masnachfraint (£500m).

Yn ôl ymchwil a wnaed gan HSBC, mae 62% o fusnesau’r DU yn bwriadu buddsoddi mwy dros y flwyddyn nesaf, er gwaetha’r pandemig Covid-19 presennol.

Mae’r gronfa’n anelu at helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd newydd a chyrraedd nodau a fydd o gymorth i’r diwydiant amaeth yng Nghymru, o ystyried yr ansicrwydd ynghylch dyfodol taliadau cymorth, a rheoliadau costus.

Mae FUW yn croesawu’r ffaith bod HSBC yn cydnabod pwysigrwydd Busnesau Bach a Chanolig o fewn economi’r DU, ffaith sy’n dod yn fwy amlwg fyth yng nghyd-destun economi cefn gwlad Cymru.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma:
https://www.business.hsbc.uk/en-gb/gb/campaign/fund-for-smes

Cynhadledd Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain 2021

Bydd Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain (BSAS) yn cynnal cynhadledd rithwir dros 4 diwrnod, o 12fed i 15fed Ebrill 2021.

Yn dwyn y teitl ‘The Challenge of Change - The New Normal?’, bydd y gynhadledd yn cynnwys dadleuon a gweminarau ar heriau addasu i’r ‘normal’ newydd ar ôl Covid-19 a Brexit.

Bydd siaradwyr rhyngwladol blaenllaw yn rhannu’r datblygiadau ymchwil arloesol diweddaraf ym maes gwyddor anifeiliaid, amaethyddiaeth, polisi a masnach, addysg, a chyfnewid gwybodaeth.

Mae rhai o’r gweminarau allweddol RHAD AC AM DDIM yn cynnwys:

  • Newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, 17.00 - 18.30 Dydd Mawrth 13eg Ebrill 2021
  • Datblygiadau yn y sector llaeth, 13.00 - 14.30 Dydd Mercher 14eg Ebrill 2021
  • Ffermydd cig eidion y dyfodol, 17.00 - 18.30 Dydd Mercher 14eg Ebrill

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: https://bsas.org.uk/conference

Mae tocynnau i’r gynhadledd gyfan a chyfle i gofrestru ar gyfer y gweminarau am ddim ar gael yma: https://bsas.org.uk/conference/booknow

 

Arolygon a holiaduron Mawrth 2021

i) Cwblhewch yr arolwg ar gysylltedd digidol

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (NFWI), gyda chymorth FUW, CFfI Cymru, NFU Cymru a CLA Cymru, wedi lansio arolwg sy’n anelu at gael darlun cyflawn o fynediad aelodau at y band eang a chysylltedd ffonau symudol.

Trwy gydol pandemig Covid-19, mae cysylltedd digidol wedi dod yn fwy a mwy pwysig am resymau gwaith a rhesymau personol.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Ofcom yn Rhagfyr 2020, mae 18,000 o gartrefi yng Nghymru heb fynediad i fand eang digonol, sef un sy’n darparu cyflymder lawrlwytho o 10Mb yr eiliad a chyflymder lanlwytho o 1MB yr eiliad.

Mae’r arolwg ar gael yma yn Saesneg a Cymraeg.

Mae’r arolwg yn un cwbl ddienw ac mae’n agored i unrhyw un 16 oed a throsodd tan 31ain Mawrth.

Os hoffech chi gael copi papur o’r arolwg, cysylltwch â Swyddfa NFWI-Cymru drwy Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 029 2022 1712.

 

ii) ‘Yr Arolwg Ffermio Mawr’ – RABI i daflu goleuni ar y materion sy’n effeithio ar bobl sy’n ffermio

Ar 11 Ionawr 2021, lansiodd RABI y prosiect ymchwil mwyaf erioed ar draws Cymru a Lloegr yn ymwneud â llesiant pobl sy’n ffermio. Bydd yr arolwg eang ei gwmpas hwn yn ystyried y berthynas rhwng iechyd corfforol, lles meddyliol ac iechyd busnesau ffermio am y tro cyntaf.

Wrth i’r pwysau allanol gynyddu, bydd yr ymchwil hanfodol hwn yn darparu’r trosolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o’r gymuned ffermio. Bydd yn nodi’r heriau penodol a wynebir gan genhedlaeth o bobl sy’n ffermio, ac yn amlygu sut mae’r rhain yn effeithio ar fywyd bob dydd.

Mae FUW yn cefnogi’r fenter bwysig hon ac yn annog pawb i gyfrannu at yr ymchwil er mwyn cyrraedd y targed o gasglu 26,000 o ymatebion i’r arolwg.

Nodau’r #BigFarmingSurvey (#ArolwgFfermioMawr)

  • Deall llesiant cenhedlaeth sy’n ffermio
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Ennill dealltwriaeth o bwysau ac effeithiau allanol
  • Llunio cymorth a gwasanaethau yn y dyfodol

Pwy all gymryd rhan: Ffermwyr, gweithwyr fferm, eu cymheiriaid, a phlant sy’n
oedolion
Pryd: 11 Ionawr - 31 Mawrth 2021
Ar-lein: http://ex.ac.uk/BigFarmingSurvey
Print: Gofynnwch am gopi printiedig gan Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Neilltuwch 15 munud i gymryd rhan drwy ymateb i’r arolwg printiedig neu drwy lenwi ein ffurflen ar-lein yn Gymraeg neu Saesneg.

 

iii) Arolwg BeefQ o’r farn ar ansawdd bwyta cig eidion

Yn ystod dwy flynedd diwethaf y prosiect BeefQ mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar bennu nodweddion y carcasau a gyflwynir i’w lladd yng Nghymru, a datblygu system o broffwydo ansawdd bwyta cig eidion, yn seiliedig ar system MSA Awstralia, ond wedi’i wirio gan ddefnyddio samplau cig eidion y DU a chynnal profion blasu ymhlith defnyddwyr.

Dangosodd gwaith y panel blasu defnyddwyr bod pobl yn fodlon talu dwbl am gynnyrch o’r ansawdd gorau, ac erbyn hyn mae gan y model proffwydo ansawdd bwyta cig eidion y potensial i arwain at ansawdd bwyta o safon warantedig, a mwy o hyder yng nghig eidion Cymru ymhlith defnyddwyr.

Nawr bod y gwaith hwn wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, mae’r prosiect yn dechrau ar gyfnod newydd a hanfodol, sef ymgynghori â diwydiannau ffermio a bwyd Cymru a’r DU, i fesur yr awydd/angen am system proffwydo ansawdd bwyta cig eidion, ac i ystyried sut y gellid rhoi system o’r fath ar waith.

Felly hoffai tîm BeefQ annog unrhyw un sy’n gweithio o fewn y gadwyn cyflenwi cig (ffermwyr, lladd-dai, cigyddion, manwerthu), yn ogystal â’r sectorau arlwyo a lletygarwch, i gwblhau’r arolwg. Bydd yr ymatebion yn cyfrannu tuag ar argymhellion ar ddichonolrwydd y system, sut i’w gweithredu, a’r rhwystrau tybiedig rhag gwneud hynny.

I gymryd rhan yn yr arolwg ewch i http://www.beefq.wales/survey.html


iv) Holiadur ar ganfod heigiadau trogod mewn anifeiliaid cnoi cil a’r ffactorau risg cysylltiedig

Mae Ms Sheeza Iqbal, myfyrwraig Gradd Meistr ym Mhrifysgol Hartpury yn gwneud gwaith ymchwil ar ganfod heigiadau trogod mewn anifeiliaid cnoi cil a’r ffactorau risg cysylltiedig.

Bydd yr ymchwil yn cyfrannu at y wyddoniaeth o ran rheoli heigiadau trogod, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r heintiau y gall trogod eu lledaenu.

Cedwir yr holl ymatebion yn ddienw.

Gellir cwblhau’r holiadur yma a gellir cysylltu â Ms Sheeza Iqbal ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i gael gwybodaeth bellach.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Mawrth 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 


Grant Busnes i Ffermydd

Mae 8fed ffenestr mynegi diddordeb y Grant Busnes i Ffermydd ar agor erbyn hyn a bydd yn cau ar 9 Ebrill 2021. Bydd ffurflenni ar-lein ar gael i’w llenwi drwy RPW Ar-lein.

Ceir canllawiau pellach a rhestr o eitemau cymwys yma.

9 Ebrill 2021

Taliadau 2021 Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 

Telir holl daliadau 2021 Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) mewn sterling.

Os ydy’r cais yn un cymwys a’r holl Ddogfennau Ategol angenrheidiol wedi’u derbyn, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwneud Rhagdaliad BPS o 15 Hydref 2021, o 70% o’r hyn a ragwelir yw gwerth hawliad BPS terfynol 2021.

Ni fydd angen gwneud cais ar wahân ar gyfer y rhagdaliad hwn.

Bydd taliadau BPS olaf 2021 yn dechrau o 15 Rhagfyr 2021.

 

Cynllun Gwaredu Plaladdwyr Cyfrinachol a Rhad ac Am Ddim 2021

Bydd Dŵr Cymru unwaith eto’n rhedeg ei gynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol a rhad ac am ddim yn 2021. Bwriedir agor y broses gofrestru yn ystod Ebrill 2021, ond yn y cyfamser, i gael gwybod mwy a chofrestru ar gyfer diweddariadau cliciwch yma.

 

Trosglwyddo Hawliau PBS 2021

Gall ffermwyr erbyn hyn drosglwyddo eu Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) drwy eu gwerthu, eu prydlesu, neu’u hetifeddu.

Rhaid i hyn gael ei gwblhau drwy RPW Ar-lein. Sylwer y gall gwerth yr hawliau a arddangosir yn eich cyfrif newid.

15 Mai 2021

Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield

Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i fod yn rhai sy’n gweithio ym myd ffermio, bwyd neu amaethyddiaeth ac maent yn derbyn bwrseriaeth sylweddol i ariannu teithiau i astudio eu dewis bynciau.

Mae gwybodaeth a manylion ymgeisio ar gael yma: https://www.nuffieldscholar.org/

31 Gorff 2021

FUW yn annog Aelodau’r Senedd i bleidleisio yn erbyn Rheoliadau Ansawdd Dŵr Draconaidd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog unrhyw un sydd am weld dull effeithiol, wedi’i dargedu, o wella ansawdd dŵr heb fygwth dyfodol busnesau fferm, i gysylltu â’u Haelod o’r Senedd lleol i’w annog i bleidleisio i ddiddymu’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) a osodwyd yn ddiweddar, ar 3ydd Mawrth.

Yn dilyn blynyddoedd o waith gan randdeiliaid fel rhan o Is-grŵp Llygredd Amaethyddol Fforwm Rheoli Tir Cymru, a chyflwyno adroddiad yn Ebrill 2018 yn amlinellu 45 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, mi ddewison nhw, ar 27ain Ionawr, gopïo rheolau Parthau Perygl Nitradau 30 oed yr UE a’u hailbrandio’n Rheoliadau Adnoddau Dŵr.

Er gwaetha’r ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru, sef prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol, eisoes wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru y gall y dull Parthau Perygl Nitradau (NVZ) arwain at “ganlyniad croes i’r bwriad”, sef gwaethygu ansawdd dŵr, a’i fod yn cefnogi’r 45 o argymhellion, bydd y rheoliadau newydd hyn yn gosod rheolau NVZ a draws Cymru gyfan.

I grynhoi, bydd hyn yn cynnwys cyfnodau cau ar gyfer gwasgaru gwrtaith a slyri, gwaith papur di-ddiwedd gyda’r cynlluniau rheoli maetholion, cynhyrchu mapiau risg, gan gynnwys cyfrifo’r slyri a gynhyrchir a faint o nitrogen sydd ynddo, yn ogystal â’r gofyniad i allu storio gwerth 5 mis o slyri yn ystod y cyfnod cau o 4 mis rhwng Hydref ac Ionawr.

Yr effeithiau ar fasnachu‘n parhau yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit

Mae masnach UE cynnyrch bwyd a diod y DU yn parhau i gael ei effeithio yn dilyn diwedd Cyfnod Pontio Brexit.

Croesawyd y Cytundeb Masnach Rydd a arwyddwyd rhwng y DU a’r UE, gan osgoi tariffau o hyd at 50% ar rhai mathau o gynnyrch amaethyddol, er y disgwylid problemau cychwynnol o hyd o ran biwrocratiaeth a gwiriadau ychwanegol ar y ffiniau.

Fodd bynnag, ymddengys bod lorïau gyda llwythi nwyddau gwerth degau o filoedd o bunnau‘n dal i gael eu gwrthod mewn porthladdoedd oherwydd un camgymeriad ymhlith pentwr o waith papur, a bod amrywiadau yn y sylw i fanylder ar Dystysgrifau Iechyd Allforio, i enwi ond ychydig o enghreifftiau, yn destun trafod o hyd yn ystod cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn y DU.

Mae’n bryder arbennig bod nifer o’r problemau cychwynnol hyn yn troi‘n broblemau hirdymor sydd angen sylw erbyn hyn, er gwaetha’r ffaith bod lefel y fasnach allforio oddeutu 20% i 50% o’i lefel arferol, ac nad oes fawr ddim allforio anifeiliaid byw oherwydd y prinder o safleoedd tollau ar y cyfandir.

Wrth i wiriadau ychwanegol ddod i rym ar y ffiniau ar allforion i’r UE ar 1af Ionawr 2021, dechreuodd yr UE ar gyfnod gras chwe mis ar gyfer cynnyrch yn cyrraedd y DU. Felly nid yw’r broses drafferthus o gwlbhau Tystysgrifau Iechyd Allforio’n debygol o fynd yn haws, yn gyflymach, neu’n well fyth, yn electronig, nes bod yr UE yn cydnabod pa mor anaddas i’r diben y mae’r system bresennol, ymhen pedwar mis.

Undebau Ffermio a CFfI Cymru’n mynegi pryderon am y Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth

Mae FUW, NFU Cymru a CFfI Cymru wedi anfon llythyr ar y cyd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn mynegi pryderon ynghylch cyfeiriad polisi amaethyddol Cymru yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru).

Mae’r llythyr yn galw ar y Gweinidog i ail-ystyried beth ddylai polisi’r dyfodol ei gynnig i Gymru, o ystyried nad oes fawr ddim wedi newid dros y tair proses ymgynghori ers 2018, a bod yna ddiffyg uchelgais o hyd mewn perthynas â dyfodol ffermio yng Nghymru.

Mae’n datgan hefyd “nid yw’r trywydd a gynigir i’w weld yn adlewyrchu natur unigryw ffermio yng Nghymru, sy’n seiliedig ar ffermydd teuluol sy’n cyflenwi ar gyfer ein economi, tirwedd, iaith a diwylliant. Yn hytrach, ac yn destun y pryder mwyaf, ymddengys ein bod yn rhoi polisi ar waith sy’n seiliedig ar ddiffiniad cul iawn o nwyddau cyhoeddus, sef meddylfryd polisi tebyg iawn i’r un a welsom yn deillio o fannau eraill, yn hytrach na pholisi ‘Gwnaed yng Nghymru‘."

Mae’r diwydiant yn cydnabod ac yn croesawu’r angen am newid, yn y gred mai’r prif gyfle yn sgil Brexit oedd datblygu polisi amaethyddol yng Nghymru ar gyfer Cymru, oedd yn canolbwyntio ar ei phobl, a’r tir a ddefnyddir i ffermio a chynhyrchu bwyd.

Defra’n ymateb i berthnasoedd cytundebol yn ymgynghoriad diwydiant llaeth y DU

Mae Defra wedi cyflwyno crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar arferion cytundebu o fewn sector llaeth y DU, a gynhaliwyd rhwng Mehefin a Medi 2020, yn gofyn am farn proseswyr a chynhyrchwyr ar yr angen o bosib i ddiwygio contractau llaeth y DU.

Roedd ymateb Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cynrychioli barn ei Bwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth, a chynhyrchwyr llaeth ar draws Cymru, ac mae’n dda nodi bod mwyafrif yr ymatebion a gafwyd gan gynhyrchwyr yn rhannu safbwyntiau tebyg, gan baentio darlun clir ar gyfer Defra a’r Llywodraethau datganoledig.

Mae’r ymatebion yn darparu tystiolaeth gref bod angen deddfwriaeth ar gyfer contractau llaeth, a bod angen llinell sylfaenol statudol i sicrhau bod yr holl gontractau‘n cyrraedd safon dderbyniol. Fel y cynigiwyd gan FUW, roedd mwyafrif yr ymatebwyr, gan gynnwys cynhyrchwyr a phroseswyr, yn cytuno y dylai’r ddeddfwriaeth fod yn hyblyg ac yn glir, a dylai’r partïon contractio allu cytuno ar fanylion megis cyfnodau rhybudd a meintiau, cyn belled â bod y safonau lleiaf yn cael eu bodloni a bod y manylion yn y contractau’n glir.

Crynodeb o newyddion Chwefror 2021

i) Cadeirydd newydd i Hybu Cig Cymru

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi cyhoeddi’n ddiweddar mai Catherine Smith fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Kevin Roberts fel Cadeirydd Hybu Cig Cymru, o 1af Ebrill 2021.

Mae Catherine, sydd â gradd mewn Rheoli Bwyd a Defnyddwyr, yn ymgyghorydd busnes bwyd sydd â thros 20 mlynedd o brofiad yn y sector cig coch, a hi fydd y fenyw gyntaf i ymgymryd â rôl Cadeirydd HCC.

ii) Pryderon yn codi wrth i Defra gyflogi swyddog newydd i ganolbwyntio ar Dir Comin

Yn ddiweddar, mae’r Sefydliad Tir Comin wedi mynegi pryderon i Bwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y perygl posib na fydd Cominwyr yn Lloegr yn gallu cael mynediad at y Cynllun Rheoli Tir Amgylcheddol (ELMS) newydd tra bod taliadau uniongyrchol yn parhau i gael eu dirwyn i ben.

Ers hynny mae Defra wedi penodi swyddog newydd, heb unrhyw wybodaeth flaenorol, i ganolbwyntio ar y polisi ar gyfer Tir Comin, ond mae’r Sefydliad Tir Comin yn honni bod gan Defra “lefel uchel o uchelgais i gyflwyno’r cynllun ELM newydd ar gyfer tir comin yn Lloegr, ond lefel isel o baratoad ar gyfer gwneud hynny”, ac felly mae wedi cynnig darparu hyfforddiant i staff Defra, o ystyried cymhlethdod Tir Comin.

iii) Talwyr lefi’n pleideisio yn erbyn AHDB yn y sector garddwriaethol

O’r 1,400 o dalwyr lefi garddwriaethol yn Lloegr sy’n talu am AHDB yn y sector garddwriaethol, pleidleisiodd 61%, mewn pleidlais a gynhaliwyd ar 15fed Chwefror, yn erbyn parhau’r lefi statudol.

Er bod y bleidlais yn cynnwys cwestiwn ie neu na syml ar gyfer yr hyn sy’n fater cymhleth mewn perthynas â gwerth y lefi, maint y fferm, a’r math o gnwd, mi fydd Gweinidogion Defra a’r gweinyddwyr datganoledig – nad ydynt yn gaeth i ganlyniadau’r bleidlais – yn mynd ati nawr i archwilio’r canlyniadau hyn yn fwy manwl cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Her #Rhedeg1000 yn llwyddiant i elusennau iechyd meddwl yng nghefn gwlad

Yn ystod Ionawr 2021, galwodd her #Rhedeg1000 ar bobl o Gymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban i ymuno yn y ras yn eu gwlad eu hunain, a rhedeg 1,000 o filltiroedd ar gyfer elusen.

Sefydlwyd y fenter yn 2020 i gydfynd â’r Wythnos Iechyd Meddwl ym Myd Amaeth (#AgMentalHealthWeek), gyda’r ffi ymuno o £20 gan bob cyfranogwr yn mynd i bum elusen iechyd meddwl yng nghefn gwlad: The Farming Community, Embrace Farm, The Do More Agriculture Foundation, RSABI a Sefydliad DPJ.

Rhedodd cyfanswm o 1,200 o gyfranogwyr 64,785 o filltiroedd a chodi £45,438 ar gyfer y pum elusen, a chyfrannodd tîm grŵp FUW Ltd 1,156 o filltiroedd at y cyfanswm terfynol.

Dan arweiniad sylfaenydd Sefydliad DPJ Emma Picton-Jones, Cymru oedd y wlad gyntaf i gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o filltiroedd, gan redeg y pellter hiraf yn gyfan gwbl, a denu’r nifer uchaf o gyfranogwyr, sef 567 o redwyr, gan godi cyfanswm o £12,700.

Cyfrifydd KPI Cyflym AHDB ar gael i ffermwyr llaeth

Mae AHDB wedi lansio Cyfrifydd KPI (Dangosyddion Perfformiad Allweddol) Cyflym i helpu ffermwyr llaeth i feincnodi eu ffigurau perfformiad yn erbyn ffermydd eraill. Mae deall sut mae eich busnes fferm yn perfformio yn hanfodol i wneud penderfyniadau ynghylch gwella perfformiad a gosod targedau ar gyfer y dyfodol.

Gall y cyfrifydd gymharu data hyd at 9 o ddangosyddion perfformiad allweddol i wella cynhyrchedd a phroffidioldeb yn erbyn y 5% uchaf, 25% uchaf neu ffermydd canolig, er mwyn nodi meysydd i’w gwella.

Mae’r cyfrifydd, ynghyd â chanllawiau, adnoddau perthnasol ac astudiaethau achos ar gael yma: https://kpiexpress.ahdb.org.uk/Home/Index

Birch Farm Plastics i ddechrau gwasanaeth casglu o Wanwyn 2021

Mae Birch Farm Plastics wedi cyhoeddi cynlluniau i ddechrau gwasanaeth casglu plastig o ffermydd o Wanwyn 2021.

Gyda phrosiect newydd sy’n cael ei arwain gan gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr, y gobaith yw y bydd y gwasanaeth casglu newydd yn golygu bod llawer mwy o ddeunydd plastig amaethyddol yn mynd i’w ailgylchu yn hytrach nag i safleoedd tirlenwi, a fydd o gymorth i bob ffermwr sy’n debygol o fod yn talu cyfraniad eco am ddeunydd lapio silwair yn barod.

Mae’r cyfraniad yn mynd i gynllun casglu cenedlaethol y DU, sef Agriculture Plastics Environment (APE) fel cymhorthdal ar gyfer costau ailgylchu gwastraff plastig, gyda’r nod o gadw’r costau mor isel â phosib.

Er mwyn ymyrryd, a mynd i’r afael â’r meintiau mawr o ddeunydd plastig ar ffermydd, nod Birch Farm Plastics yw rhoi blaenoriaeth i, a chynyddu nifer y mannau casglu lle gellir casglu oddi wrth grŵp o ffermydd gyda’i gilydd.

Darperir mwy o fanylion a chostau maes o law, ond gall ffermwyr fynegi diddordeb yn y cynllun casglu plastig a fydd yn dechrau yn y Gwanwyn drwy gysylltu â Birch Farm Plastics ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01792 869776.

Defra’n cynnal cyfres o weminarau ar fewnforio cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid

Yn Ebrill 2021, mi fydd set bellach o newidiadau’n dod i rym ar fewnforio cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid (POAO) i’w fwyta gan bobl, fel y’u hamlinellir yng Nghynllun Gweithredu’r Ffin. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar fewnforio bwyd a diod sy’n cynnwys cynnyrch anifeiliaid.

Cofrestrwch isod i fynychu gweminar:

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain
22/02/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain – gyda ffocws ar gynnyrch cyfansawdd
01/03/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain
08/03/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain- gyda ffocws ar gynnyrch cyfansawdd
15/03/2021 14:00- 15:00 - Cofrestrwch yma

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain – gyda ffocws ar Bysgod a Chynnyrch Pysgod
22/03/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma
Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain
29/03/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma

Arolygon a holiaduron Chwefror 2021

 

 i) Prosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar drosglwyddiad Neospora caninum drwy faw cŵn

Mae neosborosis yn glefyd difrifol a achosir gan y parasit protosoaidd Neospora caninum, clefyd heintus sy’n un o achosion mwyaf cyffredin erthyliad ymhlith gwartheg ledled y byd. Profwyd bod cŵn domestig yn gyfranwyr allweddol i epidemioleg Neosborosis, am eu bod yn gollwng oocystau yn eu baw, sy’n hanfodol i ledaenu’r clefyd.

Mae prosiect ar droed gan Brifysgol Aberystwyth sy’n archwilio heintiad N. caninum. Fel rhan o’r ymchwil hwn bydd maint yr oocystau N. caninum mewn baw cŵn yn cael ei archwilio ar lwybrau cyhoeddus ar draws Cymru. Maent yn chwilio am ffermydd sy’n barod i gymryd rhan yn y prosiect hwn, a allai helpu i nodi’r rhanbarthau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ran y clefyd, ac am ffermydd gwartheg sydd â llwybr troed yn rhedeg ochr yn ochr neu drwy’r fferm, ac sydd â hanes o broblemau gyda baw cŵn. Mae ganddynt ddiddordeb mewn ffermydd sydd â hanes o Neosborosis, yn ogystal â rhai sydd ddim yn ystyried Neosborosis yn broblem. Maent hefyd am gynnal arolwg o gŵn fferm ar ffermydd penodol.

Bydd yr ymchwil hwn yn rhoi cyfle i Brifysgol Aberystwyth i wella dealltwriaeth o glefyd sy’n achosi colledion economaidd enfawr i ffermwyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan ac am gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.; bydd unrhyw wybodaeth a roir gennych yn ystod y prosiect hwn yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a bydd yr holl data’n cael ei grynhoi fel na fydd modd adnabod ffermydd unigol.

 

ii) ‘Yr Arolwg Ffermio Mawr’ – RABI i daflu goleuni ar y materion sy’n effeithio ar bobl sy’n ffermio

Ar 11 Ionawr 2021, lansiodd RABI y prosiect ymchwil mwyaf erioed ar draws Cymru a Lloegr yn ymwneud â llesiant pobl sy’n ffermio. Bydd yr arolwg eang ei gwmpas hwn yn ystyried y berthynas rhwng iechyd corfforol, lles meddyliol ac iechyd busnesau ffermio am y tro cyntaf.

Wrth i’r pwysau allanol gynyddu, bydd yr ymchwil hanfodol hwn yn darparu’r trosolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o’r gymuned ffermio. Bydd yn nodi’r heriau penodol a wynebir gan genhedlaeth o bobl sy’n ffermio, ac yn amlygu sut mae’r rhain yn effeithio ar fywyd bob dydd.

Mae FUW yn cefnogi’r fenter bwysig hon ac yn annog pawb i gyfrannu at yr ymchwil er mwyn cyrraedd y targed o gasglu 26,000 o ymatebion i’r arolwg.

Nodau’r #BigFarmingSurvey (#ArolwgFfermioMawr)

  • Deall llesiant cenhedlaeth sy’n ffermio
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Ennill dealltwriaeth o bwysau ac effeithiau allanol
  • Llunio cymorth a gwasanaethau yn y dyfodol

Pwy all gymryd rhan: Ffermwyr, gweithwyr fferm, eu cymheiriaid, a phlant sy’n
oedolion
Pryd: 11 Ionawr - 31 Mawrth 2021
Ar-lein: http://ex.ac.uk/BigFarmingSurvey
Print: Gofynnwch am gopi printiedig gan Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Neilltuwch 15 munud i gymryd rhan drwy ymateb i’r arolwg printiedig neu drwy lenwi ein ffurflen ar-lein yn Gymraeg neu Saesneg.



iii) Ymchwil ar effeithiau economaidd-gymdeithasol disodli’r PAC

Mae Ms Cari Owen yn fyfyriwr Economeg Busnes trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n gwneud ymchwil ar effeithiau economaidd-gymdeithasol tybiedig disodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ar gymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae’r arolwg wedi’i anelu at ffermwyr sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi derbyn cymorthdaliadau drwy’r PAC yn y gorffennol, ac ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau.

Mae’r arolwg ar gael yma. Cysylltwch â Cari ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.


iv) Arolwg BeefQ o’r farn ar ansawdd bwyta cig eidion

Yn ystod dwy flynedd diwethaf y prosiect BeefQ mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar bennu nodweddion y carcasau a gyflwynir i’w lladd yng Nghymru, a datblygu system o broffwydo ansawdd bwyta cig eidion, yn seiliedig ar system MSA Awstralia, ond wedi’i wirio gan ddefnyddio samplau cig eidion y DU a chynnal profion blasu ymhlith defnyddwyr.

Dangosodd gwaith y panel blasu defnyddwyr bod pobl yn fodlon talu dwbl am gynnyrch o’r ansawdd gorau, ac erbyn hyn mae gan y model proffwydo ansawdd bwyta cig eidion y potensial i arwain at ansawdd bwyta o safon warantedig, a mwy o hyder yng nghig eidion Cymru ymhlith defnyddwyr.

Nawr bod y gwaith hwn wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, mae’r prosiect yn dechrau ar gyfnod newydd a hanfodol, sef ymgynghori â diwydiannau ffermio a bwyd Cymru a’r DU, i fesur yr awydd/angen am system proffwydo ansawdd bwyta cig eidion, ac i ystyried sut y gellid rhoi system o’r fath ar waith.

Felly hoffai tîm BeefQ annog unrhyw un sy’n gweithio o fewn y gadwyn cyflenwi cig (ffermwyr, lladd-dai, cigyddion, manwerthu), yn ogystal â’r sectorau arlwyo a lletygarwch, i gwblhau’r arolwg. Bydd yr ymatebion yn cyfrannu tuag ar argymhellion ar ddichonolrwydd y system, sut i’w gweithredu, a’r rhwystrau tybiedig rhag gwneud hynny.

I gymryd rhan yn yr arolwg ewch i http://www.beefq.wales/survey.html

v) Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i gadwyni cyflenwi bwyd

Mae Prosiect Cydweithredol Ymchwil Bwyd (FORC) Prifysgol Caerdydd a’i bartneriaid wedi cynllunio arolwg ac arf mapio, i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r bobl, sefydliadau a phartneriaethau ar draws Cymru sy’n gweithio tuag at system fwyd gynaliadwy a theg, yn ogystal â thynnu sylw at weithgareddau sydd wedi’u cysylltu’n dda, ac unrhyw fylchau all fodoli (yn ddaearyddol, yn nhermau polisi, ac mewn perthynas ag adnoddau).

Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn bwydo’n awtomatig i Adnodd Rhwydwaith Bwyd Cymru, sef arf ar-lein y gellir ei gyrchu’n uniongyrchol. Bydd data’r arolwg yn cael ei arddangos yno; mae arf Adnodd Rhwydwaith Bwyd Cymru yn adnodd agored y gall unrhyw un ei ddefnyddio i’w cynorthwyo i adeiladu system fwyd gynaliadwy a theg.

Po fwyaf y cyfranogiad, y mwyaf defnyddiol fydd yr arf. Hefyd, defnyddir yr wybodaeth a rennir yn yr arolwg i helpu i siapio gweithgareddau partneriaeth a chydweithio pellach o fewn cymuned rhanddeiliaid system fwyd Cymru.

Mae’r arolwg ar gael yma:
https://socsi.qualtrics.com/jfe/form/SV_dmQQOoptgdRn0Hj

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Angela ar: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Chwefror 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Ffenestr ceisiadau  hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Mae’r ffenestr gais bresennol am gyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddiant byr yn cau ar Ddydd Gwener 26 Chwefror 2021.

Cyn gwneud cais am hyfforddiant, rhaid ichi: i) fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ii) fynd ar wefan Busnes Cymru (BOSS) drwy Sign On Cymru ar: https://businesswales.gov.wales/boss/cy iii) lenwi Cynllun Datblygiad Personol.


Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr sgiliau uchod i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu rai sydd angen diweddaru eu manylion cyfrif gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 5pm ar Ddydd Llun 22 Chwefror 2021

Ceir mwy o wybodaeth yma

Gellir storio a diweddaru cofnodion holl gyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio drwy’r Storfa Sgiliau.

26 Chwefror 2021

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 

Grant Cynhychu Cynaliadwy

Mae ffenestr mynegi diddordeb y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy presennol ar agor erbyn hyn

Mae’r rhai sydd eisoes wedi derbyn arian Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yn gymwys i wneud cais am y grant £50,000 llawn.

Gellir gwneud cais am gyllid i ymestyn storfa slyri bresennol.

Bydd angen i’r rhai sy’n gwneud Mynegiant o Ddiddordeb llwyddiannus gyflwyno cais llawn o fewn 12 wythnos, a bydd angen cwblhau’r gwaith a’r cais erbyn 30 Mehefin 2023.

Mae gwybodaeth a chanllawiau pellach ar gael yma:
https://llyw.cymru/grant-cynhyrchu-cynaliadwy-ffenestr-7?_ga=2.151914425.1624394682.1613738729-1359518786.1609845826

12 Mawrth 2021


Grant Busnes i Ffermydd

Bydd ffenestr mynegi diddordeb y Grant Busnes i Ffermydd nesaf yn agor ar 1 Mawrth ac yn cau ar 9 Ebrill 2021.

Bydd canllawiau pellach a rhestr o eitemau cymwys ar gael yma cyn 1 Mawrth.

1 Mawrth – 9 Ebrill 2021

Cynllun Gwaredu Plaladdwyr Cyfrinachol a Rhad ac Am Ddim 2021

Bydd Dŵr Cymru unwaith eto’n rhedeg ei gynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol a rhad ac am ddim yn 2021. Bwriedir agor y broses gofrestru yn ystod Ebrill 2021, ond yn y cyfamser, i gael gwybod mwy a chofrestru ar gyfer diweddariadau cliciwch yma.

 

Trosglwyddo Hawliau PBS 2021

Gall ffermwyr erbyn hyn drosglwyddo eu Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) drwy eu gwerthu, eu prydlesu, neu’u hetifeddu.

Rhaid i hyn gael ei gwblhau drwy RPW Ar-lein. Sylwer y gall gwerth yr hawliau a arddangosir yn eich cyfrif newid.

15 Mai 2021

Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield

Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i fod yn rhai sy’n gweithio ym myd ffermio, bwyd neu amaethyddiaeth ac maent yn derbyn bwrseriaeth sylweddol i ariannu teithiau i astudio eu dewis bynciau.

Mae gwybodaeth a manylion ymgeisio ar gael yma: https://www.nuffieldscholar.org/

31 Gorff 2021

Rheoliadau adnoddau dŵr (rheoli llygredd amaethyddol) (Cymru) 2021

Ar 27 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gyflwyno Rheoliadau adnoddau dŵr (rheoli llygredd amaethyddol) (Cymru) 2021 er mwyn lleihau digwyddiadau llygredd amaethyddol.

Trafodwyd y rheoliadau hyn ers nifer o flynyddoedd ac maent yn cyfateb i gyflwyno NVZ dros Gymru gyfan, gyda'r amcangyfrif o gost i’r diwydiant amaeth wedi'i fesur yn y cannoedd o filiynau.

Mae Aelod y Senedd Llyr Gruffydd wedi cyflwyno dadl yn y Senedd yn cynnig dirymu'r rheoliadau.

Os mae nhw’n cael eu pasio gan y Senedd, bydd y rheoliadau yn cael eu cyflwyno fesul cam dros y tair blynedd nesaf gan ddechrau o 1 Ebrill 2021.

Bydd manylion llawn a safbwynt FUW yn cael eu hanfon at bob aelod FUW fel neges annibynnol yn ystod yr wythnosau nesaf, ond wrth reswm mae’r undeb yn gwrthwynebu’r ddeddf.

 

Ochenaid o ryddhad wrth inni osgoi Brexit heb gytundeb

Rhoddodd ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, a bron pob diwydiant arall mae’n siŵr, ochenaid o ryddhad pan gytunwyd yn y pen draw ar Gytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a’r UE ar 24ain Rhagfyr 2020.

Yn sgil y cytundeb, cafodd y DU ei rhestru fel Trydedd Wlad gan yr UE, sef y cadarnhad hir-ddisgwyliedig oedd yn hanfodol er mwyn gallu dal ati i allforio bwyd o Gymru i’r UE.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru “na chafodd unrhyw ran ystyrlon o ran datblygu’r strategaeth negodi” a bydd y cytundeb yn golygu “llai o swyddi, cyflogau is, llai o allforio” a “mwy o fân-reolau i fusnesau.”

Ergyd arall yn erbyn safonau bwyd

Mae Aelodau Senedd San Steffan wedi pleidleisio unwaith eto yn erbyn gwelliannau a wnaed i Fil Masnach y DU gan Dŷ’r Arglwyddi, a fyddai wedi caniatáu archwiliadau mwy manwl i warchod safonau bwyd domestig.

Cafodd gwelliant yn gofyn am bleidlais derfynol o blaid neu yn erbyn unrhyw gytundebau masnach amaethyddol yn y dyfodol ei drechu o 353 pleidlais i 277 yn Nhŷ’r Cyffredin. Nawr bydd yn dychwelyd i Dŷ’r Arglwyddi yn Chwefror er mwyn i’r broses seneddol a elwir yn ‘ping pong’ barhau.

Pleidleisiodd yr Aelodau Seneddol hefyd yn erbyn gwelliant a fyddai wedi ychwanegu iechyd cyhoeddus at restr gyfrifoldebau’r Comisiwn Masnach ac Amaeth.

FUW yn croesawu’r cyhoeddiad i ddiogelu cyllideb Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Lesley Griffiths ar 21ain Rhagfyr 2020, sef bod yr uchafswm taliadau uniongyrchol wedi’i osod ar £238 miliwn, er mwyn darparu’r un lefel o daliadau i ffermwyr yn 2021 â’r llynedd.

O ystyried cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 25ain Tachwedd 2020, y byddai dyraniad blwyddyn ariannol 2021-2022 Cymru ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn £242 miliwn, sef £137 miliwn yn llai na’r hyn a addawyd o ystyried y trosglwyddo o golofn i golofn, mae’n dda nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i daliadau uniongyrchol i ffermwyr, i ddarparu sefydlogrwydd sydd ei wir angen dan amgylchiadau mor anodd.

FUW yn ymateb i adroddiadau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n cydnabod pa mor bwysig yw hi fod pob un sector - gan gynnwys amaethyddiaeth - yn chwarae ei ran i daclo’r newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, roedd hi’n frawychus darllen yr argymhellion diweddaraf a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer gostwng allyriadau Cymru rhwng nawr a 2050 gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Dan ofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’r Pwyllgor wedi cynhyrchu dau adroddiad yn ddiweddar, sef Adroddiad Cynghori: Y llwybr tuag at Gymru Sero Net, ac Adroddiad Cynnydd: lleihau allyriadau yng Nghymru, gan ddarparu Gweinidogion â chyngor ar dargedau hinsawdd Cymru.

Crynodeb o newyddion Ionawr 2021

i) Dyfarnu contract treialon maes brechiad TB gwartheg

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi dyfarnu’r contract i gynnal treialon maes y brechlyn TB CattleBCG a phrawf croen DIVA (Gwahaniaethu Rhwng Anifeiliaid wedi’u Brechu ac Anifeiliaid wedi’u Heintio) i Eville & Jones.

Cynhelir y treialon maes ar ran Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, gan ddefnyddio gwerth 20 mlynedd o ymchwil i frechlynnau a diagnosis TB.

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar yr Hwb TB.

ii) Defra’n caniatáu defnydd brys o blaladdwyr neonicotinoid

Yn ddiweddar mae Defra wedi caniatáu awdurdodiad brys ar gyfer defnydd cyfyngedig o neonicotinoid thiamethoxam yn 2021, i reoli lefelau bygythiol o’r feirws melyn mewn cnydau betys siwgr.

Mae 10 gwlad arall wedi caniatáu’r un awdurdodiad serch bod yr UE wedi gwahardd plaladdwyr neonicotinoid yn gyfan gwbl bron yn 2018. Bydd y defnydd o’r cemegyn yn cael ei reoli’r llym fodd bynnag, i leihau unrhyw risg i bryfed peillio - sy’n flaenoriaeth gan Lywodraeth y DU.

iii) Aldi i wario £3.5 biliwn ychwanegol ar gynnyrch Prydeinig

Mae Aldi wedi datgelu cynlluniau i wario £3.5 biliwn ychwanegol ar fwyd a diod Prydeinig, gan gynnwys cig ffres, llaeth ac wyau, dros y pum mlynedd nesaf, gan ychwanegu at y gwariant o £8 biliwn ar gynnyrch amaethyddol Prydeinig yn 2019.

Maent hefyd wedi ymestyn eu telerau talu uniongyrchol ar gyfer cyflenwyr bach tan ddiwedd 2021, oherwydd y Pandemig Covid-19 presennol, gan olygu bod dros 1,000 o fusnesau (gyda throsiant blynyddol o lai nag £1 filiwn) yn derbyn taliadau cyflymach

Y diweddaraf am yr effaith ar fasnachu ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben

Penderfynodd nifer fawr, os nad y rhan fwyaf o allforwyr, beidio ag allforio neu allforio cyn lleied a phosib yn ystod wythnos gyntaf Ionawr. Roedd yna, serch hynny, amryw o broblemau sylweddol i’r rhan fwyaf, os nad pob un o’r sectorau bwyd, er bod y meintiau’n isel iawn.

Mae manylion ac enghreifftiau pellach fel a ganlyn:

Cymorth rhithwir i lenwi’r Ffurflen Gais Sengl yn 2021

Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i FUW gymryd y cam digynsail o gau’r holl swyddfeydd sirol.

Un ffocws arbennig, o ystyried yr adeg o’r flwyddyn, fu sicrhau bod yr FUW yn gallu dal ati i helpu aelodau i lenwi a chyflwyno’u ffurflenni SAF/IACS. Bob blwyddyn mae FUW yn cynorthwyo aelodau gyda hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) gwerth dros £60 miliwn, a miliynau ychwanegol ar ffurf hawliadau Glastir, gan ddarparu help amhrisiadwy yn aml i’r rhai sydd heb fynediad i’r gwasanaethau rhyngrwyd sydd eu hangen i lenwi’r ffurflenni.

Oherwydd y sefyllfa barhaus gyda Covid-19, bydd y miloedd lawer o aelodau sydd angen help FUW i lenwi eu ffurflenni SAF 2021 yn cael cynnig ‘apwyntiadau rhithwir’. Bydd yr wybodaeth sydd ar y ffurflenni’n cael ei chroeswirio yn ystod galwad ffôn, ac os na fydd gan yr aelodau fynediad at wasanaethau ar-lein, bydd staff FUW yn cyflwyno’r ffurflenni ar eu rhan.

Fodd bynnag, mae cymorth ‘rhithwir’ o’r fath yn cynyddu’r risg o gamgymeriadau, felly dylai aelodau gysylltu â’u swyddfa leol ar unwaith os bu unrhyw newidiadau sylweddol i’r fferm ers y llynedd; mae’r rhain yn cynnwys newid ffiniau, tir newydd, newid o ran partneriaid busnes, archwiliadau ers y llynedd ac unrhyw newidiadau o ran defnydd o’r tir. Dylai aelodau hefyd ddarllen eu negeseuon RPW ar-lein am unrhyw newidiadau mapio neu archwiliadau tir, oherwydd gall y rhain gael effaith fawr ar gwblhau’r SAF.

Trwy adael i’r Staff Sirol wybod, gallant baratoi mapiau a chasglu gwybodaeth yn barod ar gyfer eich apwyntiad SAF o fis Mawrth ymlaen.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon, cysylltwch â’ch swyddfa sirol leol, a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau.

COVID-19 - Gwybodaeth Bwysig i’n haelodau a chwsmeriaid

Yn dilyn gwasgariad y Coronafeirws (COVID-19), rydym wedi penderfynu amddiffyn aelodau, cwsmeriaid a chyd-aelodau staff trwy gau pob swyddfa FUW. 

Bydd pob aelod o staff yn gweithio oddi ar ein safleoedd am y dyfodol rhagweladwy, golygir y bydd ein timau yn parhau i gynnig yr holl wasanaethau dros ffon/e-bost/skype neu ffyrdd eraill o gyfathrebu o bell. 

Dylai aelodau a chwsmeriaid barhau i gysylltu gyda ni yn yr un modd ag arfer, gellir cysylltu â’r staff trwy ddefnyddio’r rhifau ffôn arferol.  

Byddwn yn sicrhau bod safon ein gwasanaethau yn parhau. Caiff apwyntiadau SAF/IACS barhau fel yr arfer ond fe cant eu gwneud dros y ffôn. 

Gweler manylion cyswllt eich swyddfa leol yma: https://fuw.org.uk/cy/cysylltwch

 

Linciau pwysig ynglŷn â'r Coronafeirws:

 

Mae Hwb TB wedi paratoi rhestr o gwestiynnau a ofynnir yn aml parthed sut caiff prosesau TB eu heffeihtio gan y feirws: https://tbhub.co.uk/statutory-tb-testing-of-cattle-in-gb-during-the-covid-19-pandemic/

Tractor Coch (Red Tractor) dwieddariad yma: https://assurance.redtractor.org.uk/contentfiles/Farmers-7085.pdf?_=637206600290507095

Cymdeithas Arwerthwyr Da-byw - 25/03/2020: https://www.laa.co.uk/news/3989/coronavirus-covid-19-guidance-to-members-and-farmers/

Busnes Cymru (sy’n cynnwys gwybdooaeth am gefnogaeth i fusnesau oherwydd y Coronafeirws): https://businesswales.gov.wales/cy/cyngor-coronafeirws

Cynllun benthyg Coronafeirws oherwydd ymyriad i fusnes ar gael trwy fenthycwyr sy'n cymryd rhan: https://www.british-business-bank.co.uk/ourpartners/coronavirus-business-interruption-loan-scheme-cbils/  
 
Canllawiau Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol (NAAC) ar Coronafeirws: https://www.naac.co.uk/coronavirus-guidance-issued-to-contractors/
 
Gwasanaethau Cofnodi Llaeth Cenedlaethol 24/03/2020: https://www.nmr.co.uk/about-us/coronavirus