Image

Gwasanaethau Yswiriant FUW

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW yn is-gwmni i FUW LTD ac yn un o'r broceriaid yswiriant blaenllaw yng Nghymru. Gan weithio'n agos gyda phanel o gwmnïau yswiriant amaethyddol a masnachol arbenigol mae gyda ni ddewis helaeth o gynnyrch ac yn cynnig polisi sydd werth eich arian.

Mae gennym dîm o Weithredwyr Cyfrif ar draws Cymru sy’n cynnig gwasanaeth personol a lleol, ac yn gweithio’n agos gyda chi er mwyn sicrhau bod gyda chi’r yswiriant sy’n eich diogelu chi, eich eiddo a’ch busnes. Cysylltwch â’ch Swyddog Ardal lleol nawr.

Pa un ai ydych chi’n chwilio am bolisi yswiriant personol, yswiriant ar gyfer tyddyn neu fferm, yswiriant masnachol ar gyfer eich busnes, o unig fasnachwr i fusnes mawr, mae gennym bolisiau arbennigol sydd wedi cael eu teilwra er mwyn gweddu pob unigolyn a busnes sydd a gwreiddiau yng nghefn gwlad.

Mae FUW Insurance Services Ltd yn cael ei awdurdodi gan yr FCA (Financial Conduct Authority). Swyddfa Gofrestredig: Llys Amaeth, Plas Gogerddan, Penrhyncoch, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BT. Wedi’i gofrestru yn Lloegr, rhif. 615251