Os oes gyda chi unrhyw broblemau wrth fewngofnodi neu faterion eraill yn ymwneud a’r wefan, llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi'n aros am e-bost sy’n ailosod eich cyfrinair, gwnewch yn siŵr eich bod wedi edrych yn eich ffolder e-bost ‘Junk’ cyn cysylltu am gefnogaeth.

Os nad ydych yn medru mewngofnodi i adran aelodau gwefan FUW, dilynwch y camau canlynol.

Ewch i'r dudalen fewngofnodi - https://fuw.org.uk/cy/member-login-cy

Os ydych am gael eich atgoffa o'ch enw defnyddiwr, dewiswch yr opsiwn hwnnw o dan y blychau mewngofnodi

Yna byddwch yn gweld y sgrin ganlynol


Cofnodwch eich cyfeiriad e-bost a chliciwch cyflwyno. Ar y cam hwn, bydd angen i chi wirio'r blwch sy’n
derbyn e-byst (ac o bosib eich ffolder sbam os na allwch weld y neges yno). Dylai'r neges ganlynol
ymddangos.

Yna gallwch gopïo a gludo'ch enw defnyddiwr yn y blwch enw defnyddiwr ar y sgrin mewngofnodi ar y wefan.


Os ydych am gael eich atgoffa o'ch cyfrinair, dewiswch yr opsiwn hwnnw o dan y blychau mewngofnodi


Bydd angen i chi ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost i adfer yr enw defnyddiwr a'r cyfrinair.

Ewch i'ch cyfrif e-bost a gwiriwch eich e-bost.


Dylai'r e-bost ymddangos yn eich blwch derbyn yn gyflym iawn ond gwiriwch eich sbam os nad ydych yn ei
dderbyn.


Byddwch yn derbyn e-bost gyda chod gwirio a dolen.


Copïwch y cod i'ch clipfwrdd neu cliciwch y ddolen yn yr e-bost. Os cliciwch y ddolen, bydd y cod yn cael ei
gofnodi ar eich cyfer chi, ond bydd angen i chi deipio'ch enw defnyddiwr yn y blwch perthnasol.

Ar ôl i chi gofnodi’r enw defnyddiwr a'r cod dilysu cywir, pwyswch cyflwyno.

Yna gofynnir i chi gofnodi cyfrinair newydd. Ar ôl i chi ddewis eich cyfrinair newydd, cliciwch cyflwyno.


Unwaith bydd eich cyfrinair newydd yn cael ei dderbyn, byddwch yn dychwelyd i’r sgrin fewngofnodi, 
lle bydd angen i chi gofnodi'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair newydd.