Ers cael ei ffurfio ym 1955, mae strwythur democrataidd Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn ganolog i'r ffordd y mae’r polisïau sy’n cael eu cyfathrebu i lywodraethau a chyrff cyhoeddus perthnasol yn cael eu creu, ac eithrio lle mae polisïau eisoes yn bodoli, neu'n rhesymegol, mae hyn yn parhau i fod yn wir.
Mae Pwyllgorau Sefydlog Cyngor yr Undeb yn ganolog i weithrediadau strwythur democrataidd yr Undeb a ffurfiad ei pholisïau. Erbyn 1959, roedd yr Undeb wedi sefydlu nifer o Bwyllgorau gweithredol a pholisi, sef Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd, Llaeth a Chynnyrch Llaeth a Ffermio Mynydd a Thir Ymylol i enwi ond rhai.
Gyda'r nod yn y pen draw o gynnal a chryfhau prosesau democrataidd yr Undeb, cyflwynodd yr Adran Bolisi gynigion i Gyngor yr Undeb ym mis Mawrth 2025 i ddiwygio strwythur y Pwyllgorau Sefydlog a'u ffyrdd o weithio.
Yn dilyn penderfyniad unfrydol gan Gyngor Undeb Amaethwyr Cymru ym mis Mehefin 2025, cytunwyd i uno'r (11) Pwyllgor Sefydlog blaenorol yn bedwar Pwyllgor cyffredinol fel y nodir isod.
Pwyllgor Iechyd Anifeiliaid a Llaeth
Cadeirydd dros dro: Gerwyn Williams, Sir Benfro
Is gadeirydd dros dro: Bryan Jones, Sir Drefaldwyn
Cyswllt y Tîm Polisil: Elin Jenkins
Mae'r Pwyllgor Iechyd Anifeiliaid a Llaeth yn gyfrifol am ystod eang o faterion iechyd anifeiliaid, gan gynnwys clefydau penodol fel TB Buchol, heriau tymhorol ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae hefyd yn cynnwys pob maes polisi sy'n ymwneud â chynhyrchu llaeth fel prisiau llaeth, cyflenwad a galw a datblygu'r farchnad ar draws y gadwyn gyflenwi.
Cynhaliodd y Pwyllgor newydd gyfarfod brys ar y 28ain o Dachwedd 2025 i drafod y gostyngiad difrifol ym mhrisiau llaeth a welwyd dros yr hydref, a arweiniodd at Undeb Amaethwyr Cymru’n gweithredu ar unwaith wrth godi'r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru.
Pwyllgor Defnydd Tir a Newid Hinsawdd
Cadeirydd: Tim Faire, Sir Fflint
Is gadeirydd: Dewi Owen, Meirionnydd
Cyswllt y Tîm Polisi: Teleri Fielden
Mae'r Pwyllgor hwn yn gyfuniad o'r Pwyllgorau Defnydd Tir a Materion Seneddol, Tir Âr, a Garddwriaeth, Cnydio a Dofednod blaenorol, gyda ffocws ychwanegol ar y gwaith cynyddol sy'n ymwneud â newid hinsawdd a sero net.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn gyfrifol am ansawdd dŵr, targedau bioamrywiaeth, elfennau amgylcheddol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, polisi defnydd tir, ynni adnewyddadwy ac ailgyflwyno rhywogaethau.
Bydd gwaith y Pwyllgor hwn yn hollbwysig i’r adolygiad o Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol ‘NVZ’ a gosod targedau amgylcheddol yn y dyfodol agos.
Pwyllgor Materion Gwledig
Cadeirydd: Alan Gardner, Sir Fflint
Is gadeirydd: John Roberts, Sir Ddinbych
Cyswllt y Tîm Polisi: Gareth Parry
Mae gan y Pwyllgor Materion Gwledig rôl eang o fewn yr Undeb. Mae'n gyfrifol am nifer o feysydd technegol megis gweinyddu Cynlluniau, materion tenantiaeth a thrwyddedu. Bydd ei waith hefyd yn cynnwys meysydd polisi ehangach sy'n berthnasol i ffermydd teuluol yng Nghymru, gan gynnwys economeg amaethyddol, treth a masnach, addysg a hyfforddiant amaethyddol ac arallgyfeirio ffermydd.
Bydd y Pwyllgor hwn yn defnyddio arbenigedd llawer o staff y tîm Polisi yn ogystal ag unigolion allanol sydd â gwybodaeth dechnegol mewn meysydd penodol yn ôl yr angen. O ystyried ei gylch gwaith eang, bydd agendâu sy’n canolbwyntio ar y materion mwyaf cyffredin yn seiliedig ar fewnbwn hanfodol gan gynrychiolwyr y Pwyllgor.
Pwyllgor Da Byw a Ffermio Mynydd
Cadeirydd: Gwion Rowlands, Sir Feirionnydd
Is gadeirydd: Dafydd Gwyndaf, Sir Gaernarfon
Cyswllt y Tîm Polisi: Gemma Haines
Gyda’r rhan fwyaf o ffermydd da byw yng Nghymru yn magu defaid a gwartheg, a tua 80% o dir fferm Cymru wedi'i ddosbarthu fel Ardaloedd Llai Ffafriol ac o dan Anfantais Fawr, bydd y Pwyllgor hwn yn sicrhau bod nodweddion unigryw ein systemau cynhyrchu da byw yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol a lefel y DU.
Felly, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar farchnadoedd da byw a chludiant, cynlluniau gwarant fferm, datblygu marchnadoedd a meysydd perthnasol o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys prosiectau tirwedd cydweithredol.

