FFURFLEN YMWADIAD SAF 2021
RYDW/RYDYM NI DRWY HYN YN CADARNHAU AC YN DATGAN BOD:
- UNDEB AMAETHWYR CYMRU (UAC) WEDI ESBONIO I FI/NI NA FYDD YN DERBYN UNRHYW GYFRIFOLDEB O RAN EI HUN NEU UNRHYW AELODAU O’I STAFF (DRWY’R GYFLOGAETH) BOED MEWN CYTUNDEB, CAMWEDD (GAN GYNNWYS ESGEULUSTOD) NEU FEL ARALL MEWN CYSYLLTIAD Â’R BROSES O GWBLHAU FY/EIN FFURFLEN Y CAIS SENGL.
- DEALLAF MAI FY/EIN CYFRIFOLDEB NI YW DARPARU GWYBODAETH LAWN A CHYWIR YN ÔL Y GOFYN ER MWYN CWBLHAU’R FFURFLENNI SYDD O DAN SYLW AC NI FYDD UAC YN DERBYN UNRHYW GYFRIFOLDEB AM WYBODAETH ANGHYWIR A RODDIR.
- DEALLAF BOD UAC YN GALLU CYNORTHWYO GYDA CWBLHAU A CYFLWYNO Y FFURFLENNI.
- FY NGHYFRIFOLDEB I/NI YW EDRYCH DROS Y FFURFLEN SYDD WEDI EI CHYFLWYNO A SICRHAU BOD HI’N GYWIR AR OL EI CHYFLWYNO AR-LEIN I LYWODRAETH CYMRU.
- UNWAITH MAE’R FFURFLEN WEDI EI CHWBLHAU A CHYFLWYNO RYDW I/NI YN CADARNHAU EIN BOD YN YMWYBODOL BOD CYFNOD O 30 DIWRNOD (YN CYCHWYN O’R DDYDDIAD CAU I GYFLWYNO Y FFURFLEN) LLE GELLIR GWIRIO AM UNRHYW GAMGYMERIADAU AMLWG. RYDW I/NI YN CYTUNO I WIRIO Y FFURFLEN SYDD WEDI EI CHYFLWYNO O FEWN YR AMSER PERTHNASOL AC Y BYDDAF I/NI YN HYSBYSU UAC AM UNRHYW GAMYGYMERIADAU YN Y WYBODAETH AR Y FFURFLEN A GYFLWYNWYD NEU OS OES UNRHYW WYBODAETH SYDD WEDI EI HEPGOR O’R FFURFLEN A GYFLWYNWYD.
- FY/EIN NYLETSWYDD I/NI YW SICRHAU FY MOD/EIN BOD YN SICRHAU FY MOD/EIN BOD YN DERBYN LLYTHYR/E-BOST SY’N CYNNWYS GWYBODAETH AM FANYLION Y CAEAU A CHYNLLUNIAU SYDD I’W HAWLIO ODDI WRTH LLYWODRAETH CYMRU (O FEWN 10 DIWRNOD O GYFLWYNO’R FFURLEN) AC MAE’N DDYLETSWYDD ARNAF/ARNOM I EDRYCH DROS Y WYBODAETH SYDD AR Y LLYTHYR/E-BOST YMA ER MWYN DARGANFOD UNRHYW GAMGYMERIADAU A BYDDAF/BYDDWN YN HYSBYSU UAC YN SYTH.
- FY NYLETSWYDD/EIN DYLETSWYDD NI YW EDRYCH DROS Y WYBODAETH AR GOPI CALED/ ELECTRONEG O FFURFLEN Y CAIS SENGL A GYFLWYNWYD ER MWYN DARGANFOD UNRHYW GAMGYMERIADAU A BYDDAF/BYDDWN YN RHOI GWYBOD I UAC YN SYTH A DDIM YN HWYRACH NA 15FED O FAI O’R FLWYDDYN BERTHNASOL NEU UNRHYW DDYDDIAD ARALL A ELLIR EI BENODI YN LLE Y DYDDIAD HWN GAN Y AWDURDOD PERTHNASOL.
- RYDW I/NI YN CYDNABOD OHERWYDD LLEDAENIAD O’R CORONAFEIRWS A MESURIADAU Y LLYWODRAETH SYDD MEWN GRYM NEU YN CAEL EU CYNGHORI SY’N RHWYSTRO FI/NI RHAG CWRDD WYNEB YN WYNEB GYDA’R FUW AC FY MOD I/NI YN CYTUNO I HOLL GYMORTH A RODDIR DROS FFON A/NEU EBOST. RYDW I/NI YN CYDNABOD AC YN CYTUNO BOD Y PENDERFYNIAD I GYNNIG CYMORTH DROS Y FFON A/NEU EBOST O FEWN DISGRESIWN LLWYR UAC AC FY MOD I/NI YN CYTUNO I BARHAU YN UNOL AC UNRHYW OFYNION A OSODIR GAN UAC SYDD WEDI EI GYMRYD ER MWYN AMDDIFFYN IECHYD CYHOEDDUS.
- RYDW I/NI YN CANIATAU I FUW GWBLHAU A CHYFLWYNO Y FFURFLEN AR FY/EIN RHAN AC YN CADARNHAU BOD YR HOLL WYBODAETH WEDI EI GYFLWYNO I’R UAC YN LLAWN A CHYWIR. RYDW I/NI YN CYDNABOD A CHYTUNO NA FYDD GAN UAC UNRHYW ATEBOLRWYDD I FI/NI MEWN ACHOS LLE RYDW I/NI WEDI DARPARU GWYBODAETH ANGHYWIR NEU GAMARWEINIOL NEU OS YDW I/NI HEB DDARPARU UNRHYW WYBODAETH PERTHNASOL I UAC.
- RYDW I/NI YN CYTUNO I INDEMNIO UAC YN ERBYN UNRHYW GOLLEDION A ELLIR EI DDIODDEF GAN FUW NEU EI ENNYN O GANLYNIAD I WYBODETH ANGHYWIR NEU GAMARWEINIOL A DDARPARIR GEN I/NI I UAC NEU OS YDW I/NI YN HEPGOR GWYBODAETH I UAC.
- RYDW I/NI YN CYDNABOD BOED BYNNAG Y DULL O GYMORTH A RODDIR I MI GAN UAC BOD YR YMWADIAD YMA YN WEITHREDOL AC NA FYDD GAN UAC UNRHYW ATEBOLRWYDD AM UNRHYW WYBODAETH ANGHYWIR YN Y FFURFLEN NAC FOD GEN I/NI UNRHYW HAWL AM DDIGOLLEDU YN ERBYN UAC AM UNRHYW WYBODAETH ANGHYWIR, CAMGYMERIADAU NEU UNRHYW WYBODAETH WEDI EI HEPGOR AR Y FFURFLEN A GYFLWYNWYD.
- O DDARLLEN Y FFURFLEN YMA, RYDW I/RYDYM NI YN YMWYBODOL O’R YMWADIAD UCHOD AC YN CADARNHAU FY MOD/EIN BOD YN YMWYBODOL O’N HAWL I GAEL CYNGOR CYFREITHIOL ANNIBYNNOL AC WRTH BARHAU I GYFARWYDDO UAC YN CADARNHAU FY MOD/EIN BOD YN DERBYN YR YMWADIAD UCHOD AC YN DEALL EI GANLYNIADAU.