Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu Wythnos Brecwast Ffermdy lwyddiannus arall, gan godi dros £21,000 tuag at elusennau ac achosion lleol, gan gynnwys dros £13,500 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Yn ystod eu Wythnos Frecwast Ffermdy blynyddol cynhaliwyd 24 o ddigwyddiadau brecwast ledled Cymru rhwng 18 a 25 Ionawr 2025, gydag aelodau, y cyhoedd a gwleidyddion yn cael cyfle i fwynhau cynnyrch brecwast blasus, maethlon a chynaliadwy, tra’n trafod materion ffermio gyda staff a swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru.
Roedd yr wythnos yn ddathliad dwbl eleni wrth i Undeb Amaethwyr Cymru ddathlu saith deg mlynedd ers eu sefydlu ym 1955, ac hefyd wrth iddynt nodi pymtheng mlynedd ers dechrau eu Hwythnos Brecwast Ffermdy yng Nghaernarfon yn 2010.
Fel rhan o’r wythnos, cynhaliwyd digwyddiad brecwast yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd a fynychwyd gan amrywiaeth o randdeiliaid a nifer fawr o Aelodau’r Senedd, gan gynnwys y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS. Noddwyd y digwyddiad gan Jane Dodds AS, gyda’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS hefyd yn rhoi araith.
Wrth adlewyrchu ar Wythnos Frecwast Ffermdy lwyddiannus, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Rydym wedi mwynhau wythnos frecwast lwyddiannus arall a hoffwn ddiolch i’r holl staff, aelodau, gwirfoddolwyr a’n gwleidyddion ledled Cymru am eu cefnogaeth anhygoel. Yn benodol, hoffwn ddiolch i’r llu o fusnesau lleol o bob rhan o Gymru a gefnogodd yr wythnos – boed hynny yn gig moch, selsig, cynnyrch llaeth ac wyau, i enwi dim ond rhai. Diolch i bawb.
"Gyda’n gilydd rydym wedi codi swm anhygoel o arian, gan gynnwys rhodd sylweddol tuag at Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n achub bywydau ledled Cymru bob dydd.
"Eleni, roeddem hefyd yn falch iawn o gael dros 25 o wleidyddion yn mynychu ein digwyddiadau, a roddodd gyfle allweddol i staff a swyddogion dynnu sylw at yr heriau niferus sy’n wynebu ein teuluoedd ffermio – boed yn newidiadau treth etifeddiant, bTB neu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
“Nid yn unig yw'r wythnos yn gyfle gwych i ddod â’n cymunedau at ei gilydd a chodi arian tuag at achosion da, ond mae hefyd yn gyfle allweddol i arddangos y gorau oll o’n cynnyrch Cymreig o safon uchel, ac amlygu’r rôl hanfodol y mae ffermio yn ei chwarae yn ein cymunedau gwledig yn gymdeithasol ac yn economaidd.”
Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Undeb Amaethwyr Cymru a’i haelodau am y swm gwych o arian y maent wedi’i godi eto eleni i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru.
“Mae ein helusen yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein gwaith hanfodol o gefnogi cymunedau gwledig ac amaethyddol yn gallu parhau, nid yn unig ar gyfer y presennol, ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae ein hymrwymiad a’n cysylltiad â Chymru wledig yn hynod o gryf, a bydd bob amser yn gryf.
“Rydym hefyd yn cydnabod ac yn diolch am y cyfraniad amhrisiadwy y mae’r gymuned amaethyddol yn ei wneud i gymdeithas Cymru, yn ogystal â’r cynnyrch o safon sy’n cael ei fwynhau yma yng Nghymru a ledled y byd.”