Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i wrando ar ffermwyr Cymru wrth i ymateb i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei gyhoeddi, meddai UAC

Wrth wneud sylw i ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i wrando ar ffermwyr Cymru wrth i’r crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad diweddaraf yr SFS gael ei gyhoeddi heddiw. Mae llais y diwydiant wedi bod yn uchel ac yn glir, a hyd yn hyn, mae wedi bod yn broses heriol i bawb dan sylw.

“Nid yw’n syndod bod y farn gyffredin gan y 12,000 o ffermwyr a sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn galw am newidiadau sylweddol i gynigion y cynllun.

“Dyma hefyd oedd y neges glir gan ein haelodau a ymatebodd yn unigol, a’r rhai a ffurfiodd ymateb cynhwysfawr yr Undeb i’r ymgynghoriad yn gynharach eleni. Byddwn yn gwneud popeth posibl yn ein hymdrechion i sicrhau bod y cynllun hwn yn gweithio i ffermwyr.

“Rydym yn croesawu’r sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw wrth iddo ymrwymo i gyflwyno’r cynllun dim ond pan fydd yn barod. Mae angen i hwn fod yn gynllun cymorth amaethyddol sy’n rhoi sefydlogrwydd i’n ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd yng Nghymru ac sy’n ystyried cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar sail gyfartal. Fel Undeb, dyma ein nod yn y pen draw o hyd.”

Mae’r datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at waith parhaus Ford Gron Weinidogol yr SFS, grwpiau Dal Carbon a swyddogion wrth adolygu a gweithredu’r cynllun, mewn partneriaeth â’r undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill.

Croesawodd UAC y cyhoeddiad na fydd yr SFS yn dechrau tan 2026 ac y bydd cyfnod o baratoi yn digwydd y flwyddyn nesaf.“Mae UAC yn gweithio’n galed ac yn ddiflino gydag Ysgrifennydd y Cabinet, rhanddeiliaid a swyddogion Llywodraeth Cymru, ac wedi cynnal trafodaethau hynod bwysig.”

Wrth gloi, dywedodd y Llywydd, Ian Rickman:“Gall aelodau UAC fod yn dawel eu meddwl ein bod yn gwneud ein gorau glas i drafod cynllun sy’n gweithio i holl ffermwyr Cymru o 2026 ymlaen. Dyma ein hymrwymiad i ffermwyr Cymru o hyd.”

Undeb Amaethwyr Cymru yn anfon neges glir i Lywodraeth Lafur newydd y DU bod angen cyllid blynyddol teg i amaethyddiaeth Cymru

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn anfon neges glir i’r Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan fod Cymru angen setliad ariannu teg, blynyddol o £450 miliwn mewn cyllid etifeddol y Polisi Amaeth Cyffredinol (CAP) yr UE i gefnogi cynhyrchu bwyd, yr economi wledig a’r gwaith mae ffermwyr yn ei wneud i ddiogelu'r amgylchedd.

Yn sgil buddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad cyffredinol ar adeg pan fo ffermio yng Nghymru yn wynebu croesffordd bwysig, mae gan Blaid Lafur y Deyrnas Gyfunol gyfle nawr i ddylanwadu ar ddyfodol cefn gwlad Cymru am ddegawdau i ddod.

Wrth ymateb i’r canlyniadau, dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Yn gyntaf, hoffwn longyfarch y Prif Weinidog newydd a’i blaid ar fuddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol, ac ar yr un gwynt diolch i’r Aelodau Seneddol hynny sydd wedi gweithio’n agos ȃ ni dros y pum mlynedd diwethaf. 

“Mae’r etholiad yma wedi dod â newid sylweddol i dirwedd wleidyddol Cymru, gyda gostyngiad sylweddol yn nifer yr etholaethau, newidiadau mewn ffiniau, a nawr Llywodraeth Lafur newydd y DU yn dal y mwyafrif yn San Steffan.

“Nid yw UAC yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol ac felly rydym yn barod i ymgysylltu a gweithio gyda gwleidyddion o bob plaid i sicrhau bod lleisiau ffermwyr Cymru yn cael eu clywed.”

Mae Maniffesto Etholiad Cyffredinol UAC yn nodi blaenoriaethau allweddol yr Undeb ar gyfer y llywodraeth newydd, gan ganolbwyntio ar sicrhau setliad ariannu teg, aml-flwyddyn sy’n o leiaf £450 miliwn y flwyddyn mewn cyllid etifeddiaeth PAC yr UE ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru. Ni ellir diystyru pwysigrwydd y cymorth hwn fel y seilwaith i gynhyrchu bwyd, diogelu’r amgylchedd a chymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth newydd y DU yn sicrhau bod unrhyw gytundebau â gwledydd a blociau masnachu eraill yn y dyfodol yn cymryd agwedd llawer mwy cadarn i amddiffyn ffermwyr y DU a sicrwydd bwyd. Gyda hynny, rhaid i fewnforion ac allforion bwyd ddilyn yr un arferion rheolaethau a safonau i sicrhau tegwch rhwng cynhyrchwyr y DU a’r UE.

Mae Maniffesto’r Undeb hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno polisïau caffael sy’n blaenoriaethu cefnogaeth cyrff cyhoeddus i fusnesau Cymreig a Phrydeinig gan hyrwyddo cadwyn gyflenwi fwy tryloyw.

“Er bod cyfeiriad ffermio yng Nghymru’n dibynnu’n fawr ar ddatblygiad polisïau amaethyddol datganoledig, rhaid i ni beidio ag anghofio sut y bydd penderfyniadau a wneir gan weinyddiaeth newydd y DU yn pennu faint o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i gefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Bydd hefyd yn rheoli i ba raddau y disgwylir i gynhyrchwyr o Gymru gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr yng ngwledydd eraill y DU ac ar draws y byd ar wahanol lefelau.

“Dyma pam na fyddwn yn gwastraffu unrhyw amser cyn cysylltu â’r Aelodau Seneddol newydd dros Gymru a’r rhai sy’n cymryd rolau dylanwadol yn y senedd i sicrhau ein bod yn amlinellu ein blaenoriaethau allweddol cyn gynted â phosib.

“Er gwaetha’r her o lywio tirwedd wleidyddol sy’n newid yn gyson, mae ein rôl fel Undeb wrth lobïo llywodraethau am y canlyniadau gorau posib i amaethyddiaeth yng Nghymru yn parhau’n waith cyson a di-baid,” meddai Ian Rickman.

Llongyfarch Pennaeth Polisi newydd Undeb Amaethwyr Cymru

Braf yw gallu cyhoeddi bod Gareth Parry wedi ei benodi yn Bennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru a hynny ychydig ddyddiau’n unig cyn ei briodas.

Roedd dathliad dwbl i Gareth, brodor o Lanfarian ger Aberystwyth, wrth iddo ef a Catrin, Rheolwr Swyddfa pencadlys Undeb Amaethwyr Cymru, briodi yn ddiweddar. Maent eisoes wedi ymgartrefu ar fferm odro, beef a defaid y teulu yn Llanafan, Ceredigion.

Mae Gareth a raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn amaeth ac astudiaethau busnes o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio i’r Undeb fel Swyddog Polisi ers pum mlynedd. Ef sydd wedi arwain ymateb 20,000 o eiriau diweddaraf yr Undeb i’r Llywodraeth ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy diweddar. Mae’n wyneb cyhoeddus i’r Undeb wrth gefnogi’r Llywydd mewn cyfarfodydd yn San Steffan ac yn y Senedd. Mae’n cyfarfod yn gyson gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a’i dîm ym Mae Caerdydd, cyfarfodydd gydag aelodau ledled Cymru ac mewn cyfweliadau gyda’r wasg. 

Mae Gareth eisoes wedi dechrau yn ei rôl ac yn ymfalchïo yng ngwaith yr Undeb: “Dwi’n hynod falch o’r cyfle yma ac yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth dros y misoedd prysur diwethaf. Mae gennym dîm o staff gweithgar ac arbenigol yn Undeb Amaethwyr Cymru, ac mae’n fraint cael cydweithio ȃ nhw wrth gynrychioli buddiannau ein haelodau. 

“Dwi’n edrych ymlaen at y sioeau amaethyddol dros yr haf, y cyfle i sgwrsio ȃ ffermwyr Cymru, i drafod materion y dydd gyda sefydliadau eraill ac i baratoi at y cyfnod cyffrous nesaf i’r diwydiant. Nid ar chwarae bach y mae gosod polisi amaethyddol newydd i Gymru sy’n gonglfaen i gefn gwlad, i’r economi, i ddiwylliant a threftadaeth. Dwi’n edrych ymlaen at chwarae rhan mewn cyfnod hanesyddol bwysig i gymunedau gwledig Cymru.”

Pan fo gwaith yr Undeb yn caniatau mae Gareth yn ralïwr ceir brwd ac wedi rasio droeon fel partner y gyrrwr sy’n llywio’r ffordd. Gyda’i bartner gyrru, Scott Faulkner, daeth gartref gyda chwpan y ‘British Trials and Rally Drivers Association’ nôl yn 2019. Mae wedi teithio’r byd yn ralïo ac mae’n mwynhau ail adnewyddu ceir a cherbydau. 

Wrth groesawu’r penodiad dywedodd Ian Rickman, Llywydd UAC: “Rydym yn falch iawn bod Gareth wedi ei benodi yn Bennaeth Polisi’r Undeb. Mae’n ŵr galluog, proffesiynol a brwdfrydig dros bopeth ym myd amaeth. Rydym yn ffodus iawn o fod wedi elwa ar ei arbengiedd a’i feddwl craff dros y misoedd diwethaf. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio ȃ Gareth, wrth i ni gamu i rhan nesaf y daith bwysig hon i fyd amaeth.

Dywedodd Guto Bebb, prif weithredwr UAC: “Llongyfarchiadau mawr i Gareth ar ddod i’r brig yn y rôl newydd ac i Catrin ag yntau ar eu priodas ddiweddar. Rydym yn ymfalchïo yn safon ein staff ac yn ddiolchgar iddynt ledled Cymru am eu hymroddiad i’r Undeb.

“Wrth longyfarch Gareth, hoffwn dalu teyrnged i Nick Fenwick, y cyn Bennaeth Polisi am ei waith dros Undeb Amaethwyr Cymru a ffermwyr Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad Nick dros gyfnod maith i’r Undeb a’r diwydiant yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Mae staff ac aelodau wedi cael y fraint o gydweithio ag arbenigwr amaethyddol a ddangosodd  ymrwymiad mawr i weithio ar ran ffermwyr Cymru. Dymunwn yn dda iddo ef a’i deulu i’r dyfodol.”

UAC yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i newid mesurau lladd gwartheg TB ar ffermydd

Heddiw croesawodd Undeb Amaethwyr Cymru y newyddion bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn derbyn yr holl argymhellion a gyflwynwyd iddo gan y Grŵp Cynghori Technegol (TAG) sydd newydd ei sefydlu ar gyfres o fesurau a fydd yn darparu hyblygrwydd wrth ladd gwartheg sydd â’r diciau ar y fferm.

Mae teuluoedd amaethyddol sydd eisoes dan bwysau emosiynol ac ariannol oherwydd achosion o’r diciau mewn gwartheg yn aml yn eu dagaru o ganlyniad i’r profiad dirdynnol o wylio gwartheg yn cael eu lladd ar fuarth y fferm.

Dywedodd Dai Miles, Dirprwy Lywydd UAC: “Mae hyn yn newyddion rydyn ni’n ei groesawu ac rydym yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ar bryderon y diwydiant ac yn bwysicaf fyth cymryd camau gweithredu a derbyn yr argymhellion hyn yn llawn.”

Cynhaliodd TAG ei gyfarfod cyntaf ar y 15 o Ebrill dan arweiniad yr Athro Glyn Hewinson, sydd hefyd yn gadeirydd Sêr Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth TB yn Aberystwyth. 

Mae mwyafrif yr achosion o ladd ar fferm o ganlyniad i brofion positif o’r diciau mewn gwartheg tra'u bod o dan gyfnodau meddyginiaeth. Mae lladd gwartheg ar fuarth y fferm hefyd yn digwydd pan fo buchod yn drwm gan feichiogrwydd neu o fewn yr wythnos gyntaf wedi lloi. Ni chaniateir eu cario oddi ar y fferm o dan reoliadau cludo anifeiliaid.

Yn ôl Dai Miles: “Cafodd yr FUW eu gwahodd i ddarparu tystiolaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig i TAG ei ystyried, ac rydym yn falch bod ein gwaith wedi cefnogi’r newidiadau a gyhoeddwyd heddiw.

“Nod ein hargymhellion oedd lleihau nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd ar ffermydd yn dilyn achosion o TB mewn gwartheg a darparu cymorth mewn amgylchiadau lle nad oes modd osgoi lladd ar glos y fferm.

“Rydym yn croesawu’r ffaith bod y broses hon wedi digwydd mor gyflym ac yn gobeithio y gellir rhoi’r camau hyn ar waith cyn gynted â phosibl i leihau’r achosion o ladd ar ffermydd. Mae effeithiau’r broses hon yn cael canlyniad andwyol hirdymor ar iechyd a lles ein teuluoedd amaethyddol.

“Fodd bynnag, rhaid i ni beidio ag anghofio bod yr angen i drafod y pwnc o leddfu erchyllterau lladd ffermydd yn ceisio unioni’r symptom yn hytrach na mynd i’r afael â gwraidd y broblem. Mae hyn yn parhau i fod yn record difrifol o raglen cwbl aneffeithiol dros gyfnod maith i ddileu y diciau o fuchesi gwartheg yng Nghymru.

“Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â TAG a rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael â ffyrdd eraill y gellir gwella’r rhaglen dileu TB mewn gwartheg er budd holl ffermwyr gwartheg Cymru.” meddai’r Dirprwy Lywydd, Dai Miles.

UAC yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am ymestyn y taliad sengl sylfaenol i’r diwydiant amaeth

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi croesawu’r newyddion heddiw bod Llywodraeth Cymru am barhau’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i gefnogi ffermwyr Cymru ochr yn ochr â chyfnod paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ar gyfer 2025.

Wrth ymateb i’r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, dywedodd Llywydd UAC, Ian Rickman: “Rydym yn croesawu’r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ddyfodol ffermio yng Nghymru a’i gynlluniau i weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant amaethyddol.

“Ers yr ymgynghoriad diwethaf, rydym wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y BPS ar y lefelau presennol ar gyfer y flwyddyn nesaf o ystyried faint o newid sydd ei angen i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o fewn yr amserlen dynn.

“Mae’r cyhoeddiad hwn ar gynnal y BPS ochr yn ochr â chyfnod paratoadol SFS y flwyddyn nesaf yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir. Bydd yn rhoi sefydlogrwydd i fusnesau amaeth ac yn sylfaen gadarn ar gyfer trafodaethau ystyrlon.

“Datblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw’r newid mwyaf arwyddocaol mewn polisi amaethyddol yng Nghymru ers degawdau. Mae’n galonogol felly bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi na fydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod.”

Mae’r datganiad hefyd yn cyfeirio at barhad cynlluniau buddsoddi gwledig, gan gynnwys ystyried ymestyn Cynllun Cynefin Cymru a chymorth i amaethwyr organig.

“Mae’n hanfodol ein bod yn osgoi unrhyw fylchau yn y cymorth yn ystod y cyfnod pontio o’r BPS i’r SFS sy’n sail i gynaliadwyedd economaidd busnesau ffermio. Croesawn felly barhad y gefnogaeth wrth i ni weithio i ddylunio Cynllun sy’n cyflawni ar gyfer busnesau amaeth, ein cymunedau gwledig a’r amgylchedd.

“Er ein bod yn croesawu’r datganiad heddiw sy’n dangos parodrwydd i wrando, i weithio gyda’r diwydiant a chefnogi cefn gwlad Cymru, rydym yn awyddus i weld y manylion llawn yn natganiad llafar Ysgrifennydd y Cabinet yn y Senedd y prynhawn yma. 

“Bu drwgdeimlad mawr o fewn y diwydiant dros y misoedd diwethaf, a bydd craffu ar y manylion yn hollbwysig wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo yn yr wythnosau nesaf.”

“Aelodau Uneb Amaethwyr Cymru yw calon ein sefydliad a byddwn yn parhau i wneud ein gorau i sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau posib i’n ffermydd teuluol yng Nghymru,” meddai Ian Rickman.

Undeb Amaethwyr Cymru yn cyfarfod â Phrif Weinidog newydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cyfarfod â Phrif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething ac Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, i drafod dyfodol y diwydiant amaeth.

Wrth drafod wedi’r cyfarfod, dywedodd Llywydd UAC, Ian Rickman: “Rydym yn croesawu’r cyfle cynnar hwn i amlinellu’r heriau presennol sy’n ein hwynebu fel diwydiant ac i drafod y camau nesaf posibl gyda’r Prif Weinidog newydd ac Ysgrifennydd y Cabinet yn dilyn ein cais am gyfarfod brys.

“Fe ddywedom yn gwbl glir bod yr ymdeimlad o rwystredigaeth a phryder o fewn y diwydiant yn parhau, a chawsom y cyfle i gyflwyno ein hymateb ystyrlon i’r ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy a rhestr o’r pwyntiau allweddol i Ysgrifennydd y Cabinet.”

Ychwanegodd Dirprwy Bennaeth Polisi UAC, Gareth Parry: “Rydym hefyd yn croesawu’r gydnabyddiaeth a’r gwerthfawrogiad gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet o’r sefyllfa bresennol rydym yn ei hwynebu. Mae hwn yn gam cyntaf hollbwysig i ddeall difrifoldeb y problemau a wynebwn gan ddod o hyd i'r ffordd orau ymlaen i fynd i'r afael â’r heriau hynny.

“Rydym am weld sefydlu grŵp rhanddeiliaid bychan gyda’r ffocws ar drafod a chynnig newidiadau i’r cynllun trwy gyd-gynllunio go iawn,” meddai.

Ychwanegodd y Llywydd Ian Rickman: “Mae ad-drefnu diweddar y Llywodraeth yn sicr yn newyddion cadarnhaol i’r diwydiant gan ei fod yn cyflwyno cyfle newydd ar gyfer newid ystyrlon i’r cynigion presennol. Edrychwn ymlaen at gyfarfodydd rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet, a’r Prif Weinidog, i sicrhau bod fersiwn derfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cyflawni datrysiadau go iawn i ffermwyr Cymru.”