Undeb Amaethwyr Cymru’n chwilio am enwebiadau ar gyfer gwobr person llaeth rhagorol yng Nghymru

Ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi cyfrannu at y diwydiant llaeth ac sy'n haeddu gwobr? Ydych chi wedi dod ar draws unigolyn sydd wedi mynd y tu hwnt i’w ddyletswydd yn y sector llaeth? A oes rhywun wedi creu argraff arnoch gyda'u llwyddiannau o fewn y sector llaeth, caws neu fenyn? Os felly, dyma gyfle gwych!

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn awyddus i gydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig at ddatblygiad y sector llaeth ac sy’n rhan annatod o’r diwydiant yng Nghymru. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi a’i gyflwyno â’r wobr yn nigwyddiad Sioe Laeth Cymru ar Faes Sioe’r Siroedd Unedig yn Nantyci, Caerfyrddin ar ddydd Mawrth 22 Hydref, 2024.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin, David Waters: “Wrth edrych yn ôl rydym wedi cael rhai enwebiadau ac enillwyr teilwng iawn, gyda safon uchel ac enwau clodwiw o fewn y diwydiant yn y gorffennol.

“Felly os ydych yn adnabod person yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sy’n rhan hanfodol o’r sector yng Nghymru, yna ewch ati i’w henwebu ar gyfer y wobr arbennig hon.”

I enwebu person, anfonwch lythyr neu daflen yn rhoi manylion llawn eu rȏl ar hyn maent wedi eu cyflawni gan e-bostio swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu anfon drwy’r post at Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin Suite 10, Ty Myrddin, Old Station Road, Caerfyrddin, SA31 1LS erbyn dydd Gwener 4  o Hydref 2024.

“Rydym yn awyddus i dderbyn mewnbwn o bob rhan o Gymru, gan unigolion a chymunedau gwahanol sy’n teimlo bod rhywun yn haeddu’r wobr hon. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn yr enwebiadau a chlywed barn unigolion ledled Cymru,” meddai David Waters.

Undeb Amaethwyr Cymru’n cymeradwyo argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar bolisi amaethyddol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cymeradwyo’n llwyr argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar bolisi amaethyddol yn ei adroddiad ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg’ a gyhoeddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Yn dilyn mewnbwn gan yr Undeb yn ystod datblygu’r gwaith, mae’r adroddiad yn argymell y ‘dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi amaethyddol. Dylid sicrhau cefnogaeth i’r fferm deuluol, a bod egwyddor pwysigrwydd y fferm deuluol yn cael ei hadlewyrchu mewn polisïau eraill megis polisi amgylcheddol.’

Yn ôl Ian Rickman, Llywydd FUW: “Gweledigaeth Undeb Amaethwyr Cymru yw sicrhau bod gennym ni gymuned o ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru. Y teuluoedd amaethyddol yma, sy’n byw a gweithio o fewn eu cymunedau, yw asgwrn cefn ardaloedd gwledig ac economi cefn gwlad Cymru.”

Mae sioeau amaethyddol sirol a sefydliadau cymdeithasol ac elusennau megis Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac adrannau ac aelwydydd yr Urdd wrth wraidd cynaliadwyedd y Gymraeg, treftadaeth a diwylliant Cymru.

“Fel y nodir yn yr adroddiad, mae 43.1%* o weithlu’r diwydiannau amaeth, coedwigaeth a physgota’n siarad Cymraeg - y gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg o’r holl sectorau economaidd yng Nghymru.

“Mae argymhelliad y Comisiwn yn cyd-fynd yn llwyr â’n cred a’n gweledigaeth ni y dylai’r Gymraeg fod yn ystyriaeth ganolog yn natblygiad polisi amaethyddol ac amgylcheddol, ac yn rhan annatod o unrhyw daliad ‘gwerth cymdeithasol’ ddaw drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.

“Bydd unrhyw gynigion polisi yn y dyfodol sy’n niweidiol i fusnesau amaeth, cymunedau gwledig, neu i’r sector amaethyddiaeth yng Nghymru yn fygythiad uniongyrchol i’r diwydiant sy’n cynnwys y ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg,” meddai Ian Rickman

* data o Census 2021

Undeb Amaethwyr Cymru’n croesawu sefydlu Bwrdd Rhaglen Dileu'r Diciâu mewn Gwartheg

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod Bwrdd Rhaglen Dileu’r Diciâu mewn Gwartheg bellach wedi ei sefydlu.

Mae’r newyddion yn cwblhau’r strwythur llywodraethiant newydd yn dilyn ffurfio’r Grŵp Cynghori Technegol ar TB mewn Gwartheg yn gynharach eleni.

Yn ôl Dirprwy Lywydd yr Undeb a’r ffermwr llaeth, Dai Miles: “Rydym yn croesawu’r newyddion bod Bwrdd Rhaglen Dileu’r Diciâu mewn Gwartheg wedi ei sefydlu  a bod llythyrau penodi wedi’u hanfon. Mae’r newyddion i’w groesawu yn arbennig gan fod y Llywodraeth eisoes wedi ffurfio’r Grŵp Cynghori Technegol yn gynharach eleni.

“Gyda chynrychiolaeth gref gan ffermwyr a chyrff y diwydiant, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru, bydd y Bwrdd yn gweithio’n agos gyda’r Grŵp Cynghori Technegol ac yn rhoi cyngor strategol i Huw Irranca-Davies ar geisio dileu’r diciâu mewn gwartheg yng Nghymru.”

Mae’r datganiad (12 Awst) yn nodi y bydd blaenoriaethau cynnar y Bwrdd yn cynnwys cytuno ar ei gylch gorchwyl, cadarnhau’r ‘ffyrdd o weithio’ ac ystyried cyngor y Grŵp Cynghori Technegol mewn perthynas â’r adolygiad chwe blynedd ar y targedau i ddileu’r diciâu yng Nghymru. Yn ogystal, bydd y Bwrdd hefyd yn archwilio sut i wella cyfathrebu ac ymgysylltu â ffermwyr a milfeddygon.

Dywedodd Dai Miles: “Er ein bod yn croesawu’r cyhoeddiad gan Huw Irranca-Davies heddiw, fel ceidwaid anifeiliaid fferm, rydym yn parhau i gael ein llethu gan y clefyd diflas yma.

“Yn 2022, dadansoddodd yr FUW bod cyfanswm y costau o brofi gwartheg am y diciâu cyn eu symud yng Nghymru dros £2.3 miliwn. Cafodd 11,197 o anifeiliaid eu difa yn y 12 mis hyd fis Mawrth 2024.

“Wrth i ni barhau i weld diffyg eglurder ac arweiniad i ymdrin â’r clefyd hwn mewn bywyd gwyllt hefyd, mae tystiolaeth o’r 52 ardal difa moch daear cyntaf yn Lloegr yn dangos bod yr achosion o’r diciâu mewn gwartheg wedi gostwng 56% ar gyfartaledd a hynny wedi pedair blynedd o’r cynllun difa. Mae ffermwyr, fel llysgenhadon cefn gwlad, hefyd am weld poblogaeth o fywyd gwyllt iach a llewyrchus yma yng Nghymru.

“Mae’r effaith emosiynol a seicolegol ar y teuluoedd amaethyddol sy’n cael eu taro gan y clefyd hwn yn eu gwartheg yn ddirdynnol. Mae nifer o’n haelodau wedi siarad yn gyhoeddus am eu trallod dros y misoedd diwethaf er mwyn codi ymwybyddiaeth o sgìl effaith y clefyd ar eu teuluoedd, eu busnesau a’u da byw."

Yn ôl y Dirprwy Lywydd: “Fel Undeb, rydym yn awyddus i gyfrannu a gweithio’n agos gyda Bwrdd y Rhaglen Dileu a’r Grŵp Cynghori Technegol i adolygu’r materion pwysig sy’n berthnasol i ddileu’r diciâu mewn gwartheg. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd megis priodoldeb y trefniadau profi presennol a’r dulliau y gellid mynd i’r afael â nhw er mwyn ceisio osgoi lledaenu’r clefyd mewn bywyd gwyllt.”

Dod a thamaid o’r wlad i’r dref yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn ei chanol hi yn mwynhau Eisteddfod ym Mharc Ynys Angharad yr wythnos hon. 

Mae croeso twymgalon i ymwelwyr ac eisteddfodwyr rif y gwlith yn ystod wythnos brysur ar stondin yr FUW fydd yn cynnwys arddangosiadau coginio, cwis amaethyddol, trafodaeth gan arbenigwr gwlȃn a negeseuon cerddorol ynghylch diogelwch fferm gyda’r annwyl Welsh Whisperer.

Dywedodd Dirprwy Swyddog Gweithredol Sirol UAC dros Gwent a Morgannwg, Gemma Haines: “Fel un o’r ardal sydd wedi ail afael yn ei Chymraeg mae cael bod yn rhan o drefniadau Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer yr Eisteddfod wedi bod yn gyffrous iawn. 

“Rydym yn awyddus i ddod ag ychydig o fywyd cefn gwlad i ardal boblog Pontypridd yr wythnos hon gan atgoffa trigolion lleol, teuluoedd ac ymwelwyr o le’n union mae ei bwyd yn dod. 

“Byddwn yn atgoffa pobl am bwysigrwydd safon bwyd ac am y broses o ofalu ac ymddwyn yn ddoeth yng nghefn gwlad. Byddwn hefyd yn rhoi sylw i ddiogelwch ar y fferm, a hynny ar ffurf cȃn.

“Amaethwyr yw ceidwaid cefn gwlad, a thrwy ddod a Thegwen y fuwch liwgar draw i faes yr Eisteddfod ein gobaith yw cynnig paned, diod oer a chyfle i bobl a theuluoedd gael gorffwys, sgwrsio a hamddena ar ein stondin gan wneud yr FUW yn gyrchfan i oedi a chael pum munud o brysurdeb yr Ŵyl.

“Mae hi’n fraint o’r mwyaf i ni allu croesawu eisteddfodwyr yma i ardal Rhondda Cynon Taf. Mae’r gwaith paratoi a’r codi arian gan y gymuned wedi bod yn anhygoel a phenllanw’r holl waith fydd yr wythnos hon. Dewch draw i’n stondin yn ystod yr wythnos i’n gweld,”  meddai Gemma Haines. 

Rhaglen o weithgareddau’r wythnos ar stondin yr FUW

Dydd Sadwrn 3.8.24

Daeth Ambiwlans Awyr Cymru i’r stondin i rannu pwysigrwydd ei gwasanaeth yng nghefn gwlad, wrth i ni godi arian at elusen yr FUW dros y ddwy flynedd nesaf

Dydd Sul 4.8.24 

11.00 a 14.00 Diogelwch y Fferm gyda’r Welsh Whisperer a’i gitȃr 

Dydd Llun 5.8.24 

10.30 Sgwrs “Ein taith amaeth” gyda chyn Lywydd UAC, Glyn Roberts; y Dirprwy Lywydd, Dai Miles; Natalie Hepburn a Grug Jones.

11:30 Natalie Hepburn o Garlic Meadow yn creu sebon

13:00 Blasu caws, diolch i nawdd gan gwmni Calon Wen

14:00 Coginio gan ddefnyddio cynnyrch llaeth gyda’r cogydd, Aneira o Siop Fferm Cwm Farm

Dydd Mawrth 6.8.24 

10.30 Sefydliad y Merched - Cyflwyniad rhoi diwedd i drais yn erbyn Merched

14:00 Creu cacennau cri gydag Aneira o Siop Fferm Cwm Farm a sgwrs gyda’r elusen The DPJ Foundation

Dydd Mercher 7.8.24 

10.00 Sgwrs gyda Gareth Jones, Pennaeth Ymgysylltu ag aelodau’r Bwrdd Gwlȃn

13:00 Dyfodol y diwydiant gwlȃn yng Nghymru, gyda Gareth Jones ac Anwen Hughes

14:00 Celf a chrefft i blant gan ddefnyddio gwlȃn y ddafad

Dydd Iau 8.8.24 

10.00 Rhian Pierce o’r RSPB yn trafod adar ar ein ffermydd a rhannu crefftau byd natur gyda phlant a phobl ifanc

11:30 Arddangosfa goginio gyda’r cogydd, Nerys Howell arbenigwr bwyd Cymreig

13:30 Cyflwyniad gan Lee Oliver o’r Game and Wildlife Conservation Cymru 

14:30 Arddangosfa goginio gyda’r cogydd, Nerys Howel 

15:30 Rhian Pierce o’r RSPB yn trafod adar ar ein ffermydd a rhannu crefftau byd natur

Dydd Gwener 9.8.24 

11.00 Cwis amaethyddol teuluol ac elusen The DPJ Foundation ar y stondin

Prynhawn o grefftau a phom pom gyda Mari Anne

Dydd Sadwrn 10.8.24

Arddangosfa goginio gyda’r cogydd, Nerys Howell 

Prynhawn o grefftau

UAC yn cydnabod milfeddyg a safodd ysgwydd wrth ysgwydd gyda ffermwyr yn ystod protestiadau

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cydnabod Rhys Beynon-Thomas am ei wasanaethau i amaethyddiaeth yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae Rhys Beynon-Thomas yn filfeddyg profiadol a ddychwelodd i Gymru yn 2014 i weithio fel milfeddyg yn arbenigo mewn anifeiliaid fferm yn Sir Gaerfyrddin ochr yn ochr â ffermio’n rhan amser ar fferm y teulu yn yr Hendy, Abertawe. Mae bellach yn gyfarwyddwr yn Milfeddygon Prostock.

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Mae Rhys wedi bod yn eiriolwr ac yn llais i ffermwyr yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf gofidus i’r sector.

“Fe wnaeth ei areithiau teimladwy ond effeithiol iawn ym mhrotestiadau “Digon yw Digon” yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd gyfleu erchyllterau TB ar deuluoedd fferm. Roedd ei ddehongliad yn ddirdynnol ac roedd ei ddewrder i siarad o safbwynt milfeddyg yn ysbrydoledig.”

Dywedodd Rhys: “Mae’n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon gan UAC. Teimlaf ei bod yn ddyletswydd arnaf fel gwyddonydd a milfeddyg fferm i drafod y ffeithiau ynghylch TB yng Nghymru. Am gyfnod rhy hir mae polisi wedi cael ei bennu gan wleidyddiaeth ac nid gan wyddoniaeth. Gwyddoniaeth nid gwleidyddiaeth.”

Enid ac Wyn Davies yn ennill gwobr Bob Davies UAC am eu dewrder mewn rhaglen deledu ar TB

Pleidleisiodd aelodau UAC ar draws Cymru bod Wyn ac Enid Davies, sy’n rhedeg y fferm deuluol yng Nghastell Howell ger Capel Issac yn ennill Gwobr Goffa Bob Davies.

Cafodd eu dewrder a’u cryfder wrth ganiatáu i’r rhaglen deledu amaethyddol Gymreig ‘Ffermio’ fod ar eu fferm i ffilmio’r broses erchyll o ddifa chwarter eu buches odro oherwydd TB ei gydnabod gan aelodau UAC o bob rhan o Gymru. Roedd y tair cenhedlaeth yng Nghastell Howell yn trin eu gwartheg fel ‘anifeiliaid anwes’ eglurodd Enid, ni ellid amgyffred pam y bu’n rhaid iddynt ddioddef y boen o weld y gwartheg yn cael eu difa ar y fferm yn hytrach nag oddi ar y safle.

Mae’r wobr, er cof am ohebydd Cymru Farmers’ Weekly Bob Davies, yn cael ei chynnig i unigolyn neu grŵp sydd wedi codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

Wrth dderbyn y wobr, ffon fugail a gerfiwyd yn arbennig gan Richard Hughes, Mathafarn, oddi wrth Lywydd UAC Ian Rickman, dywedodd Enid Davies: “Y gobaith, trwy rannu ein stori oedd y gallai helpu rhywun arall. Ni fyddem yn dymuno i unrhyw un fynd trwy’r hyn yr ydym wedi bod drwyddo a gobeithio, trwy ddangos beth ddigwyddodd i ni, y gallem helpu ffermwyr a theuluoedd eraill i deimlo’n llai unig.”

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Ian Rickman: “Fe allwn ni weiddi a gweiddi, ond os nad yw ein neges yn cael ei chlywed yna gwastraff yw ein hymdrechion. Rydyn ni angen pobl i glywed ein stori.

“Mae UAC yn wirioneddol ddiolchgar i Enid, Wyn a’r teulu Davies i gyd am ganiatáu camerâu Ffermio ar eu fferm yn ystod y broses erchyll o ddifa chwarter eu buches odro oherwydd TB.

“Eu cryfder wrth ganiatáu i’r cyhoedd eu gweld ar eu mwyaf bregus yw pam ein bod yn falch o gyflwyno gwobr goffa Bob Davies i Enid ac Wyn Davies, Castell Howell, Capel Issac.”