Undeb Amaethwyr Cymru yn anfon neges glir i Lywodraeth Lafur newydd y DU bod angen cyllid blynyddol teg i amaethyddiaeth Cymru

Undeb Amaethwyr Cymru yn anfon neges glir i Lywodraeth Lafur newydd y DU bod angen cyllid blynyddol teg i amaethyddiaeth Cymru

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn anfon neges glir i’r Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan fod Cymru angen setliad ariannu teg, blynyddol o £450 miliwn mewn cyllid etifeddol y Polisi Amaeth Cyffredinol (CAP) yr UE i gefnogi cynhyrchu bwyd, yr economi wledig a’r gwaith mae ffermwyr yn ei wneud i ddiogelu'r amgylchedd.

Yn sgil buddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad cyffredinol ar adeg pan fo ffermio yng Nghymru yn wynebu croesffordd bwysig, mae gan Blaid Lafur y Deyrnas Gyfunol gyfle nawr i ddylanwadu ar ddyfodol cefn gwlad Cymru am ddegawdau i ddod.

Wrth ymateb i’r canlyniadau, dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Yn gyntaf, hoffwn longyfarch y Prif Weinidog newydd a’i blaid ar fuddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol, ac ar yr un gwynt diolch i’r Aelodau Seneddol hynny sydd wedi gweithio’n agos ȃ ni dros y pum mlynedd diwethaf. 

“Mae’r etholiad yma wedi dod â newid sylweddol i dirwedd wleidyddol Cymru, gyda gostyngiad sylweddol yn nifer yr etholaethau, newidiadau mewn ffiniau, a nawr Llywodraeth Lafur newydd y DU yn dal y mwyafrif yn San Steffan.

“Nid yw UAC yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol ac felly rydym yn barod i ymgysylltu a gweithio gyda gwleidyddion o bob plaid i sicrhau bod lleisiau ffermwyr Cymru yn cael eu clywed.”

Mae Maniffesto Etholiad Cyffredinol UAC yn nodi blaenoriaethau allweddol yr Undeb ar gyfer y llywodraeth newydd, gan ganolbwyntio ar sicrhau setliad ariannu teg, aml-flwyddyn sy’n o leiaf £450 miliwn y flwyddyn mewn cyllid etifeddiaeth PAC yr UE ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru. Ni ellir diystyru pwysigrwydd y cymorth hwn fel y seilwaith i gynhyrchu bwyd, diogelu’r amgylchedd a chymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth newydd y DU yn sicrhau bod unrhyw gytundebau â gwledydd a blociau masnachu eraill yn y dyfodol yn cymryd agwedd llawer mwy cadarn i amddiffyn ffermwyr y DU a sicrwydd bwyd. Gyda hynny, rhaid i fewnforion ac allforion bwyd ddilyn yr un arferion rheolaethau a safonau i sicrhau tegwch rhwng cynhyrchwyr y DU a’r UE.

Mae Maniffesto’r Undeb hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno polisïau caffael sy’n blaenoriaethu cefnogaeth cyrff cyhoeddus i fusnesau Cymreig a Phrydeinig gan hyrwyddo cadwyn gyflenwi fwy tryloyw.

“Er bod cyfeiriad ffermio yng Nghymru’n dibynnu’n fawr ar ddatblygiad polisïau amaethyddol datganoledig, rhaid i ni beidio ag anghofio sut y bydd penderfyniadau a wneir gan weinyddiaeth newydd y DU yn pennu faint o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i gefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Bydd hefyd yn rheoli i ba raddau y disgwylir i gynhyrchwyr o Gymru gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr yng ngwledydd eraill y DU ac ar draws y byd ar wahanol lefelau.

“Dyma pam na fyddwn yn gwastraffu unrhyw amser cyn cysylltu â’r Aelodau Seneddol newydd dros Gymru a’r rhai sy’n cymryd rolau dylanwadol yn y senedd i sicrhau ein bod yn amlinellu ein blaenoriaethau allweddol cyn gynted â phosib.

“Er gwaetha’r her o lywio tirwedd wleidyddol sy’n newid yn gyson, mae ein rôl fel Undeb wrth lobïo llywodraethau am y canlyniadau gorau posib i amaethyddiaeth yng Nghymru yn parhau’n waith cyson a di-baid,” meddai Ian Rickman.