Pryder wrth i fewnforion cig defaid i’r DU gynyddu

Pryder wrth i fewnforion cig defaid i’r DU gynyddu

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryder wrth i ffigurau masnach ddiweddaraf y DU ddatgelu cynnydd sylweddol mewn cig defaid a fewnforiwyd i’r DU yn 2024.

Mae data a ryddhawyd gan Lywodraeth y DU yn dangos bod mewnforion cig dafad i’r DU wedi cynyddu 40% ar ffigyrau llynedd, gan gyrraedd 67,880 tunnell - y lefel uchaf ers 2018.

Mae cynnydd mewn mewnforion o Seland Newydd (cynnydd o 14,300 tunnell) ac Awstralia (cynnydd o 6,500 tunnell) bellach yn cyfrif am 86% o fewnforion cig defaid y DU, i fyny o 78% yn 2023.

Mae dadansoddiad gan Hybu Cig Cymru (HCC) yn awgrymu bod amrywiaeth o ffactorau’n gyfrifol am y cynnydd mewn mewnforion, gan gynnwys prisiau is o Hemisffer y De, Cytundebau Masnach Rydd newydd, a’r lefel uchaf erioed o brisiau pwysau marw yn y DU.

Profai data diweddar gan DEFRA bod cynhyrchiant cig defaid y DU hefyd wedi gostwng 7% yn 2024, tra bod cynhyrchiant cig eidion y DU yn 2024 wedi cynyddu 4%.

Wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd Alun Owen, Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae’r ymchwydd mewn mewnforion cig defaid o Seland Newydd ac Awstralia yn fygythiad gwirioneddol a all danseilio bywoliaeth ffermwyr defaid Cymru a chynaliadwyedd ein cymunedau gwledig.

"I ryw raddau, gellir dadlau nad yw’r cynnydd yn annisgwyl - gan ddeillio o agweddau rhyddfrydol llywodraethau blaenorol tuag at drafodaethau masnach gyda Seland Newydd ac Awstralia. Roedd hyn er rhybuddion parhaus Undeb Amaethwyr Cymru y gall math agwedd a chytundebau masnach danseilio ffermwyr Cymru a chynhyrchiant bwyd domestig.

"Tra bod y galwad am gig oen i’w groesawu, yn gynyddol rydym yn wynebu’r posibiliad o gig oen Cymreig cynaliadwy o’r ansawdd uchaf yn cael ei ddisodli o blaid mewnforion sydd wedi teithio miloedd o filltiroedd.”