Image

Arweinyddiaeth

Mae ein haelodau ar draws y 12 cangen sirol yn ethol Tîm polisi llywyddol UAC. Yn rhinwedd ei swydd fel swyddogion UAC, maent yn siarad ar ran ffermwyr Cymru ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn cynrychioli’r Undeb mewn cyfarfodydd gweinidogol, gweithdai rhanddeiliad a chyfarfodydd cangen leol.

Image

Ian Rickman, Llywydd UAC

Ffermwr defaid a bîff o Sir Gaerfyrddin yw Ian, ac mae’n gyn-gadeirydd UAC Sir Gaerfyrddin a cyn Gadeirydd Pwyllgor Tir Mynydd a Thir Ymylol.

Cafodd ei ethol yn Is-lywydd UAC yn 2017 a daeth yn Ddirprwy Lywydd yn 2019. Yn ei holl rolau, mae Ian wedi gweithio’n ddiflino i gynrychioli’r Undeb a’i aelodau mewn amrywiaeth o gyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru, ar ymweliadau fferm gydag Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd gan bwysleisio pa mor bwysig yw amaeth, ac mae wedi cynrychioli’r Undeb mewn llu o gyfweliadau gyda’r cyfryngau.
Mae Ian yn briod â Helen ac mae ganddynt dri mab. Mae'r teulu'n byw ar fferm ucheldir 220 erw ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Mae mewn cytundeb ffermio cyfran gyda'i bartner busnes, ac yn cadw defaid a magu lloi Wagyu.

Image

Dai Miles, Dirprwy Lywydd UAC

Mae Dai yn ffermwr llaeth o Sir Benfro. Mae yn un o 4 cyfarwyddwr sefydlu Calon Wen, cwmni cydweithredol llaeth organig sydd nid yn unig yn gwerthu llaeth yr aelodau i broseswyr ond sydd wedi creu ei brand ei hun o gynnyrch llaeth sydd ar gael trwy'r holl brif fanwerthwyr yng Nghymru a'r DU gyfan trwy ddosbarthwyr.

Ym 1997, mewn partneriaeth â'i wraig Sharron, cymerodd y cwpl denantiaeth Barnsley Farm, fferm 143 erw yng Ngorllewin Cymru. Ar y pryd, roedd yn uned stoc/cnydau ac aethom ati i drosi'r uned i fferm laeth organig gan ddechrau gyda buches o 33 a chwota llaeth ar brydles. Yn 2001 cymerwyd 90 erw arall o dir pori ac yna yn 2005 y fferm gyfagos o fewn yr un ystâd. Ar hyn o bryd mae gan y cwpl 120 o fuchod a 65 o stoc ifanc. Y cnwd yn bennaf yw porfa, ond mae silwair âr, rêp porthiant a betys porthiant yn rhan o'r cylchdro ffermio sydd oddeutu 300 erwau.

Image

Brian Bowen, Is-lywydd Rhanbarthol

Mae Brian yn ffermio uned gymysg o fuchod sugno a defaid mynydd ger Tredegar. Mae'r fferm yn cynnwys 150 erw o dir, yn rhentu 1000 erw arall ynghyd a 1200 erw o hawliau comin ar dri darn ar wahân o dir comin. Mae’n rhedeg y fferm ar y cyd gyda’ii dad, ei fam a'i fab.

Bu’n Is-Gadeirydd UAC Brycheiniog a Maesyfed o 2008 a chafodd ei ethol yn Gadeirydd y Sir yn 2010. Mae wedi bod yn gynrychiolydd Brycheiniog a Maesyfed ar bwyllgor Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd UAC ers 2009 ac ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel ei Is-Gadeirydd.

Image

Anwen Hughes, Is-lywydd Rhanbarthol

Mae Anwen Hughes yn ffermio 80 erw ar fferm Bryngido, ychydig y tu allan i Aberaeron yng Ngheredigion, mewn partneriaeth â’i gŵr Rhodri. Mae’r teulu’n cadw tua 200 o ddefaid Lleyn a Lleyn croes ar system mewnbwn isel-allbwn uchel, sy’n seiliedig ar borfa.

Mae Anwen wedi bod yn ffermio ers 1995, ac mewn partneriaeth â’i mam Betty Davies, mae’n berchen ar 48 erw arall sy’n cael ei rentu i’w mab hynaf Glyn.

Image

Alun Owen, Is-lywydd Rhanbarthol

Mae Alun Owen yn ffermio Gallt-y-Celyn, Pentrefoelas gyda'i wraig Marian a'i fab Siôn. Fferm ucheldir sy’n cynhyrchu gwartheg stôr ac ŵyn tew ar stad Foelas yn ardal Uwchaled yw Gallt-Y-Celyn, ac mae rhwng 600 ac 800 troedfedd uwchben y môr. Mae yna ddaliad arall ym Mhen Llŷn hefyd yn rhan o’r busnes. Cymerodd Alun a’i wraig Marian awenau’r busnes oddi wrth ei rieni beth amser yn ôl ac maent wedi bod yn aelodau o UAC ers blynyddoedd lawer.

Mae Alun yn credu ei bod yn bwysig bod gan Gymru lais cryf o fewn y diwydiant amaethyddol ac wedi bod yn Gadeirydd UAC Sir Ddinbych. Mae’n credu ei bod yn bwysig ac yn ddyletswydd arno i geisio cyfarfod â phawb o’r tu allan i’r diwydiant er mwyn hwyluso eu dealltwriaeth o’r sector amaeth.