Image

Sut Rydym yn Gweithio

Yma yn UAC rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiad sydd gennym gyda'n ffermwyr. Mae gennym strwythur democrataidd a lleol, sy’n golygu bod aelodau’n dylanwadu ar bolisi UAC ac yn graidd i’r Undeb.
Image

SWYDDFEYDD LLEOL- Cefnogaeth ac arweiniad

Mae gan bob sir yng Nghymru swyddfa leol a thîm o staff o dan arweiniad Swyddog Gweithredol Sirol ymroddedig. Eich Swyddog Gweithredol Sirol lleol yw’r cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau polisi amaethyddol megis apeliadau, cosbau, Glastir a gwaith cyfalaf, cefnogaeth o ran gwaith papur y fferm gan gynnwys cymorth gyda ffurflen y Taliad Sengl, symudiadau BCMS a chofrestru gyda RPW Ar-lein. Maent hefyd yn medru cynnig arweiniad proffesiynol ar faterion megis cynllunio, hawliau tramwy ac anghydfodau ynghylch ffiniau.
Image

GRWPIAU SIROL - Cynrychiolaeth a Materion Lleol

Mae’r swyddfa sir yn cwrdd yn rheolaidd gyda’r aelodaeth i drafod sefyllfa bresennol y diwydiant ac i ffurfio polisïau UAC. Mae’r aelodau’n ethol swyddogion lleol UAC megis Cadeirydd Sirol a Llywydd y Sir ac maent yn holl bwysig wrth gynrychioli ein haelodau.

Mae cynrychiolwyr o’r grwpiau yma, pwyllgorau’r sector, swyddogion a staff yr undeb yn cyfarfod bob chwarter yn y Prif Gyngor sef corff llywodraethol a etholir yn ddemocrataidd. Mae’r cyngor yn adolygu gweithgarwch yr Undeb yn ogystal â thrafod materion amaethyddol presennol a rhai sy’n debygol o effeithio amaethyddiaeth yng Nghymru.

Image

PRIF SWYDDFA- Lobïo ac Ymgyrchu

Mae ein prif swyddfa yn Aberystwyth, yn gartref i’n tîm marchnata, aelodaeth, polisi a’r wasg, sy'n lobïo a dylanwadu ar Lywodraethau ar bob lefel yn San Steffan, Caerdydd a Brwsel. Maent yn gweithio'n galed i hyrwyddo buddiannau'r rhai sy'n ennill incwm o amaethyddiaeth yng Nghymru a boed ar grŵp cyngor lleol neu gorff cenedlaethol maent yn diogelu buddiannau ein haelodau drwy gydol y flwyddyn.

Image

PWYLLGORAU SECTOR – Gwybodaeth a Datblygu

Hefyd, mae gennym 11 o bwyllgorau polisi (sefydlog), yn cynnwys Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid, Llaeth a Chynnyrch Llaeth, Defnydd Tir a Materion Seneddol, Addysg a Hyfforddiant, Arallgyfeirio a Llais Yr Ifanc Dros Ffermio. Maent yn cyfarfod i drafod materion allweddol, derbyn gwybodaeth ar y datblygiadau diweddaraf gan y tîm polisi a chreu pwyntiau gweithredu er budd y sector.

Mae'r rhain yn cynnwys cynrychiolwyr o ffermwyr a etholwyd yn ddemocrataidd o 12 cangen sir yr Undeb, yn cael eu cynorthwyo gan aelod o'r tîm polisi, ac a gadeirir gan gynrychiolydd etholedig yr aelodau.