Dyma gyfieithiad o golofn fisol Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2025 o'r Tir, cylchgrawn mewnol Undeb Amaethwyr Cymru.
Wrth i’r ŵyna ddechrau, cafodd heulwen mis Mawrth groeso cynnes iawn yn y Gurnos. Ni chafwyd y dechrau gorau, ond mae wastad yn braf gweld y defaid a’r ŵyn cyntaf allan yn y caeau yn mwynhau’r tywydd sych. Gyda’r tywydd wedi gwella daeth yr her arferol o ran pa waith y tu allan sy’n cael y flaenoriaeth. Mae atgyweirio ffensys ac ail hongian gatiau, llawer ohonynt wedi gweld dyddiau gwell, wedi mynd i frig y rhestr. Y gobaith yw y bydd hyn yn ein galluogi i wneud defnydd gwell o’r borfa (pan fydd gennym borfa) drwy bori cylchdro.
Er bod tywydd braf mis Mawrth yn wrthgyferbyniad llwyr â dilyw llynedd, mae cymylau’n parhau i gasglu ac yn gosod heriau i ffermwyr Cymru a’r diwydiant.
Mis yma, pwysleisiwyd eto maint yr argyfwng bTB sy'n wynebu Cymru, gyda Defra’n cyhoeddi data difrifol iawn. Yn 2024 cafodd dros 13,000 o wartheg eu difa yng Nghymru, cynnydd syfrdanol o 27% o’r cyfnod 12 mis yn flaenorol, a'r nifer uchaf erioed o wartheg positif a laddwyd yma mewn cyfnod o 12 mis.
Tu ôl i’r ystadegau hyn mae ffermwyr a theuluoedd Cymru yn ysgwyddo baich aruthrol a chostau anweledig yr argyfwng hwn; eu busnesau dan fygythiad, ac yn aml iawn mae eu hiechyd meddwl ar ei waethaf.
Mae’r ystadegau hyn yn ailadrodd yr angen i Lywodraeth Cymru fynd ati i daclo’r clefyd o ddifrif a dilyn y wyddoniaeth wrth ehangu’r polisi dileu yng Nghymru drwy fabwysiadu dull cyfannol o fynd i’r afael â’r her hon. Mae sefydlu’r Grŵp Cynghori Technegol TB (TAG) a Bwrdd y Rhaglen Dileu TB llynedd wedi bod yn gam i’r cyfeiriad cywir, fodd bynnag, mae graddfa a thueddiad y ffigurau diweddar hyn unwaith eto yn pwysleisio’r angen hollbwysig am ymyrraeth frys a phwrpasol.
Er bod dileu bTB yn parhau i fod yn bwnc hynod gymhleth ac emosiynol, haf diwethaf croesawodd Undeb Amaethwyr Cymru benderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ac roedd Bwrdd y Rhaglen Dileu TB yn gam i’r cyfeiriad cywir. Fel rhan o’r gwaith, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyfle i eistedd ar y Bwrdd – gan ddod ag arbenigedd a phrofiad ynghyd o amrywiaeth o ffermwyr, milfeddygon, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr iechyd anifeiliaid.
Y tu hwnt i gysgod bTB, roedd mis Mawrth hefyd yn ein hatgoffa o’r ansicrwydd ehangach y mae bioddiogelwch yn ei achosi i’r sector; gydag ansicrwydd parhaus ynghylch Ffliw Adar a Thafod Las, a hefyd achosion pellach o glwy'r traed a'r genau yn Ewrop.
Yn wleidyddol, mae’r newidiadau i APR yn parhau i hawlio’r sylw, a chyn dadl Plaid Cymru yn y Senedd yn gynharach y mis hwn, croesawodd Undeb Amaethwyr Cymru'r cyfle i fod ym Mae Caerdydd i lobïo gwleidyddion ac anfon neges glir i San Steffan.
Wrth sôn am Lywodraeth y DU, mae’r digwyddiadau – a’r dicter – yn Lloegr dros yr wythnosau diwethaf ynghylch cau’r Cymhelliant Ffermio Cynaliadwy (SFI) yn sydyn, wedi ein hatgoffa’n amserol iawn pa mor bwysig yw darparu fframwaith cymorth ffermio ymarferol yn y dyfodol i ffermwyr yma yng Nghymru. Wrth i drafodaethau barhau ynghylch manylion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, rhaid peidio ag anwybyddu’r gwersi o Loegr, a bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i frwydro dros gynllun sy’n rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i holl ffermwyr Cymru.