gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Mae mis Mehefin wedi mynd ac o dan amgylchiadau arferol byddai llawer ohonom yn paratoi ar gyfer y gwahanol sioeau amaethyddol ledled y wlad. Fel y mae ar hyn o bryd, mae'n edrych fel bod ychydig o sioeau'n cael eu cynnal, gan gynnwys Sioe Brynbuga, neu’n cael eu cynllunio yn dibynnu ar gyfyngiadau Covid-19 wrth symud ymlaen, ac mae Sioe Frenhinol Cymru i’w chynnal yn rhithwir yn unig.
Wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau i effeithio ar ein bywydau rhaid i ni geisio ein gorau i aros yn bositif a gofalu am ein gilydd - hyd yn oed os yw dros y ffôn nes y gallwn gymdeithasu dros baned o de a rhannu ein meddyliau a’n pryderon ym mhebyll UAC unwaith eto.
Gall ffermio fod yn ynysig ar y gorau a rhaid inni edrych ar ôl ein gilydd yn ystod yr amseroedd ansicr hyn. Er y gallai lefelau straen fod yn uchel gyda chneifio, silwair a'r gwaith arferol arall o ddydd i ddydd sydd angen ei wneud ar ffermydd, fe'ch anogaf i gymryd cam yn ôl o bryd i’w gilydd ac edrych, nid yn unig ar ôl eich fferm, ond ar ôl eich hunain hefyd.
I'r Undeb mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur wrth i ni wneud ein rhan wrth edrych ar ôl y diwydiant. Mae’r tîm wedi bod yn lobïo’n ddi-baid i dynnu sylw at y peryglon a ddaw yn sgil cytundeb masnach rydd gydag Awstralia, gan gynnwys ein swyddogion sirol sydd wedi cyfarfod ag AS Ceidwadol ledled Cymru i drafod y mater yn fanwl iawn. Cafodd pob carreg ei throi.
Rydym hefyd wedi gweithio'n galed gyda chyrff diwydiant eraill a gwleidyddion trawsbleidiol i dynnu sylw at yr effaith ddinistriol y mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 eisoes yn ei chael ar y sector. Croesawyd y ffaith y bydd yna adolygiad ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i deilwra polisi sy'n gymesur ac sy'n adlewyrchu'r angen yma yng Nghymru.