Gan Glyn Roberts
Ychydig oriau cyn i rifyn olaf Y Tir fynd i brint, gosododd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 gerbron y Senedd o dan y 'weithdrefn negyddol', sy'n golygu ni fyddant yn cael eu hystyried gan bwyllgor Senedd ac ni all Aelodau'r Senedd eu hymchwilio’n briodol.
Mae'r rheoliadau'n golygu cyflwyno rheolau Parth Perygl Nitradau (NVZ) yr UE yn raddol ar draws Cymru, ac wrth i'r rhifyn hwn o Y Tir gael ei argraffu, rydym yn gweithio'n galed i lobïo Aelodau'r Senedd i gefnogi eu diddymiad mewn pleidlais ar y 3ydd o Fawrth.
Os yw'r bleidlais honno wedi'i hennill erbyn i chi ddarllen y rhifyn hwn o Y Tir, bydd yn nodi buddugoliaeth ar gyfer synnwyr cyffredin. Os na, rydym wedi ymrwymo i ymladd y rheoliadau mewn unrhyw ffordd bosibl, a byddwn yn ceisio sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn eu disodli â mesurau cymesur sy'n targedu llygredd heb beryglu’r diwydiant.