Cydblethu amaethu a chanu yn berffaith

 

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

Sgen di dalent?! Canu, adrodd, actio? Nid wyf yn cyfri’n hunan yn berson talentog iawn, rhyw botsian mewn sawl peth a ddim yn arbenigo mewn dim byd penodol! Er fy mod wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth o bob math, allai ddim canu nodyn i achub fy nghroen! Pleser felly yw cael ymfalchïo yn nhalentau eraill, a dyma’n union beth sy’n cael ei ddathlu mewn llyfr newydd sbon, O’r Gwlân i’r Gân sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Y Lolfa.

Dyma i chi hanes y ffermwr Aled Wyn Davies, neu Aled Pentremawr fel mae’n cael ei adnabod. Er mae dyn ei filltir sgwâr yn Llanbrynmair yw Aled, mae wedi cael cyfle i deithio’r byd, diolch i’w dalent fel canwr.

Yr hyn sy’n amlwg iawn trwy’r hunangofiant yw’r ffordd mae ffermio a chanu wedi cydblethu’n berffaith drwy’r amser.  Chwaraeodd Mudiad y Ffermwyr Ifanc rôl bwysig yn nyddiau cynnar Aled fel canwr wrth iddo gystadlu mewn amryw o gystadlaethau cerddorol, yn ogystal â’r rhai doniol hefyd - y sgets, y ddeuawd ddoniol a’r meim i gerddoriaeth.

Cydnabod pwysigrwydd amaeth i’r Gymraeg

‘Rhaid cydnabod pwysigrwydd amaeth i’r Gymraeg’ oedd neges Aled Roberts Comisiynydd yr Iaith Gymraeg ar Radio Cymru ar y 7fed o Hydref 2020. Mae angen i gynlluniau Llywodraeth Cymru gefnogi’r diwydiant amaeth ar ôl Brexit gydnabod “ei bwysigrwydd i ddyfodol y Gymraeg”.

Dywed Mr Roberts bod angen targedu cymorthdaliadau tuag at helpu ffermydd teuluol i oroesi. Mae ffigyrau’r Cyfrifiad yn dangos bod 43% o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg, o gymharu â 19% o’r boblogaeth yn gyffredinol. Roedd Mr Roberts yn ymateb i argymhellion adroddiad diweddar ynglŷn â sut y gall ffermwyr helpu’r llywodraeth i gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Iselder a hunanladdiad - Prif achosion marwolaethau mewn cymunedau ffermio yn y DU

gan Hywel Llyr Jenkins, Aelod o Dîm Rheoli meddwl.org

Yn ôl 84% o ffermwyr o dan 40 mlwydd oed, iechyd meddwl yw’r peryg mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant heddiw. Mae 85% o ffermwyr ifanc yn credu bod cysylltiad penodol rhwng iechyd meddwl a diogelwch cyffredinol ffermwyr.

Iselder a hunanladdiad yw prif achosion marwolaethau mewn cymunedau ffermio yn y DU, yn ôl ymgyrch Amser i Newid Cymru. Does dim syndod felly bod mwy a mwy o alw yn ddiweddar ar gymunedau cefn gwlad i drafod iechyd meddwl yn fwy agored. Mae’r diwydiant amaeth yn wynebu llawer o bethau sy’n achosi straen, ac yn gosod pwysau cynyddol ar weithwyr, megis gweithio oriau hir, pwysau ariannol, clefydau anifeiliaid, cnydau gwael, unigedd ac unigrwydd, yn ogystal â ffactorau gwleidyddol megis Brexit a pholisïau sy’n golygu eu bod mewn mwy o beryg o brofi anawsterau iechyd meddwl. Felly, mae rhoi sylw i’ch iechyd meddwl yn hollbwysig yn y diwydiant.

Rydym yn falch o glywed bod FUW wedi gosod nod amlwg o geisio codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn cymunedau cefn gwlad. Mae stigma yn bodoli ynglŷn â siarad am ein hiechyd meddwl, a tan ein bod yn barod i herio’r stigma hwn, mae perygl na fydd pobl yn cael y cymorth maent yn haeddu cael a wirioneddol ei angen.

Bachwch ar y cyfle!

gan Siôn Ifans, Cadeirydd UAC Sir Feirionnydd

Dwi’n rhan o bartneriaeth yma ym Mryn Uchaf, Llanymawddwy gyda fy ngwraig a fy rhieni yng nghyfraith. Ffarm fynydd ydy Bryn Uchaf gyda diadell o 900 o famogiaid a 15 o fuchod sugno. Mae’r ddiadell yn cynnwys 630 o ddefaid Cymreig gyda 150 o’r rheini yn mynd at hwrdd Aberfield a’r gweddill at hyrddod Cymraeg. Cedwir 170 o ddefaid croes Aberfield gan roi hyrddod Texel a Suffolk NZ arnynt.

Mae’r fuches sugno yn cynnwys buchod du benwen a buchod Stabiliser. Prynwyd tarw Stabiliser am y tro cyntaf eleni gyda’r bwriad o gadw lloi menyw i gynyddu’r fuches rhyw ychydig heb orfod prynu i mewn.

Fe ddechreuodd fy mherthynas i gyda UAC nôl yn 2002 pan gefais y cyfle i ddechrau amaethu drwy sicrhau tenantiaeth 5 mlynedd. Mi es i swyddfa’r Undeb yn Y Drenewydd i holi am gyngor ar wahanol agweddau megis cwota defaid ayyb. Cefais arweiniad a chymorth gwerthfawr iawn gan y Swyddog Gweithredol Sirol ar y pryd, ac o hynny fe eginodd fy mherthynas gyda’r Undeb.

Erbyn hyn, ar ôl symud i Fryn Uchaf, dwi wedi newid Sir ac yn ymwneud â Swyddfa Sir Feirionnydd. Cefais fy enwebu gan y gangen leol yn Ninas Mawddwy i’w cynrychioli ar y pwyllgor Sir ac ar ôl ychydig flynyddoedd ges y cyfle o fod yn Is Gadeirydd ac erbyn hyn dwi ar fy ail flwyddyn fel Cadeirydd y Sir.

Dwi’n cydweithio’n agos iawn gyda staff y swyddfa yn Nolgellau. Mae’r cyfrifoldebau yn amrywio o gadeirio’r pwyllgor Sir yn ogystal â chyfrannu at drafodaethau gyda gwleidyddion a chynrychiolwyr o fewn y diwydiant. Ers bod yn gadeirydd dwi wedi dod i ddeall yn well sut mae’r Undeb yn gweithredu ac wedi sylweddoli pwysigrwydd y gwaith y mae’r adran bolisi yn ei wneud.

Wrth gyfathrebu gyda’r swyddfa sirol yn ogystal â’r adran bolisi mae’r holl ddatblygiadau diweddaraf am ddyfodol polisïau amaeth ac amgylcheddol yn fyw iawn ar yr agenda.

Mae hyn yn wir am yr ymgynghoriad diweddaraf sef y trydydd ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir - Symleiddio Cymorth Amaethyddol ar gyfer Ffermwyr a’r Economi Wledig. Yn gryno, ymgynghoriad am gynllun rhwng cynlluniau ydy hyn, ond mae angen ymateb iddo.

Does dim dwywaith yn fy marn i, ers i’r ymgynghoriad cyntaf ddod allan yn 2018, mae rhyw geisio am awgrymiadau y mae Llywodraeth Cymru ar beth fyddai’n gweithio o ran cynlluniau cymorth. Mae hyn yn amlygu’r gwirionedd bod diffyg profiad a dealltwriaeth o fewn adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru. Mae’n hynod bwysig felly ein bod yn eu rhoi ar ben ffordd a’n bod yn ymateb mewn rhyw ffordd, boed hynny yn unigol neu drwy gyfrannu i ymateb Sirol.

Fel gair bach olaf, cofiwch i fachu ar unrhyw gyfle ddaw o fod yn aelod o’r Undeb. Mae eich barn yn bwysig ac mae angen ei leisio!

Yr ysbrydoliaeth i goginio ynghanol y cyfnod clo

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

 

 

Roedd wythnos Mawrth 16-20 yn anarferol iawn eleni, braidd yn iasol i ddweud y gwir, wrth i’r byd cyfan blymio mewn i ansicrwydd nas gwelwyd erioed o’r blaen.

Roedd panig yn lledaenu ar raddfa gyflym wrth i Coronafeirws dynhâi’r gafael ar y byd. Ni feddyliais, na chi chwaith mae’n siŵr, y byddai’r gair yna’n parhau i ddominyddu’r sgwrs ddyddiol erbyn heddiw.

Ond, er yr holl dristwch ac ansicrwydd yn sgil y pandemig, mae yna bethau da wedi dod allan o sefyllfa wael. Yn fuan ar ôl dechrau’r cyfnod clo, sefydlodd dwy o aelodau Merched y Wawr, Angharad Fflur a Gwerfyl Eidda, y dudalen Facebook Curo’r Corona’n Coginio er mwyn annog pobl i rannu eu ryseitiau a’u cynghorion. Ymhen rhai wythnosau roedd 15,000 wedi ymaelodi â’r grŵp, gan greu cymuned gyfeillgar sy’n ymestyn ar draws y byd.