Iselder a hunanladdiad - Prif achosion marwolaethau mewn cymunedau ffermio yn y DU

gan Hywel Llyr Jenkins, Aelod o Dîm Rheoli meddwl.org

Yn ôl 84% o ffermwyr o dan 40 mlwydd oed, iechyd meddwl yw’r peryg mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant heddiw. Mae 85% o ffermwyr ifanc yn credu bod cysylltiad penodol rhwng iechyd meddwl a diogelwch cyffredinol ffermwyr.

Iselder a hunanladdiad yw prif achosion marwolaethau mewn cymunedau ffermio yn y DU, yn ôl ymgyrch Amser i Newid Cymru. Does dim syndod felly bod mwy a mwy o alw yn ddiweddar ar gymunedau cefn gwlad i drafod iechyd meddwl yn fwy agored. Mae’r diwydiant amaeth yn wynebu llawer o bethau sy’n achosi straen, ac yn gosod pwysau cynyddol ar weithwyr, megis gweithio oriau hir, pwysau ariannol, clefydau anifeiliaid, cnydau gwael, unigedd ac unigrwydd, yn ogystal â ffactorau gwleidyddol megis Brexit a pholisïau sy’n golygu eu bod mewn mwy o beryg o brofi anawsterau iechyd meddwl. Felly, mae rhoi sylw i’ch iechyd meddwl yn hollbwysig yn y diwydiant.

Rydym yn falch o glywed bod FUW wedi gosod nod amlwg o geisio codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn cymunedau cefn gwlad. Mae stigma yn bodoli ynglŷn â siarad am ein hiechyd meddwl, a tan ein bod yn barod i herio’r stigma hwn, mae perygl na fydd pobl yn cael y cymorth maent yn haeddu cael a wirioneddol ei angen.

Mae hi’n iawn i siarad am ein teimladau, does dim i’w hofni o wneud. Dydy e ddim yn wir fod siarad allan yn arwydd o wendid. Yn wir, mae’n aml iawn yn arwydd o gryfder sy’n ennill parch gan eraill yn y gymdeithas ac yn gymorth i eraill. Byddwch yn siŵr o ffeindio bod sawl un yn teimlo’r un fath a chi. Ar ddiwedd y dydd rydym yn aml yn wynebu’r un heriau a’n gilydd.

Y newyddion da yw nad oes angen dioddef ar ben eich hunan, boed yn rhywun sy’n ffermio neu’n unrhyw un sy’n byw yng nghymdeithas cefn gwlad. Mae cymorth ar gael gan eich meddyg teulu a’r sefydliadau Tir Dewi a’r DPJ Foundation ymysg eraill. Gellir ffeindio rhagor o wybodaeth am ble i gael cymorth ar ein gwefan (meddwl.org/cymorth).

Mae meddwl.org hefyd yn falch iawn o’r gwaith rydym wedi gwneud eleni gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc i ddatblygu adnodd o’r enw ‘Mae’n iawn i beidio â bod yn iawn’. Mae’n adnodd sy’n cynnig awgrymiadau am sut i siarad ag eraill am eich iechyd meddwl, neu sut i helpu rhywun sy’n cael argyfwng iechyd meddwl.

Mae salwch meddwl yn salwch cudd, gallwch fod ddim yn teimlo’n dda, ond yn ansicr o beth sy’n bod. Dyma rhai pethau i edrych mas amdanynt:

  • Newid mewn archwaeth, arferion bwyta neu bwysau
  • Newid yn lefel egni a phatrymau cwsg
  • Meddyliau cyson am farwolaeth neu hunanladdiad
  • Canolbwyntio a gwneud penderfyniadau
  • Aflonyddwch neu anniddigrwydd amlwg
  • Colli diddordeb neu fwynhad mewn gweithgareddau

Os ydych yn teimlo fod angen help arnoch chi siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddynt. Yn aml, rhannu problem yw’r cam cyntaf tuag at wellhad. Os bydd eich cyflwr meddyliol neu emosiynol yn gwaethygu’n gyflym, neu os ydych chi’n poeni am rywun chi’n ei adnabod - cofiwch fod help ar gael. Rydym yn edrych ymlaen at barhau a’r drafodaeth.

This article is in English on the FUW website - News - Y Tir News: “Depression and suicide - the leading causes of death in UK farming communities.”