Wythnos Arbennig

gan Glyn Roberts, Llywydd FUW

Mae’r Eisteddfod yn un o ddigwyddiadau pwysig y calendr Cymreig, ac mae’n braf cael y cyfle yn yr Eisteddfod bob blwyddyn i gyfarfod aelodau, staff lleol a’r rheiny nad ydynt yn ymwneud â'r byd amaeth. Cyfle unigryw i ni fel undeb i drafod ag unigolion a sefydliadau eraill am sefyllfa y byd amaeth, a phwysigrwydd y diwydiant i ddiwylliant Cymru, i’r Gymraeg ac ir economi Gymreig. 

Trafod dyfodol ein cymunedau gwledig

gan Alun Edwards, Cynrychiolydd Meirionnydd ar bwyllgorau Addysg ag Hyfforddiant a Tir Uchel a Thir Ymylol UAC

Fuodd ‘na rioed amser pwysicach i’r sector amaeth gynghreirio’n strategol, ac edrych allan wrth ateb ei beirniaid a dweud ei stori. Felly ro’n i’n barod iawn i dderbyn gwahoddiad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i banel trafod ar ddyfodol ein cymunedau gwledig yn ‘steddfod Llanrwst. 

Yn ymuno a mi ar y panel roedd Llywydd UAC, Glyn Roberts, a Non Gwenllian Williams, sy’n astudio polisi amaeth ar gyfer Ph.D. ym mhrifysgol Bangor, ac yn flaenllaw gyda’r Ffermwyr Ifanc ym Môn. Cadeiriwyd y trafod gan gyn milfeddyg y Wladwriaeth, a’r ymgyrchydd gwrth-niwcliar blaenllaw, Robat Idris, yn rhinwedd ei swydd fel is-gadeirydd grŵp cymunedau gwledig y Gymdeithas.

Cyflwyno Heusor o Gwm Eidda

Glyn Roberts. Glyn Dylasau. Glyn Llywydd FUW. A bellach Heusor o Gwm Eidda. Roedd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni yn un i’w chofio i’n Llywydd wrth iddo gael ei urddo i’r wisg las yng Ngorsedd yr Eisteddfod. Dyma anrhydedd i’r rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i’w bro neu i’r genedl. Wedi prysurwch wythnos yr Eisteddfod cafodd Cornel Clecs gyfle i holi Glyn am ei brofiad gyda’r Orsedd:

Beth yw eich enw barddol?

Fy ymateb cyntaf oedd ei gadw’n syml a defnyddio Glyn Dylasau, ond gan i mi deimlo fod hwn yn un o’r anrhydeddau mwyaf i Gymro Cymraeg, rhaid oedd meddwl am rywbeth hefo mwy o ddychymyg. Rhaid sylweddoli pan fyddwch yn cyd weithio gyda phobl eu bod yn cael dylanwad arnoch, a beth oedd yn adleisio yn y pen oedd yr hyn mae Nick bob amser yn ei ddweud fod rhaid i bopeth fod yn gyfraneddol (proportional). Ar un adeg meddyliais ddefnyddio fy enw llawn yn Gymraeg sef William Glyn Roberts a mabwysiadu Gwilym Glyn ap Sion, cefais y William ar ôl fy nhaid ac erbyn heddiw mae un o’m hwyrion yn Gwilym a byddai Gwilym Glyn ap Sion wedi cynnwys pedair cenhedlaeth, ond roeddwn yn chwilio am enw sy’n cyfleu’r pwysigrwydd o gadw’r winllan yn bur yn hytrach nag enw mwy personol, ac ar ôl cryn grafu pen, o’r diwedd cafwyd enw a hynny ar ôl cael yr ail gais gan awdurdodau’r Eisteddfod am enw!

Croesawu Siriol

gan Siriol Parry, Cynorthwy-ydd Gweinyddol newydd UAC

Rwy’n enedigol o Edern, Pen Llŷn lle mae fy nheulu yn rhedeg cwmni peirianneg sifil, G T Williams Ltd. Mae gennyf gefndir amaethyddol gyda sawl cenhedlaeth o fy nheulu wedi bod yn aelod o UAC, roedd fy hen dad-cu, Ceiri Hughes-Parry o Benllwyn, Pwllheli yn Gadeirydd Sir Cangen UAC Sir Gaernarfon yn ystod 1964.

Ar ôl astudio fy Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli, mi wnes i astudio am dair blynedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a derbyn gradd dosbarth cyntaf mewn Busnes a Rheolaeth gyda Chyllid yn Haf 2019.

Rwyf newydd symud i ardal Tregaron gyda fy mhartner sydd wedi dechrau busnes ‘ffermio cyfran’ ar fferm dros 250 o wartheg godro.

Gan fod gen i ddiddordeb yn y maes amaeth ac wedi cael y profiad o weithio yn y maes gweinyddol, rwyf yn edrych ymlaen at ddechrau fy ngyrfa fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol yn y Brif Swyddfa ac i weithio gyda’r tîm yma yn UAC.