Bach o grafu pen nawr…!

Reit, cwis bach i chi mis yma…bach o sbort a gwers hanes yn y fargen! 

Pwy sy’n gwybod beth yw’r arwyddion yma?

Yn ei golofn mis diwethaf, cyfeiriodd ein rheolwr gyfarwyddwr, Alan Davies at y shiffto rownd yma yn Aberystwyth, ac wrth chwilio cartref newydd i ddesg Cornel Clecs, daethpwyd o hyd i’r uchod, a neb yn siŵr iawn beth oedd eu pwrpas!  Ond diolch byth am y cyd-gyfarwyddwr Rheoli FUWIS, Roger Van Praet sydd wedi gallu rhoi bach o wybodaeth i ni amdanynt. 

Ar ôl dinistr Tân Mawr Llundain ym 1666, nid oedd yswiriant tân yn bodoli ac roedd pobl yng nghanol Llundain wedi colli popeth.  Yn syth ar ôl y tân, dechreuodd y gwaith ailadeiladu. Un dyn oedd ynghlwm a’r gwaith oedd Nicholas Barbon. Ym 1667 sefydlodd gymdeithas gydfuddiannol o'r enw ‘The Fire Office’ a oedd yn cynnig yswiriant tân am y tro cyntaf erioed.

I ddangos bod gan adeilad yswiriant, roedd angen gosod arwydd yswiriant tân, a oedd yn ddigon clir i’w weld o’r stryd.  Roedd gan bob cwmni ei ddyluniad unigryw a brigâd dân ei hun ac felly byddai ymladdwyr tân y cwmni hynny yn medru adnabod pa yswiriant fyddai gan bob adeilad. 

Y tri arwydd yma yw ‘Sun Fire Office' a sefydlwyd ym 1710 a elwid yn gwmni yswiriant ‘Royal Sun Alliance’ (RSA) yn y pen draw” dywedodd Roger. “O ddiddordeb mwy lleol cyhoeddwyd arwydd tân Sir Amwythig a Gogledd Cymru gan gwmni ‘Shropshire and North Wales Assurance’ yn 1836.

Yr un olaf yw arwydd tân ‘Northern Assurance Company’ a sefydlwyd yn Aberdeen fel Cwmni Tân a Sicrwydd Bywyd Gogledd yr Alban ym 1836 ond yn y pen draw daeth yn rhan o ‘Commercial Union’ sydd bellach yn Aviva.

Pwy feddyliai y byddem ni heddiw yn parhau i siarad a dysgu am arwyddion tân a ddefnyddiwyd gyntaf nifer fawr o flynyddoedd yn ôl.  Pan ddaw’r llu o bapurau trwy’r post adeg yr adnewyddu nesaf, meddyliwch pa mor lwcus ydych chi nad ydych yn gorfod chwilio lle addas i arwydd tân trwm!!