Cyflwyno Heusor o Gwm Eidda

Glyn Roberts. Glyn Dylasau. Glyn Llywydd FUW. A bellach Heusor o Gwm Eidda. Roedd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni yn un i’w chofio i’n Llywydd wrth iddo gael ei urddo i’r wisg las yng Ngorsedd yr Eisteddfod. Dyma anrhydedd i’r rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i’w bro neu i’r genedl. Wedi prysurwch wythnos yr Eisteddfod cafodd Cornel Clecs gyfle i holi Glyn am ei brofiad gyda’r Orsedd:

Beth yw eich enw barddol?

Fy ymateb cyntaf oedd ei gadw’n syml a defnyddio Glyn Dylasau, ond gan i mi deimlo fod hwn yn un o’r anrhydeddau mwyaf i Gymro Cymraeg, rhaid oedd meddwl am rywbeth hefo mwy o ddychymyg. Rhaid sylweddoli pan fyddwch yn cyd weithio gyda phobl eu bod yn cael dylanwad arnoch, a beth oedd yn adleisio yn y pen oedd yr hyn mae Nick bob amser yn ei ddweud fod rhaid i bopeth fod yn gyfraneddol (proportional). Ar un adeg meddyliais ddefnyddio fy enw llawn yn Gymraeg sef William Glyn Roberts a mabwysiadu Gwilym Glyn ap Sion, cefais y William ar ôl fy nhaid ac erbyn heddiw mae un o’m hwyrion yn Gwilym a byddai Gwilym Glyn ap Sion wedi cynnwys pedair cenhedlaeth, ond roeddwn yn chwilio am enw sy’n cyfleu’r pwysigrwydd o gadw’r winllan yn bur yn hytrach nag enw mwy personol, ac ar ôl cryn grafu pen, o’r diwedd cafwyd enw a hynny ar ôl cael yr ail gais gan awdurdodau’r Eisteddfod am enw!

Fy enw yn yr orsedd yw ‘Heusor o Gwm Eidda’ - ei ystyr yw ceidwad anifeiliaid megis defaid, gwartheg, moch, nid yn unig yr ochor hwsmonaeth ond yr elfen gwylio, gwarchod, amddiffyn ac arwain.

Disgrifiwch sut brofiad yw cael eich urddo i’r Orsedd?

Roedd y profiad o gael fy urddo ar y diwrnod yn deimlad anodd ei ddisgrifio, roedd y ffin rhwng chwerthin a chrio yn fain iawn, ar brydiau roedd y llygaid yn dyfrio. Cefais fy  nghyffro yn y seremoni o weld Beca a Mirain yn cario baner yr orsedd ar ran CFfI Eryri a chofio pwy oedd yn ei chario ar ran CFfI Eryri yn Eisteddfod Caernarfon yn 79, er hyn beth oedd yn mynd drwy’r meddwl oedd a oeddwn i yn haeddu’r fath anrhydedd, a theimlo fy mod yn nabod llawer iawn yng nghefn gwlad Cymru sydd wedi gwneud mwy na fi i gadw’r fflam ynghyn, i gefnogi gweithgareddau cefn gwlad, a hynny yn ddistaw yn y cefndir heb unrhyw anrhydedd nac elw personol.

Hefyd y ddyled sydd gennyf i bobl eraill yn fy ardal (yn deulu ac yn ffrindiau) ac yn ehangach, y rhai sydd wedi dylanwadu arnaf a’m gwneud yr hyn ydwyf, dyma’r graig y naddwyd i ohoni, ‘mae marc y cwm fel nod ar ddafad arnaf’ (y Ffynhonnau Rhydwen Williams), rhai nad ydynt mwyach gyda ni, ond y byddent wrth eu bodd, a rhai eraill wedi gwneud ymdrech lew i fod yn bresennol yn y digwyddiad er eu bod mewn oedran teg. Rydych fel Undeb wedi clywed i’n dweud aml i dro mai ein gwir olud ni yng nghefn gwlad Cymru yw ein cynhysgaeth a harddwch ein hardal, ac mae’r hyn a deimlais wrth gael fy urddo yn cadarnhau hynny.

Am beth fyddwch chi’n cofio Eisteddfod Llanrwst 2019?

Fel y soniais yn gynt am y teimladau emosiynol, digwyddodd hyn eto pan gyhoeddwyd canlyniad cystadleuaeth y Gadair a gweld Jim Parc Nest yn cerdded mor urddasol i’r llwyfan fel hen frenin. Roeddwn mor falch drosto oherwydd cefais y fraint a’r anrhydedd yn Eisteddfod Y Fenni i gael ei gwmni un gyda’r nos i drin a thrafod barddoniaeth Waldo, TH Parry Williams a Gwenallt dros beint neu ddau. Mi adawodd ei gwmni ef a’i wraig argraff ddofn iawn arnaf ac mae’n un o’r profiadau yr wyf ac y byddaf yn ei drysori. Ac i goroni’r cyfan mor falch fod cadair ysblennydd a gynlluniwyd a’i saernïo gan Gwenan Ty’n Rhos a’i chyflwyno gan UAC Sir Ddinbych a Sir Gaernarfon yn cael cartref mor haeddiannol.

Un peth arall a gofiaf am eisteddfod Llanrwst yw’r ethos oedd yno o chwalu ffiniau, y Cymry Cymraeg a’r di Gymraeg, lliw’r croen ddim yn bwysig, y plant, pobl ieuanc, y canol oed a’r henoed. Yn rhyfedd iawn un o’r cystadlaethau cyn y Cadeirio oedd y Parti Alawon Gwerin gyda Hogia’r Berfeddwlad yn ei hennill, a Catherine Watkin (mam Gwynedd) yr adweinyddes ar y llwyfan yn derbyn y wobr a hithau yn 89 a Jim Parc Nest yn 85.

Os cefais i’r wisg las, profiad gwefreiddiol oedd gweld Erfyl Jones yn derbyn y Rhuban Glas, ac er mai yn Rhiwgam Aberhosan y mae’n byw, ym Mhlas Ucha Ysbyty Ifan y mae ei wreiddiau, yn un o ddeg o blant a dau o’r brodyr wedi ennill y Rhuban Glas, brawd arall iddynt yw Hywel sef gŵr Ela meistres y gwisgoedd yn yr Eisteddfod, braint oedd bod yn gymydog iddynt yng nghwm Gylchedd flynyddoedd yn ol.

Ar nodyn ysgafnach eli i’r galon oedd gweld Gwynedd Bryn Bras ar gymeriad unigryw Dafydd P yn perfformio eu sgets (y ddau faharen) yn y tŷ gwerin.

Roedd Eisteddfod Sir Conwy i mi yn brofiad bythgofiadwy, rhywbeth y byddaf yn ei gofio am weddill fy mywyd.

Diolch Glyn am rannu eich profiadau gyda Cornel Clecs, a chroeso mawr i Heusor o Gwm Eidda i’n plith...enw sy’n gweddu’n berffaith.