Pastai ffowlyn a ham Mam-gu

Rysait mis Hydref

gan Meinir Edwards allan o lyfr ryseitiau Curo'r Coronona'n Coginio

 

Cynhwysion y crwst

450g / 1 pwys blawd plaen

200g / 8 owns menyn

2 ŵy wedi’u curo

hanner llwy de halen

 

Dull y crwst

1) Cymysgwch y blawd, yr halen a’r menyn mewn powlen i greu briwsion

2) Ychwanegwch yr wyau a chymysgwch y cyfan i wneud toes

3) Gadewch y toes i orffwys am awr cyn ei rolio

 

Cynhwysion y llenwad

12 owns cig cyw iâr wedi’i goginio a’i dorri’n giwbiau

12 owns ham wedi’i frewi a’i dorri’n giwbiau

1 winwnsyn wedi’i sleisio’n denau

4 owns menyn

2 owns blawd plaen

1 peint llaeth

Cwarter peint hufen

2 llwy fwrdd persli wedi’i dorri’n fân

Pupur a halen

1 ŵy wedi’i guro i’w frwsio ar y crwst

Dull y llenwad

1) Toddwch y menyn mewn sosban neu badell ffrio ddofn

Ffriwch y winwns nes eu bod yn feddal ac ychwanegwch y blawd. Coginiwch am funud cyn ychwanegu’r llaeth fesul dipyn er mwyn creu saws gwyn heb lympiau.

3) Ychwanegwch y cig a’r hufen a’u cymysgu’n dda

4) Ychwanegwch y persli, y pupur a’r halen

5) Rholiwch hanner y toes i greu gwaelod 6mm (cwarter modfedd) o drwch i’r bastai. Irwch ddysgl bastai 10 modfedd ag ychydig o fenyn cyn gosod y toes arno

6) Brwsiwch y toes ag wy wedi’i guro a rhowch y llenwad ar ei ben. Rholiwch y toes sy’n weddill a gorchuddio’r bastai â hwnnw

7) Brwsiwch ragor o ŵy ar y top cyn ei goginio ar dymheredd o 200°C/400°F/nwy 6 am 30-35 munud

8) Mwynhewch!

 

Anrhydedd fawr yr athro, amaethwr ac arweinydd o Gwm Senni, Glyn Powell

Gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Braint ac anrhydedd yw cael rhannu ychydig o newyddion da, a hynny am un o hoelion wyth Undeb Amaethwyr Cymru. Er bod Eisteddfod Ceredigion wedi cael ei gohirio am flwyddyn oherwydd coronofeirws, cyhoeddodd Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ddiweddar ei bod nhw am anrhydeddu Glyn Powell, Pontsenni, un o aelodau oes yr Undeb gyda’r Wisg Las yn ystod Eisteddfod Ceredigion 2021 yn Nhregaron.

Yn draddodiadol, mae’r Wisg Las yn cael ei chyflwyno i’r rhai sydd yn amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro/neu genedl, ac heb os nac oni bai, mae Glyn yn llwyr haeddiannol o’r anrhydedd yma. Ond sut mae mynd ati i ddisgrifio cyfraniad oes Glyn mewn ychydig eiriau? Ysgolhaig, awdur, athro, amaethwr, arweinydd a chofnodwr hanes ei bobl - mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd, a hynny wrth gwrs heb sôn am ei gyfraniad amhrisiadwy a ffyddlon i Undeb Amaethwyr Cymru. 

Edrych nôl er mwyn symud ymlaen

Cornel Clecs, gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Gyda sôn ymhob man yn ddiweddar am y ‘normal’ newydd, weithiau mae’n rhaid camu nôl ychydig i werthfawrogi’r gorffennol, er mwyn gallu symud ymlaen. Rydym ynghanol cyfnod arloesol a chyffrous iawn yn hanes yr Undeb wrth i ni barhau a’r drefn arferol o weithio, ychydig yn wahanol, a hynny diolch i’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf. 

Tynnu sylw at y rôl hanfodol mae’n rhaid i ffermio ei chwarae wrth helpu i daclo newid yn yr hinsawdd

Fel ffermwyr, mae popeth a wnawn ni a phopeth sy’n dylanwadu arnom yn cylchdroi o gwmpas y tywydd, sydd wrth gwrs yn ddibynnol ar y tymhorau a’r hinsawdd; p’un ai allwn ni gasglu digon o borthiant yn yr haf i fwydo’n hanifeiliaid dros y gaeaf; am ba mor hir y mae angen bwydo’r porthiant hwnnw i’r anifeiliaid; pa glefydau sy’n effeithio ar ein hanifeiliaid a’n cnydau, a rhestr hir o heriau eraill sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r tywydd, y tymhorau a’r hinsawdd.

Pwysleisiwyd pwyntiau o’r fath yn glir pan wnaethom gyfarfod â Hyrwyddwr Gweithredu Hinsawdd Lefel Uchel y DU, Nigel Topping, mewn cyfarfod bwrdd crwn ar y cyd ddiwedd mis Gorffennaf a drefnwyd gan UAC ac NFU Cymru i drafod newid yn yr hinsawdd a’r ymgyrch  “Tuag at Ddyfodol Di-garbon”, sy’n ymgyrch ryngwladol ar gyfer adferiad di-garbon iach a  gwydn.

Parhad gwahanol i’r ‘sioe’

Cornel Clecs, gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

I nifer fawr ohonoch fel ninnau, mae haf 2020 yn dipyn gwahanol i’r arfer – yn dawelach.  Erbyn hyn mi fyddai’r tri ohonom yma wedi bod yn arddangos mewn oleiaf tair sioe leol, a’r calendr yn go lawn o sioeau arall yn ymestyn dros yr haf.  Ond nid felly eleni, wrth i ni gyd wynebu ‘normal’ newydd a hynny heb rai o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol y calendr amaethyddol yng Nghymru.

Ond mae’r diwydiant amaethyddol wedi profi’i hunan mor addasol ag erioed.  Rhwydd iawn byddai dweud ‘fyddwn nôl flwyddyn nesaf’, ond yn hytrach, mae nifer o ddigwyddiadau wedi dewis peidio ildio’n llwyr i Covid-19, ac wedi chwilio am ffyrdd arall o weithredu, a hynny’n ddigidol.  Ond er bod hyn yn torri tir newydd, ac yn ysgafnhau ychydig ar y sefyllfa anghyffredin bresennol, a’i dyma ddyfodol ein sioeau’n llwyr?