Lle i’r enaid gael llonydd

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Mis gwahanol, ond yr un yw’r sefyllfa.  Mae gafael Coronafirws yn parhau’n dynn ar y byd a ninnau’n cyfarwyddo’n araf bach gyda’r ‘normal’ newydd.  Nid oeddwn eisiau’ch diflasu gyda sôn am y firws eto mis yma, gan mae hwnnw’n unig sy’n dominyddu’r byd ar hyn o bryd, ond sylweddolais nad oes dim byd arall yn digwydd, dim clecs i’w clywed.

Mae’n rhwydd iawn i bawb gwyno am y sefyllfa ryfedd yma, ond beth am edrych ar bethau o ongl arall am eiliad a chwilio am y positif.  Roedd hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ddiweddar, ac mae’n fwy pwysig a phwrpasol nag erioed i sicrhau bod pawb yn iawn a bod neb yn dioddef yn dawel.

Yn sgil y pandemig byd eang yma, rwyf wedi dysgu rhywbeth pwysig am fy hunan.  Does dim angen rwtîn fel y cyfryw.  Roeddwn mor gyfarwydd â thasgau dyddiol bywyd yn digwydd yn eu trefn naturiol.  Codi, mynd i gwrdd â’r bws ysgol, mynd i’r gwaith, dod adre, swper a gwely.  Ynghanol y prysurdeb roedd hi’n anodd iawn dod allan o’r rwtîn yna.  Ond wrth i’r ysgolion gau, lluniais ryw fath o amserlen, fel bod modd i ni ddilyn rhyw fath o strwythur adre.  Ond buan iawn y sylweddolais nid oedd angen hyn, ac yn amhosib i’w gadw yn byw ar fferm!  Nid oedd yr wyna’n mynd i gydymffurfio gyda’n hamserlen ni!  Mae bywyd wedi arafu a natur wedi cael amser i anadlu, ninnau hefyd – wrth aros adre - lle i’r enaid gael llonydd!

Gyda’r posibilrwydd go iawn, na fydd ein hysgolion yn dychwelyd i normal yn y dyfodol agos, nid wyf yn poeni rhyw lawer bod Ladi Fach Tŷ Ni wedi colli misoedd o addysg.  I’r gwrthwyneb i ddweud y gwir.  Ers bod adref, mae hi wedi cael profiadau na fyddai wedi bod yn bosib wrth fynd i’r ysgol.  Dysgu tynnu ŵyn - gwers bywyd.  Sut i fesur dos a thocio defaid - gwers Mathemateg.  Dysgu’r grefft o ffensio gyda’i thad - gwers Dylunio a Thechnoleg.  Coginio prydau bwyd a sicrhau bod fy mhen-blwydd lockdown i yn arbennig trwy goginio ac addurno cacen - gwers Arlwyo. Ac wrth gwrs, digonedd o wersi ymarfer corff a chadw’n heini yn yr awyr iach! Ond y wers bwysicaf yw treulio amser gwerthfawr fel teulu.  Wrth iddi agosáu at yr arddegau, mi fydd hi, wrth reswm, eisiau treulio llai o amser gyda ni, a ni chawn yr amser hwn eto.  Mae hi, a ninnau wedi cael amser eleni i weld y tymor yn newid, y dail yn ymddangos ar y coed, y gwcw’n canu, a’r blodau gwyllt yn llenwi’n cloddiau, efallai nad oedd amser cynt i sylwi ar y manylion bach lleiaf.

Nid oes neb yn gwybod faint mwy o’r sefyllfa ryfedd hyn sydd i ddod, na sut bydd bywyd yn edrych ar y pen draw.  Ond rwy’n hyderus o un peth, mae Ladi Fach Tŷ Ni wedi elwa o’r holl brofiadau sydd wedi dod ger ei bron hi, a gobeithio yn sylfaen gadarn i’w sgiliau yn y dyfodol.   Tan tro nesaf, cadwch yn ddiogel bawb!