Y chwiban olaf

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

Ar ddechrau blwyddyn newydd, nid wyf yn mynd i’ch cyfarch gyda’r Blwyddyn Newydd Dda traddodiadol, ond yn hytrach rwyf am ddymuno Blwyddyn Newydd Well i chi, ac ar ôl 2020, mae’r gair gwell yn fwy pwysig nag erioed. Gobeithio bydd 2021 yn llawn iechyd, gobaith, llwyddiant a hapusrwydd i ni gyd.

Rydym wedi bod yn byw yng nghysgod Brexit ers blynyddoedd bellach, ac er yr holl ansicrwydd, mae cylchdro amaethyddiaeth yn gorfod parhau gyda’r tymor wyna ar y gorwel i nifer ohonom. Ond nid yw sialensiau ac ansicrwydd Brexit yn mynd i atal un ffermwr newydd o Sir Gaerfyrddin rhag arallgyfeirio i’r diwydiant amaethyddol.

Rydym mwy cyfarwydd a gweld Nigel Owens ar gae rygbi na chae fferm, ond ar ôl cadarnhau ei fod am ymddeol o’i yrfa fel dyfarnwr proffesiynol, a hynny wedi 100 gêm prawf, mae bellach am gyfnewid yr esgidiau rygbi am y welingtons.

Nigel oedd gŵr gwadd pwyllgor gwaith rhithwir cangen Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr llynedd. Er bod Nigel yn cyfaddef na chafodd ei eni a’i fagu ar fferm, roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn ffermio ers yn fachgen ifanc. Roedd yn treulio pob cyfle posib ar fferm ei dad-cu a’i fam-gu ym Mynydd Cerrig, yn aelod ffyddlon o CFfI Llanarthne, lle bu’n ysgrifennydd a chadeirydd cyn mynd ymlaen i fod yn gyn Llywydd o CFfI Cymru a Llywydd NFYFC yn 2020.

Efallai y bydd yn synod i chi glywed mae nid dyfarnwr oedd Nigel am fod yn wreiddiol.  Ei uchelgais pennaf oedd bod yn ffermwr, a dyna oedd y freuddwyd plentyndod. Ond yn 16 mlwydd oed dechreuodd ei yrfa fel dyfarnwr rygbi a dechrau cynilo arian, yn y gobaith o wireddu ei freuddwyd o allu ffermio fferm ei hun rhyw ddiwrnod.

Gan bwyll bach, cam wrth gam, cafodd y freuddwyd ei wireddu, ac erbyn hyn mae Nigel a’i bartner Barrie wedi sicrhau fferm, peiriannau a stoc. Penderfynwyd cadw gwartheg cynhenid Henffordd sydd bellach yn agos iawn at galon Nigel.

Yr hyn sy’n amlwg o glywed Nigel yn sôn am y fferm yw ei angerdd tuag at amaethyddiaeth. Er nad yw wedi bod yn ffermio’n llawn amser, mae wastad yn brynwr brwd o gynnyrch Cymreig ac yn credu’n gryf mae’r diwydiant amaethyddol yw asgwrn cefn Cymru wledig. 

Mae’n gweld sut mae’r gymuned ffermio’n cyfrannu’n enfawr at ein diwylliant a’n economi a bod ganddo ddyled fawr i’w gymuned leol am yr holl gymorth a’r gefnogaeth y mae wedi derbyn wrth fentro i fyd ffermio.

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd David Waters, swyddog gweithredol Sir Gaerfyrddin: “Croesawyd Nigel Owens MBE yma i’n plith heno i’n pwyllgor gwaith, a chawsom fewnwelediad i’w fywyd personol, ei yrfa fel dyfarnwr, a’r ffordd y mae wedi arallgyfeirio i’r byd amaethyddol.  Roedd yn noson ddiddorol iawn a phawb wrth ei bodd yn clywed hanes Nigel.”

Pob lwc Nigel gyda’r fenter newydd oddi ar y cae rygbi, mae’ch dyfodol amaethyddol yn edrych yn ddisglair iawn! Mae’n braf iawn gweld cymaint o frwdfrydedd a phositifrwydd ar ddechrau blwyddyn newydd sbon.