gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Y mis diwethaf rydym wedi gweld llawer o benawdau newyddion a datblygiadau gwleidyddol sydd yn ddigon i lenwi calon y person mwyaf optimistaidd ac ofn. O brinder gweithwyr a thanwydd i ddiwydiant moch y DU mewn argyfwng, mae mis Hydref wedi bod yn gyffrous o safbwynt gwleidyddol. Er bod ein tîm polisi llywyddol wedi bod ar y rheng flaen yn delio â'r materion hyn, gwnaethom hefyd barhau yn ein gwaith o godi ymwybyddiaeth a lobïo ar newid hinsawdd, plannu coed a masnachu carbon.
Fel rhan o'n gwaith ar fasnachu carbon, gwnaethom rybuddio bod carbon sy'n cael ei ddal trwy blannu coed yn peryglu ymuno â rhestr hir o adnoddau naturiol Cymru y gellid eu gwerthu i gwmnïau ac unigolion allanol sy'n ceisio gwneud elw. Codwyd y materion hyn gyda gwleidyddion ledled Cymru, yn ogystal â'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James a Lee Waters.
Er bod cyfleoedd i ffermwyr yn y farchnad newydd hon, nid oes angen i Gymru ond edrych ar effeithiau coedwigo yn y gorffennol i weld y potensial ar gyfer dinistr economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o ganlyniad i blannu coed yn amhriodol.