gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
A dyma ni! Wedi cyrraedd Cornel Clecs diwethaf 2022! Lle aeth y flwyddyn dywedwch?! Ar ddiwedd blwyddyn ddigon heriol arall mae’n braf gallu dod a’r flwyddyn i ben ar nodyn calonogol a phositif. Ynghanol yr holl helbul sy’n digwydd ar hyn o bryd, yn wleidyddol ac economaidd, dewch i ni gael ystyried y pethau pwysig sy’n cael eu hanghofio weithiau, sef caredigrwydd pobl, a’r rhai hynny sy’n meddwl am eraill.
Mae’n siŵr bod y mwyafrif ohonoch yn cofio Mr Emyr O Roberts a fu’n gweithio fel swyddog rhanbarthol UAC yn Ne Ddwyrain Sir Ddinbych o 1990 hyd nes 2003. Ond nid dyna gychwyn ei gysylltiad gyda’r Undeb. Bu ei diweddar dad yn aelod brwdfrydig am flynyddoedd maith, ac Emyr hefyd yn aelod ffyddlon o gangen Sir Ddinbych a Fflint. Yn ddiddorol iawn, mae’n cofio eilio cynnig gan Mr Tom Jones Cwm Nant yr Eira ynglŷn â dyfodol y fferm deuluol mewn cyfarfod blynyddol rywbryd o bosibl ar ddiwedd y chwedegau, rhywbeth sydd wrth gwrs mor berthnasol i ni heddiw.