gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Bu’r mis diwethaf yn un prysur i dîm UAC - ymhlith y nifer o gyfarfodydd rhanddeiliaid a gweithgareddau o ddydd i ddydd, fe wnaethant hefyd drefnu i ni gael presenoldeb gwych yn Sioe Frenhinol Cymru rithwir.
Fe wnaethom gynnal amrywiaeth o weminarau yn ymdrin â phynciau megis tai gwledig, newid yn yr hinsawdd, iechyd meddwl, cysylltedd digidol a diogelwch fferm - pob un ohonynt yn cyffwrdd â materion hanfodol pwysig i'n diwydiant, ac os nad oeddech yn gallu ymuno â nhw yn ystod wythnos y sioe, maent hefyd ar gael i chi eu gwylio yn adran aelodau gwefan UAC neu ar wefan y sioe. Darllenwch fwy am y gweminarau ar dudalennau 12 a 13.
Fel rhan o'n gwaith ymgysylltu gwleidyddol, sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i gyfyngiadau arferol wythnos y sioe, siaradais yn ddiweddar yng nghyfarfod cyntaf Pwyllgor newydd Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd.
Roedd yn gyfle gwych i dynnu sylw, er bod graddfa a nifer yr heriau sy'n wynebu Cymru yn aruthrol - yn anad dim o ran yr amgylchedd - y dylai pobl Cymru fod wrth wraidd gwaith y Senedd: Y bobl sy'n cynnal ein heconomïau a chymunedau. Y bobl a etholodd ein Haelodau o'r Senedd ac sy'n gwneud Cymru'r hyn ydyw.