"Rydym yn ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu ar gyfer y ffermydd teuluol sydd wrth wraidd ein cymunedau"

gan Glyn Roberts, Llywydd UAC

Yr adeg hon y llynedd, mi rybuddiais i’n haelodau sut y byddai cyflwyno rhwystrau nad ydynt yn dariffau ar nwyddau’n mynd i mewn i’r UE yn cael effaith ddifrifol ar allu’r DU i gynnal yr un lefel o allforion.

Mae ffigurau diweddaraf CThEM ar gyfer 2021 yn cadarnhau gostyngiadau o tua 25% a 30% yn y categorïau allforio y mae cig coch a chynnyrch llaeth yn perthyn iddyn nhw – rhywbeth na fydd yn peri unrhyw syndod i’r sawl sydd wedi dilyn y newyddion am y gwiriadau a’r oedi yn y porthladdoedd.

Roedd hyn oll i’w ddisgwyl, ond diolch bych, mae’r prisiau ar gyfer ein prif nwyddau amaethyddol wedi aros yn uchel – ond, yn groes i rai honiadau, nid rhywbeth sydd wedi digwydd yn sgil Brexit yw hyn, am fod yr un tueddiadau wedi’u hadlewyrchu ar draws y rhan fwyaf o’r byd, gan gynnwys yn yr UE.

Serch hynny, mae effeithiau’r prinder llafur yn y diwydiant prosesu bwyd wedi’u teimlo’n arw, a does ond angen inni edrych ar yr effeithiau catastroffig ar y sector moch i weld y peryglon sy’n rhaid inni eu gwrthsefyll eleni os ydyn ni am osgoi problemau tebyg mewn sectorau eraill – ac yn bennaf, y diwydiant cig coch.

Mae difaterwch  a sylwadau sarhaus y Prif Weinidog pan gafodd ei gyfweld am drafferthion ffermwyr moch yn codi braw difrifol, yn enwedig pan ystyrir yr agwedd wamal gyffelyb tuag ein sector cynhyrchu bwyd, a ddaeth i’r amlwg yn sgil y cytundebau masnach rhyddfrydig a gytunwyd mewn egwyddor ag Awstralia a Seland newydd, a’r rhai sy’n debygol o gael eu cytuno â Chanada a gwledydd eraill sy’n allforio bwyd ar raddfa fawr eleni.

Gyda’r Senedd yn San Steffan yn debygol o bleidleisio ar gytundebau o’r fath yn y Flwyddyn Newydd, ni ddylai ffermwyr Cymru a’r DU adael i’r prisiau anarferol o uchel a gafwyd yn 2021 eu suo i ymdeimlad ffug o ddiogelwch.  Mae unrhyw un sy’n honni y gallant warantu prisiau o’r fath yn y dyfodol rhagweladwy yn rhaffu celwyddau, a bydd ein cystadleuwyr yn manteisio ar unrhyw gytundebau sy’n agor y drws ymhellach i gynnyrch sydd ddim yn cwrdd â’n safonau ni, pryd bynnag y bydd marchnadoedd byd-eang yn gwneud hynny’n ymarferol – boed hynny ymhen blwyddyn neu ymhen deng mlynedd.

Os bydd Aelodau Seneddol yn methu ag atal cytundebau masnach o’r fath rhag dod yn gyfraith, a bod marchnadoedd byd-eang yn newid mewn ffordd sy’n boddi’n marchnadoedd â chynnyrch rhatach, bydd ein dibyniaeth fel ffermwyr ar y rhwyd diogelwch incwm a ddarperir drwy Gymorth Uniongyrchol yn cynyddu, o’r oddeutu 80% presennol.

Mae ffermwyr yn Lloegr a’u harweinwyr yn deffro o’r diwedd i ôl-effeithiau cael gwared â’r cymorth hwn,  gyda thaliadau BPS eisoes wedi’u cwtogi 10% ar gyfartaledd yn 2021, gyda chwtogi pellach, hyd at dros 50% erbyn 2024 – gan arwain at rybuddion y bydd o leiaf hanner ffermydd Lloegr yn wynebu methiant ariannol catastroffig. 

Mae penderfyniad calonogol Llywodraeth Cymru i adolygu ei hamserlen a chymryd mwy o amser i ddylunio, modelu, a throsglwyddo i gynllun newydd, ynghyd â rhoi mwy o bwyslais ar ffermydd gweithredol a ffermydd teuluol, yn dod o ganlyniad i lobïo sylweddol gan UAC, ond rhaid aros i weld a ydy Llywodraeth Cymru’n bwriadu dilyn yr un trywydd â Lloegr, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, yn y pen draw.

Mae cyhoeddi Bil Amaethyddiaeth drafft ar gyfer Cymru yn 2022 yn debygol o ddatgelu p’un ai yw’r newid agwedd yn cael ei adlewyrchu go iawn o fewn fframwaith polisi a fydd yn osgoi peryglon yr hyn sy’n digwydd eisoes i’n cydweithwyr yn Lloegr, tra’n bodloni amcanion Deddf Llesiant Cymru mewn perthynas â llewyrch, cydraddoldeb a diwylliant.

Mae’r cytundeb cydweithio a arwyddwyd yn ddiweddar rhwng Llafur a Phlaid Cymru’n rhoi peth sicrwydd annelwig y bydd yn gwneud hynny, gan ddatgan “ …. bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod a thu hwnt i’r tymor Senedd hwn”.

Fodd bynnag, mae pelydryn o olau o’r fath yn dod yn erbyn cefndir o ansicrwydd ynghylch pa newidiadau, os o gwbl, a wneir i’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (NVZ), yn ogystal â llu o faterion eraill a fydd yn ganolbwynt trafodaethau eleni.

Yn ddiamau, bydd nifer o faterion o’r fath yn adlewyrchu archwaeth parhaus y llywodraeth am fân reolau ar draws pob agwedd ar ffermio bron, serch y rhyddfrydoli a addawyd gan y rhai oedd yn lobïo am Brexit a’r arwyddo cytundebau masnach â gwledydd gyda llai o lawer o reolau a chyfyngiadau.

Efallai mai’r enghraifft fwyaf ffarsaidd o hyn yw bwriad Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i wahardd allforio anifeiliaid byw i’w lladd, tra bod rhai ffynonellau’n honni y bydd yn rhaid parhau i ganiatáu mewnforion byw i’w lladd, oherwydd cyfraith ryngwladol.

Fodd bynnag, y mater sy’n debygol o achosi’r mwyaf o rwystredigaeth i lawer, ac ychwanegu at faich straen a phryder sydd eisoes yn annerbyniol, fydd y newidiadau arfaethedig i’r drefn TB yng Nghymru, ac ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth Cymru i “Wahardd difa moch daear i reoli lledaeniaid TB mewn gwartheg”, er gwaetha’r dystiolaeth lethol o blaid taclo’r clefyd ymhob rhywogaeth y’u canfuwyd ynddi.

Am nad yw TB yn rhan o gytundeb cydweithio Llafur-Plaid, ac am fod angen pasio unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth gan Senedd lle mae Llywodraethu Cymru’n rheoli llai na 50% o’r seddi, mi all fod cyfle y flwyddyn nesaf i drechu cynigion, a sicrhau newidiadau sy’n targedu’r clefyd yn llawer gwell, ond mi fydd hi’n dalcen caled.

Un o’r materion yn y cytundeb cydweithio sydd wedi peri pryder mawr ymhlith y gymuned ffermio yn 2021 – ac a fydd yn parhau i wneud hynny eleni – yw plannu coed. Yn ôl dadansoddiad diweddar gan UAC gwelwyd naid enfawr o 450% mewn coedwigo yng Nghymru yn 2021 o’i gymharu â’r pum mlynedd blaenorol – yn bennaf o ganlyniad i fuddsoddwyr o’r tu allan i Gymru’n prynu tir ffermio.

Mae’r ffaith bod ffermio yn rhan ganolog o’r ateb i’r newid yn yr hinsawdd – nid y broblem – yn neges y byddwn yn parhau i’w phwysleisio, gan gynnwys mewn gweminar ‘Cydbwyso carbon, coed a chymunedau’ yn Ionawr, pan fydd cynrychiolydd o ’50 shades of green’ Seland Newydd yn tynnu sylw at yr effeithiau difrifol mae buddsoddwyr allanol yn y farchnad garbon yn eu cael ar eu cymunedau ffermio.

Yr unig addewid Brexit sydd heb ei thorri yw bod ein gwleidyddion yn fwy democrataidd atebol nag erioed o’r blaen erbyn hyn, ac ni allant bellach guddio tu ôl i esgus yr UE, felly p’un ai yw’n fater o blannu coed, y Bil Amaethyddiaeth, neu gytundebau masnach trychinebus, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cynrychiolwyr etholedig yn cael eu dwyn i gyfrif wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ffermydd teuluol, sydd wrth wraidd ein cymunedau.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i sicrhau bod ein haelodau’n derbyn y gwasanaethau penigamp a ddarperir gan ein staff ar draws Cymru – staff y mae UAC yn parhau i fod yn ddyledus iddynt am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a’u hymroddiad.

Dymunaf Flwyddyn Newydd Dda a lewyrchus i bob un ohonoch.