Sioeau: Rydyn ni’n ôl!

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

Daw eto haul ar fryn yw un o’r ymadroddion eiconig hynny erbyn hyn, ac yn un sydd wedi cynnal sawl un ohonom drwy gyfnod hir y pandemig. OND, mae’r haul hynny bellach wedi dechrau disgleirio ar rai o ddigwyddiadau pwysig ein calendr amaethyddol, ac yn rhoi cyfle i ail gydio yn y cymdeithasu hynny y mae pawb wedi gweld cymaint o’i eisiau. Mae tŷ ni bellach yn ferw gwyllt o gynnwrf y sioeau sydd ar y gweill dros gyfnod yr haf.  

Pa ffordd well i ddechrau’r tymor sioeau na chynnal chwip o sioe yn Nefyn ar ddechrau mis Mai. Heidiodd y torfeydd nôl i gaeau Botacho Wyn am ddiwrnod bendigedig o gystadlu a chymdeithasu. Ond nid ar chwarae bach mae trefnu sioe mor llwyddiannus! Tu ôl i’r llwyddiant mae yna waith trefnu trylwyr yn digwydd, ac mae Eirian Lloyd Hughes, (gweler uchod ar y dde), Gweithredwr Yswiriant Gwasanaethau Yswiriant UAC Cyf yn Nolgellau yn gwybod hynny’n well na neb, gan mae hi yw Ysgrifennydd Cyffredinol Sioe Nefyn.

Ar ôl prysurdeb y sioe, cafodd Cornel Clecs gyfle i longyfarch Eirian a’r tîm am gynnal sioe gofiadwy a’i holi ychydig am ba mor anodd oedd ail-gydio yn y gwaith trefnu ar ôl cyfnod o ddwy flynedd heb sioe oherwydd cyfyngiadau Covid? Beth oedd yr anawsterau mwyaf? 

Dywedodd Eirian: “Mi oedd yn benderfyniad gafodd ei wneud tua diwedd mis Ionawr pan oedd y cyfyngiadau yn ymddangos i fod yn llacio dipyn, ac mi oedd yn dipyn bach o risg ar y pryd gan nad oedd pethau yn glir iawn, ond ‘roedd pawb ohonom yn unfrydol fod angen ail-gydio yn y gwaith. Felly dim ond cwta tri mis a gawsom i wneud popeth yn lle’r chwe mis arferol, ond daeth pethau at ei gilydd yn rhyfeddol o dda yn y diwedd. 

“Mae’r pwyllgor, er yn fach o ran nifer, yn andros o frwdfrydig ac mae gennym wirfoddolwyr sydd yn fwy na bodlon helpu allan ar y maes cyn ac yn ystod y sioe. Yn anffodus, nid oedd yn bosibl cael adran ieir eleni oherwydd y ffliw adar ac roedd colled hebddynt. Mi wnaethom sylwi fod costau popeth wedi cynyddu ers ein sioe ddiwethaf yn 2019 a gan ein bod wedi gwneud colled yn 2020 oherwydd bod y sioe wedi ei threfnu cyn y cyfnod clo cyntaf, mi oedd yn angenrheidiol fod y sioe yma yn talu ei ffordd, a thrwy lwc, mi wnaeth.” 

Ac wedi’r gwaith trefnu a’r gwaith caled ar y diwrnod, beth oedd uchafbwynt Sioe Nefyn 2022 i Eirian? Esbonia Eirian: “Wel, yr uchafbwynt i mi oedd y ffaith ein bod wedi llwyddo i’w chynnal a bod cymaint o bobol wedi ein cefnogi drwy arddangos, cystadlu, dod a’u stondinau masnach draw, mynychu a gobeithio mwynhau cael cyfarfod hen ffrindiau a chymdeithasu eto. Tydw i erioed wedi gorfod agor dau gae parcio ychwanegol o’r blaen!”

Mae’n amlwg o lwyddiant ysgubol Sioe Nefyn bod dyfodol y sioeau bach yn ddiogel a thymor sioeau 2022 yn argoeli’n dda. Ond, yn ôl Eirian, beth yw’r pwysigrwydd o sicrhau bod sioeau bach ledled Cymru’n mynd o nerth i nerth?  

“Mi fuom ni yn ffodus iawn fod y tywydd wedi bod o’n plaid ni a chafwyd diwrnod arbennig. Fel sioe gyntaf y tymor, mae yna gryn edrych ymlaen at Sioe Nefyn bob blwyddyn, ac ‘roedd hon yn arbennig oherwydd nad oedd sioe wedi bod ers cymaint o amser. Mi ydw i wedi bod yn ymwneud a’r sioe ers dros 30 mlynedd, ac wedi gweld oedi o’r blaen amser y clwy traed a’r genau, ac yn anffodus, bu i nifer o sioeau bach ddod i ben yn ystod y cyfnod hwnnw. 

“Mi ydw i yn mawr obeithio y bydd sioeau bach ledled Cymru yn goroesi y tro yma. Mae sioeau bach Cymru yn hanfodol bwysig am sawl rheswm, nid yn unig i amaethwyr gael cyfarfod a chymdeithasu, ond fel ffenest siop i’r diwydiant amaeth gan eu bod yn dangos cynnyrch amaethyddol Cymru ar ei orau. ‘Rydym yn Nefyn yn rhoi pwysigrwydd mawr ar gystadlaethau ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn eu cychwyn ar eu taith yn y byd arddangos gan mai hwy fydd dyfodol ein sioeau. 

“Heb y sioeau bach, fyddai dim Sioe Frenhinol. Mae gwirfoddolwyr ar bob pwyllgor ar hyd y wlad yn gweithio yn dawel a diflino er mwyn sicrhau fod eu sioe yn mynd ymlaen, a gobeithio y bydd pob un yn cael yr un llwyddiant ac a welsom yn Nefyn eleni.”

Diolch i Eirian a’r criw am sicrhau bod tymor y sioeau wedi cychwyn mewn ffordd mor wych, a mawr obeithio y daw’r un llwyddiant i weddill sioeau Cymru. Cofiwch alw draw i’n gweld yn yr amrywiol sioeau dros yr haf, bydd hi’n braf iawn gweld bob un ohonoch.