Hir yw pob aros

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

Treuliais y rhan helaeth o’r flwyddyn 1992 yng nghwmni Digion y Dolffin. Ie, rydych chi wedi darllen yn gywir…Digion y Dolffin! Digion y Dolffin oedd masgot Pasiant y Plant  -“Seth Gwenwyn a’r Gwyrddedigion” Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992 - pasiant yn adrodd hanes criw o bobl ifanc oedd am achub Cantre’r Gwaelod o warchae Seth Gwenwyn! 

Mae’n rhaid cyfaddef mae brith gof sydd gen i o’r cyfnod, ond mi rydw i’n cofio’r holl ymarferion am fisoedd cynt, a’r teimlad o fod yn fach fach ar lwyfan mor fawr i gymryd rhan yng ngolygfa’r Cnapan yn ystod y Pasiant. Erbyn hyn, rwy’n sylweddoli pa mor fythgofiadwy oedd y profiad a’r anrhydedd wrth gwrs o gael cymryd rhan mewn digwyddiad mor arbennig.

Symud ymlaen 30 mlynedd union, ac mae’r Eisteddfod yn dychwelyd i Geredigion, ac o’r diwedd, mae Tregaron, y dre fach â sŵn mawr (dywediad poblogaidd sydd wedi deillio o ŵyl Gerddoriaeth Gymraeg Tregaron - Tregaroc) yn cael y cyfle i groesawu’r Ŵyl i’r fro. Ar ôl siom y ddwy flynedd diwethaf o orfod gohirio, mae’r ardal bellach yn fwy na pharod i groesawu Cymru i grombil Ceredigion!

Yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, bydd Tregaron a’r cyffiniau’n estyn croeso i bawb, ac mae’n siŵr bod yna edrych ymlaen at weld hen gyfeillion o amgylch y Maes a mwynhau’r rhaglenni a’r sesiynau amrywiol sy’n dangos ein diwylliant a’n hiaith ar eu gorau.  

Ond beth sy’n gwneud Tregaron mor arbennig? Mae Tregaron yn swatio wrth odre Mynyddoedd y Cambrian ger tarddiad yr afon Teifi. Yn y 19eg ganrif, roedd yn dref farchnad ffyniannus ac yn arhosfan bwysig i borthmyn ar eu llwybrau trwy Gymru gan yrru gwartheg, ceffylau, moch, gwyddau a defaid i farchnadoedd Lloegr. Rhoddwyd Siarter Frenhinol i farchnad draddodiadol y dref, “Ffair Garon” ym 1292.

Tafliad carreg o Faes yr Eisteddfod mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron sy’n cynnwys dros 170 o rywogaethau o adar - rhai’n lleol ac eraill yn ymwelwyr mudol o ardaloedd pellennig y byd.  

Mae’n bosib iawn eich bod wedi gyrru i neu o Dregaron ar hyd y ffordd fynydd trawiadol sy’n cysylltu Tregaron a Llanwrtyd a hon oedd cam cyntaf llwybr y porthmyn yn wreiddiol. Heddiw mae’n llwybr gyrru a beicio poblogaidd ar draws mynyddoedd y Cambrian, gyda golygfeydd pellgyrhaeddol ar draws Comin Abergwesyn.

Ond mae’n bosib bod Tregaron yn fwyaf adnabyddus am ei chysylltiadau chwedlonol a diwylliannol. Un o feibion Tregaron oedd Twm Siôn Cati, ffigwr mewn llên gwerin Cymraeg a ddisgrifir yn aml fel y Robin Hood Cymreig. Ar un adeg roedd y bryniau a’r dyffrynnoedd o amgylch Tregaron yn gaeau chwarae i Twm, lleidr a phranciwr, yr oedd ei orchestion yn chwedlonol ledled De Cymru. 

Yn ddyn golygus â llawer o wynebau, gallai gyfnewid rhwng gwisg gain gŵr bonheddig a charpiau gwerinwr i weddu i’w weithredoedd direidus. Ar brif sgwâr Tregaron saif cerflun yn coffau ei fab enwocaf ac arddangosir ei ewyllys yn amgueddfa’r dref. Hefyd, mae llwybr tref wedi’i enwi ar ôl ‘Twm’ sy’n mynd â chi i leoliadau sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag ef.

Wrth ddechrau ysgrifennu’r Cornel Clecs yma, gwelaf fod loris yr Eisteddfod yn dechrau cyrraedd Tregaron a dyna gychwyn y cyffro go iawn, mae’r Eisteddfod yn dod! Mi fydd criw UAC yn bresennol yn yr Eisteddfod, felly cofiwch alw draw i’w gweld. Maent yn edrych ymlaen at weld pawb wyneb yn wyneb unwaith eto a chael cyfle i gymdeithasu dros baned - beth well?! 

Mae pawb wedi sylweddoli bellach mae’r pethau bach mewn bywyd sy’n cyfrif. Welwn ni chi yn Nhregaron!

Diolch i Dafydd Wyn Morgan, un o drigolion Tregaron, am y llun