Caron Dynamite - cofiwch yr enw!

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

Wrth ysgrifennu Cornel Clecs mis yma, mae’n bwysig nodi’r dyddiad, sef dydd Mercher 22 o Fedi 2021 - sydd wrth gwrs yn nodi dechrau tymor yr Hydref yn swyddogol - Cyhydnos yr Hydref. Mae’n dymor pwysig iawn yn y calendr ffermio hefyd - yr adeg bydd ffermwyr ar draws y wlad yn dechrau paratoi tuag at y gwanwyn, ac yn meddwl am y tymor hyrdda. 

Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r arwerthiannau wyn benyw, defaid magu a hyrddod ers sawl wythnos bellach, gydag arwerthiannau dyddiol yn digwydd ymhob cornel o’r wlad ac ymhellach.

Ar y cyfan mae’r prisiau wedi bod yn garedig iawn i’r gwerthwyr (nid cymaint i brynwyr!) drwy’r haf, ac nid yw’r arwerthiannau defaid yn wahanol. Cafodd un teulu o Geredigion sy’n aelodau o’r Undeb, ddiwrnod bythgofiadwy yn Arwerthiant Cenedlaethol Defaid Texels ar ddiwedd mis Awst. Gwerthwyd Caron Dynamite, hwrdd blwydd o eiddo teulu Williams o Gilcennin, Ceredigion am bris anhygoel o £32,000 gini a thorrwyd record McCartneys Livestock Auction yng Nghaerwrangon. Dyma Gwilym Williams, perchennog Dynamite i egluro mwy o hanes y gamp:

“Dechreuodd diadell Caron ym 1988 ar ôl prynu defaid yn Llanelwedd,” eglura Gwilym. “Fy Mam a’n Nhad, sef Gerallt ac Eileen Williams, Llys Y Wawr, Penuwch, ger Tregaron, oedd wedi dechrau Caron. Ers prynu’r defaid cyntaf yn Llanelwedd, penderfynodd y teulu gystadlu mewn sioeau amaethyddol lleol yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin. 

“Wrth gael llwyddiant yn y sioeau bach, fe aethon i Sioe Frenhinol Cymru, ac ers hynny, rydym wedi cael llawer o lwyddiant a hwyl ac yn dal i fynychu’r Sioe Fawr. Cefais y fraint o feirniadu’r Defaid Texel Prydeinig yn y Sioe Frenhinol yn 2017.”

Ond a oedd y teulu’n ymwybodol bod Caron Dynamite yn un arbennig o’r dechrau?  Mae Gwilym yn cofio’r diwrnod y cafodd yr oen ei eni: “Roedd ganddo lygaid siarp, coesau cryf a chefn sgwâr. Ac ym mis Chwefror eleni dechreuodd Dynamite ddatblygu cymeriad, pŵer a siâp. Ers hynny roedd Dynamite yn altro o hyd, roedd e yn siapus, cefn llydan ac yn sefyll yn sgwâr ar ei draed. Pleser oedd i’w weld yn sefyll yn y cae, gyda’i ben lan ac yn llond ei groen.”

“Pan gyrhaeddon ni’r farchnad yng Nghaerwrangon, mi ddalodd Dynamite llygaid llawer o fridiwr o Loegr a’r Alban. Fel teulu, penderfynwyd mynd a Dynamite allan i’r sioe cyn y sêl, a chafwyd y fraint o ennill y wobr gyntaf mas o ddosbarth cryf. Ar ôl cael y rosét coch, ni chafodd Dynamite lawer o lonydd gyda llawer o bobol yn dod i’w weld ac yn dangos diddordeb mawr. 

“Ar ddiwrnod y sêl roedd y nerfau’n gwaethygu pob awr. Roedd yna lawer o gyffro o gwmpas y lloc, a dilynodd y cyffro hwnnw ni fewn i’r cylch gwerthu. Aeth Dynamite mewn i’r cylch gwerthu gyda fi a’r ferch, Lowri. Dechreuodd y bid cyntaf ar £10,000, ac roedd yr arian yn codi pob dwy fil. Peth nesa’, roedd Dynamite yn gwerthu am £30,000! Roeddem yn crynu mewn cyffro a methu credu bod rhywbeth fel hyn yn digwydd i deulu bach o Dregaron! Ac yna, roedd yr arwerthwyr yn gweiddi allan y rhif “£32,000 guineas”, roedd y dyrfa’n dawel, gyda sŵn y mwrthwl yn bwrw lawr a’r geiriau “Caron Dynamite, sold for £32,000gns to the Halbeath flock, Aberdeen and Maerdy Flock, North Wales,” Dechreuodd y dyrfa roi cymeradwyaeth i ni fel teulu. Breuddwyd anhygoel.”

Felly beth yw’r dyfodol ar gyfer diadell Caron ar ôl llwyddiant Dynamite? “Mae llwyddiant Caron Dynamite yn mynd i fod yn fythgofiadwy i ni fel teulu,” eglura Gwilym. “Mae gwerthu Dynamite wedi rhoi hyder i ddiadell Caron i gario ymlaen, ac i gynhyrchu mwy o hyrddod i’r safon yma. A gobeithio un diwrnod, gallwn ni cael y fraint yma eto a gwerthu hwrdd am bris da.”

Waw, am stori wych! Diolch yn fawr i’r teulu am eu hamser i’w rhannu hi gyda ni, ac rwy’n siŵr y cytunwch fod pawb bellach yn mynd i gofio enw Caron Dynamite! A thu ôl i lwyddiant Dynamite mae yna stori hyfryd o fenter deuluol gydag aelodau’r teulu’n rhannu’r un balchder a llwyddiant. Dymuna teulu Williams, sef Gwilym, Nerris, Jenna, Lowri a Cennydd, ddiolch i’r teulu a ffrindiau am eu cefnogaeth a bendith trwy’r profiad bendigedig yma. 

Pob hwyl i Caron Dynamite hefyd - cofiwch yr enw, bydd hanes yr hwrdd £32,000 o Geredigion yn cael ei gofio am flynyddoedd lawer i ddod!