Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod lleisiau ein haelodau’n cael eu clywed, yn uchel ac yn glir

gan Glyn Roberts, Llywydd UAC

Mae mis Awst wedi mynd a dod mewn fflach ac mae wedi bod yn fis prysur i ni gyd. Er nad oes ganddyn nhw'r doreth arferol o sioeau lleol i'w mynychu, mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod lleisiau ein haelodau'n cael eu clywed, yn uchel ac yn glir, gan wleidyddion, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r cyhoedd hefyd.

Mae swyddfeydd ac aelodau sirol wedi bod yn cynnal ymweliadau fferm gyda’i gwleidyddion lleol ledled y wlad, gan fynd i'r afael â'r materion hollbwysig y mae ein diwydiant yn eu hwynebu. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrchoedd lobïo a chodi ymwybyddiaeth hynny.

Mae'r sgwrs ynghylch newid yn yr hinsawdd yn cyflymu, heb fawr o syndod gydag Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig a COP26 ar y gorwel. Rydym hefyd wedi darllen adroddiad diweddaraf Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd gydag arswyd, ac mae wedi cadarnhau beth mae ffermwyr ledled Cymru (ac yn wir, y Byd) eisoes yn ei brofi ar reng flaen newid yn yr hinsawdd: digwyddiadau cynyddol o dywydd eithafol fel llifogydd, sychder ac amodau tyfu heriol fel y gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru.

Bydd hyn nid yn unig yn cael effaith ar fusnesau ffermio a ffermydd teuluol, ond ar allu ffermwyr i barhau i fwydo poblogaeth y byd sy'n tyfu a diogelu'r cyflenwad bwyd, gan hefyd leihau'r 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU sy'n dod o amaethyddiaeth.

Mae gan lywodraethau'r DU a Chymru ran allweddol i'w chwarae wrth gefnogi ein ffermwyr yn well er mwyn cyflawni’r amrywiol nodau effeithlonrwydd, bioamrywiaeth a chynaliadwyedd a fydd yn helpu'r wlad i gyflawni Sero-Net. Fodd bynnag, mae pryderon y gallai tir fferm ddod yn dir ar gyfer dadlwytho allyriadau parhaus diwydiannau eraill, trwy wrthbwyso carbon a chynlluniau plannu coed ar dir fferm wrth geisio dod yn Sero-Net fel sy'n ofynnol yn yr adroddiad.

Mae rhan o'r ateb i newid yn yr hinsawdd yn cynnwys ffermydd teuluol ffyniannus, cefnogi cynhyrchu bwyd domestig, nid symud ein heffeithiau amgylcheddol trwy fewnforio bwyd a gynhyrchir dramor i safonau is, cynyddu effeithlonrwydd, cymunedau gwledig llewyrchus a gwella bioamrywiaeth ar ffermydd.  Mae'r rhain i gyd yn rhan o’r ateb i newid yn yr hinsawdd, ac nid ydynt arwahan, er mwyn lleihau allyriadau carbon a rhwystro'r 'pwyntiau tipio' ofnadwy y mae adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd yn cyfeirio atynt.

O ran masnachu carbon, gobeithio bod aelodau wedi gweld ein galwad ddiweddar am drafodaethau ar rinweddau ac anfanteision cyfyngu ar faint o gredydau carbon y gellir eu gwerthu o dir Cymru, cwotâu masnachu carbon a dulliau eraill y gellid eu defnyddio yng Nghymru. Bydd y mater cymhleth hwn yn cael ei drafod yn eich pwyllgorau gweithredol sirol ac mewn cyfarfod arbennig o gadeiryddion pwyllgorau a'r tîm polisi llywyddol er mwyn ymchwilio i ba opsiynau polisi y dylai'r undeb eu cefnogi er mwyn amddiffyn buddiannau tymor byr a thymor hir ein diwydiant a Chymru gyfan.

Bydd y pwnc o blannu coed a dal a storio carbon hefyd yn cael ei drafod pan ymunwn â Chynhadledd Plaid Cymru ym mis Hydref yn Aberystwyth. Bydd yr Undeb yn cynnal digwyddiad ymylol amser cinio arbennig ar ail ddiwrnod y gynhadledd a bydd mwy o fanylion yn cael eu rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Pwnc arall sydd wedi ein syfrdanu ym mis Awst oedd y newyddion y bydd Llywodraeth y DU yn gwahardd allforion anifeiliaid byw ochr yn ochr â mwy o reoleiddio ar gyfer symudiadau da byw domestig. Beth allwn ni ei ddweud, ar wahân bod hynny’n rhagrith o'r radd uchaf.

Symbolaidd yn unig yw gwahardd croesi o Gaergybi i Ddulyn (56 milltir), yn hytrach na chael ei wreiddio mewn tystiolaeth. Ond nid yw’r rhagrith yn gorffen yno - ystyriwch y cytundeb fasnach rydd Awstralia-DU gyfredol. Byddai bron i hanner allforion byw gwartheg a defaid Awstralia yn teithio dros 9000 milltir ar y môr o dan safonau lles llawer is na’n rhai ni. Nid oes chwarae teg a'r cyfan sydd wedi'i wneud yw lleihau cyfrifoldeb o ran lles anifeiliaid.

Er bod awydd cyhoeddus sylweddol am wahardd allforion byw, a chraffu cynyddol ar les anifeiliaid, ni wnaed unrhyw ymdrechion sylweddol i sicrhau bod gofynion o'r fath yn cael eu dyblygu yng ngwledydd y Trydydd Byd hynny yr ydym yn cystadlu yn eu herbyn, nac yn wir le mae cynnyrch yn cael ei fewnforio o.  Mae'r cyhoeddiad hwn y tu hwnt i fod yn rhagrithiol a byddwn yn trafod hyn ymhellach gyda'n pwyllgorau sefydlog.

Ar nodyn cadarnhaol i ddod a’r mis hwn i ben, rydym yn edrych ymlaen at ymuno â Sioe Brynbuga ar ddydd Sadwrn 11 Medi. Mae ein tîm newydd yng Ngwent a Morgannwg yn brysur yn gwneud y trefniadau terfynol ar gyfer y diwrnod ac mae’n argoeli i fod yn wych ym mhob ffordd. Gyda hwn yn un o’r ychydig o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'n pabell ac yn gobeithio gweld llawer ohonoch yno.