Bellach mae gwaith yr Undeb hon, o bosib yn bwysicach nag y bu erioed

gan Glyn Roberts, Llywydd UAC

Mae mis Mehefin wedi mynd ac o dan amgylchiadau arferol byddai llawer ohonom yn paratoi ar gyfer y gwahanol sioeau amaethyddol ledled y wlad. Fel y mae ar hyn o bryd, mae'n edrych fel bod ychydig o sioeau'n cael eu cynnal, gan gynnwys Sioe Brynbuga, neu’n cael eu cynllunio yn dibynnu ar gyfyngiadau Covid-19 wrth symud ymlaen, ac mae Sioe Frenhinol Cymru i’w chynnal yn rhithwir yn unig.

Wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau i effeithio ar ein bywydau rhaid i ni geisio ein gorau i aros yn bositif a gofalu am ein gilydd - hyd yn oed os yw dros y ffôn nes y gallwn gymdeithasu dros baned o de a rhannu ein meddyliau a’n pryderon ym mhebyll UAC unwaith eto. 

Gall ffermio fod yn ynysig ar y gorau a rhaid inni edrych ar ôl ein gilydd yn ystod yr amseroedd ansicr hyn. Er y gallai lefelau straen fod yn uchel gyda chneifio, silwair a'r gwaith arferol arall o ddydd i ddydd sydd angen ei wneud ar ffermydd, fe'ch anogaf i gymryd cam yn ôl o bryd i’w gilydd ac edrych, nid yn unig ar ôl eich fferm, ond ar ôl eich hunain hefyd.

I'r Undeb mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur wrth i ni wneud ein rhan wrth edrych ar ôl y diwydiant. Mae’r tîm wedi bod yn lobïo’n ddi-baid i dynnu sylw at y peryglon a ddaw yn sgil cytundeb masnach rydd gydag Awstralia, gan gynnwys ein swyddogion sirol sydd wedi cyfarfod ag AS Ceidwadol ledled Cymru i drafod y mater yn fanwl iawn. Cafodd pob carreg ei throi. 

Rydym hefyd wedi gweithio'n galed gyda chyrff diwydiant eraill a gwleidyddion trawsbleidiol i dynnu sylw at yr effaith ddinistriol y mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 eisoes yn ei chael ar y sector. Croesawyd y ffaith y bydd yna adolygiad ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i deilwra polisi sy'n gymesur ac sy'n adlewyrchu'r angen yma yng Nghymru.

Rydym yn mawr obeithio y bydd yr adolygiad yn ystyried yn llawn y goblygiadau ariannol y mae'r rheoliadau hyn yn eu cael ar fusnesau fferm bach a chanolig eu maint a ffermwyr tenant, a'u bod hefyd yn ystyried yr effeithiau cymdeithasol a diwylliannol ar gymunedau gwledig, o ystyried goblygiadau'r rheoliadau hyn ar ffermwyr ifanc, tenantiaid, a newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant.

Mater arall sydd wedi cadw ni ar flaenau ein traed dros y misoedd diwethaf yw ail gartrefi a thwristiaeth yng Nghymru. Ni ellir tan ddatgan pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru ac incwm llawer o ffermydd sydd wedi arallgyfeirio, ac eto mae pandemig Covid-19 wedi amlygu rhai o'r problemau y gall twristiaeth eu hachosi i gymunedau gwledig, ardaloedd dynodedig a ffermwyr.

Gyda nifer brawychus o eiddo wedi'u gwerthu, yng Ngwynedd er enghraifft, yn ystod pandemig Covid-19 a'r rhai sydd wedi'u prynu fel ail gartrefi, ni ellir gwadu effeithiau negyddol dynodiad a thwristiaeth ar gymunedau, fforddiadwyedd tai a'r Iaith Gymraeg. Mae'n werth tynnu sylw serch hynny bod y mater hwn yn bodoli ledled y wlad, nid mewn pocedi penodol yng Nghymru yn unig.

Felly mae UAC eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu pwyllgor i asesu effaith ail gartrefi ar ardaloedd gwledig. Gwyddom fod busnesau ffermio yn ymroddedig yn ariannol ac yn gymdeithasol i'w hardal a'u cymuned leol oherwydd natur hirdymor a cenedliadol ffermio, ac felly nhw, ochr yn ochr ag eraill yn y gymuned wledig, yw'r ysgogwyr y tu ôl i hyfywedd ysgolion lleol, sioeau amaethyddol, capeli a digwyddiadau codi arian.

Mae hyn mewn cyferbyniad uniongyrchol ag ail gartrefi a allai fod yn wag am gyfnod sylweddol o'r flwyddyn.

Rydym hefyd wedi gweld nifer fawr o gartrefi yn cael eu cymryd oddi ar y farchnad i bob pwrpas neu eu gosod y tu hwnt i gyrraedd ariannol teuluoedd ifanc lleol. Gwrthodir cyfle i lawer aros yn eu hardal leol a byw yn nhai eu cyndadau, gan ychwanegu at bwysau sy'n achosi i bobl ifanc adael ardaloedd gwledig.

Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon a'r problemau hyn, mae'n hanfodol adolygu'r Dreth Trafodiadau Tir 1 y cant cyfredol ar ail gartrefi. Dylai hyn anelu at amddiffyn cymunedau gwledig rhag prisiau tai chwyddedig a galluogi pobl ifanc i fyw yn eu hardaloedd lleol, gan gydnabod rôl tai i weithwyr amaethyddol hefyd.

Mae bron i ddeuddeng mis bellach ers i UAC ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt sefydlu pwyllgor ar frys i ystyried sut y dylid mynd i'r afael â phroblemau o'r fath, ac o gofio bod y mater hwn bellach yn cael sylw dyddiol yn y cyfryngau ledled y DU mae'n drueni na chymerwyd y cam yma - a fyddai wedi rhoi Cymru o flaen cenhedloedd eraill.

Dros y 12 mis diwethaf, mae llawer o awdurdodau lleol ac ardaloedd dynodedig yng Nghymru hefyd wedi cael eu hymestyn y tu hwnt i'w gallu i ddarparu ar gyfer y cynnydd mewn ymwelwyr, sy'n arbennig o wir am dimau achub mynydd a gwardeiniaid parcio. I'r gwrthwyneb, mae'n rhaid i rai awdurdodau lleol leihau eu cyfrifoldebau a'u cyllid tuag at lwybrau cyhoeddus.

Mae hyn yn cwestiynu capasiti ardaloedd gwledig a dynodedig ac i ba lefel y gall awdurdodau lleol ei fforddio o ran twristiaeth gynaliadwy. Yn yr un modd, nid yw'n adlewyrchu Cymru fel Cenedl groesawgar os yw twristiaid yn cael profiadau annymunol.

Wrth gwrs, mae gwir angen parhau i hyrwyddo'r twf priodol mewn twristiaeth sydd o fudd i fusnesau gwledig, trigolion lleol a chynhyrchwyr bwyd lleol, ond mae'n rhaid i ni weithio i sicrhau nad yw preswylwyr a busnesau o fewn ardaloedd dynodedig yn destun cyfyngiadau a chostau sydd ddim yn bodoli y tu allan i'r ardaloedd hynny, naill ai trwy gael gwared ar anghydraddoldebau o'r fath neu ddigolledu'r rhai y maent yn effeithio arnynt.

Gyda chynlluniau ar y gweill i uwchraddio AHNE Bryniau Clwyd i statws Parc Cenedlaethol, er gwaethaf addewidion y Llywodraeth ddegawd yn ôl na fyddai hyn byth yn digwydd, ac ymdrech gan rai i ddynodi Mynyddoedd Cambrian, mae’n hen bryd cael sgwrs ynglŷn â sut y gellir blaenoriaethu cartrefi a bywoliaethau lleol dros ddiddordebau hamdden ymwelwyr.

Bellach mae gwaith yr Undeb hon, o bosib yn bwysicach nag y bu erioed a byddwn yn parhau i ymladd dros ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yma yng Nghymru.


Argraffu