Profiad y pandemig

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Y dyddiad heddiw yw’r 8fed o Fawrth 2021. Blwyddyn union yn ôl i heddiw roedd pawb ar fin dechrau’r wythnos ‘normal’ ddiwethaf, a hynny heb yn wybod i neb. 

Mae’n anodd credu sut mae bywyd wedi newid mewn blwyddyn - llawer wedi colli anwyliaid i’r firws anweledig sy’n parhau i’n rheoli, pawb yn gorfod byw bywyd o ‘dan glo’, cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd a defnyddio galwyni o ddiheintydd dwylo, cyfarwyddo a gweithio o gatref ac addysgu plant am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ddiwethaf. 

Canslwyd bywyd normal a’r digwyddiadau cymdeithasol, a oedd yn cael eu cymryd mor ganiataol hyd at llynedd. 

Mae gweithwyr allweddol y wlad, o ddoctoriaid a nyrsys i yrwyr lori, o bostmyn i ffermwyr wedi bod yn hanfodol i gadw’r wlad i fynd, mewn cyfnod ansicr a gofidus. Ond sut brofiad yw gweithio’n llawn amser trwy pandemig? Cafodd Cornel Clecs gyfle i holi i reolwr un o ganghennau Clynderwen & Cardiganshire Farmers (CCF), sef Arwel Hamer sy’n rheoli cangen Felinfach yn Nyffryn Aeron, Ceredigion am ei brofiad ef o weithio drwy’r pandemig:

1) Sut brofiad yw gweithio trwy pandemig?

Mae wedi bod yn brofiad od a gwahanol, ond yn un rwyf wedi gorfod cyfarwyddo â. Rwyf wedi bod yn lwcus iawn fy mod yn gallu codi bob bore a mynd i’r gwaith, yn hytrach na gorfod gweithio o gartref. Ni fydden yn gallu ymdopi’n dda iawn a gweithio o gartref!

2) Beth yw’r prif rwystrau o weithio o dan gyfyngiadau’r firws?

Y rhwystr anoddaf a’r un mwyaf amlwg yw’r pellter rhwng y staff a’r cwsmeriaid. Yn amlwg, dyna’r ffordd fwyaf diogel ac mae’n rhaid diogelu pawb, ond nid oes modd darparu’r un gwasanaeth trwy sgrin. Hefyd, fel staff, rydym yn colli’r cymdeithasu arferol dros baned, gan mae dim ond un ar y tro sy’n cael mynd ar egwyl bellach yn unol â’r cyfyngiadau presennol.

3) Sut mae’r cwsmeriaid wedi ymdopi gyda’r drefn newydd yn CCF?

Yn dda iawn i fod yn onest. Gan fod hyn yn rhywbeth cenedlaethol, mae pawb wedi cyfarwyddo a gwisgo mwgwd a defnyddio diheintydd dwylo er misoedd bellach. Rydym yn gweithredu ar system goleuadau traffig. Nid yw’n bosib cael mwy na 4 cwsmer yn y siop ar y tro (mae siopau CCF mwy o faint yn caniatáu rhagor o gwsmeriaid mewn ar y tro), ac mae cwsmeriaid yn gorfod ufuddhau i’r golau coch neu wyrdd tu allan cyn gallu dod mewn yn ddiogel.

Mae ein dyled yn enfawr i Arwel, a’r holl weithwyr allweddol arall sydd wedi sicrhau ein bod yn medru parhau i amaethu a chynhyrchu bwyd o’r safon orau, a hynny trwy osod eu hunain mewn sefyllfa beryglus yn llwybr y firws yn aml iawn. Gan bwyll bach mae’r haul yn dechrau dod dros y bryn.