Galw am weithredu ar fewnforion anghyfreithlon yn dilyn achos clwy'r traed a'r genau yn Hwngari

Galw am weithredu ar fewnforion anghyfreithlon yn dilyn achos clwy'r traed a'r genau yn Hwngari

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio mesurau diogelwch cryfach i frwydro yn erbyn mewnforion cig anghyfreithlon i’r DU yn dilyn cadarnhad o achos o glwy’r traed a’r genau yn Hwngari'r wythnos diwethaf.

Ddydd Iau 6 Mawrth, 2025, cadarnhaodd Hwngari ei hachos clwy’r traed a’r genau (FMD) cyntaf ers dros 50 mlynedd, gyda’r achos wedi’i ganfod ar fferm wartheg yng Ngogledd Orllewin Hwngari, ger y ffin â Slofacia.

Daw’r newyddion yn dilyn achos fis Ionawr mewn gyr o fyfflo dŵr yn yr Almaen yn gynharach eleni - yr achos cyntaf yn yr Almaen ers 1988.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymateb drwy atal mewnforio masnachol o Hwngari a Slofacia o wartheg, moch, defaid, geifr ac anifeiliaid cnoi cil annomestig eraill a mochyn moch fel ceirw a chynhyrchion heb eu trin, megis cig ffres a chynnyrch llaeth.

O 8 Mawrth, ni fydd teithwyr bellach yn gallu dod â chig, cynhyrchion cig, llaeth a chynhyrchion llaeth, rhai cynhyrchion cyfansawdd a sgil-gynhyrchion anifeiliaid moch ac anifeiliaid cnoi cil, neu wair neu wellt, o Hwngari a Slofacia i Brydain Fawr.

Yn ogystal â’r mesurau, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi annog Llywodraeth y DU i gynyddu ei hymdrechion i frwydro yn erbyn mewnforion anghyfreithlon sy’n peri risgiau sylweddol i iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch y DU.

Yn gynharach eleni, canfu cais Rhyddid Gwybodaeth i awdurdodau ym Mhorthladd Dover atafaelu bron i 100 tunnell o gig anghyfreithlon yn 2024. Yn fwy diweddar, ym mis Ionawr 2025, dywedodd Awdurdod Iechyd Porthladd Dover ei bod wedi  atafaelu ar 25 tunnell o gig anghyfreithlon, teirgwaith y swm a atafaelwyd yr adeg honno'r llynedd.

Mae mesurau bioddiogelwch y DU ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad gan Bwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) San Steffan, gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio y gallai mesurau diogelwch annigonol yn erbyn mewnforion cig anghyfreithlon adael sector amaethyddol y DU yn agored i glefydau difrifol fel clwy’r traed a’r genau a chlwy’r moch Affricanaidd.

Wrth ymateb i achos clwy’r traed a’r genau yn Hwngari, a’r angen am fwy o ymyrraeth i fynd i’r afael â’r mewnforion cig anghyfreithlon, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Bydd newyddion am Glwy’r Traed a’r Genau ar gyfandir Ewrop am yr eildro eleni yn destun braw ymhlith perchnogion da byw. Er ei bod yn hollbwysig pwysleisio nad yw’r clefyd hwn yn fygythiad i iechyd pobl na diogelwch bwyd, fel y dangoswyd gan yr achosion yn 2001, ni ellir tanbrisio ei effaith bosibl ar y sector amaethyddol a’n heconomi a’n cymunedau gwledig.

"Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau ar unwaith i amddiffyn ein ffiniau drwy atal mewnforio cynnyrch o Hwngari a Slofacia, fodd bynnag, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio ar sawl achlysur bod angen gwirioneddol i gynyddu mesurau diogelwch a gwyliadwriaeth i frwydro yn erbyn mewnforion cig anghyfreithlon. Mae’r rhain yn fygythiad sylweddol i iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch y DU, ac yng ngoleuni’r bygythiad diweddaraf hwn, mae gweithredu llawer cryfach gan y llywodraeth i frwydro yn erbyn mewnforion anghyfreithlon yn hanfodol.”

Nid oes achos o glwy’r traed a’r genau yn y DU ers 2007, ac yn dilyn yr achosion diweddar ar gyfandir Ewrop mae Prif Swyddog Milfeddygol y DU yn annog ceidwaid da byw i fod yn wyliadwrus o arwyddion clinigol y clefyd. Nid yw clwy'r traed a'r genau yn heintio pobl ac nid yw'n peri risg i ddiogelwch bwyd.