Undeb Amaethwyr Cymru yn y Senedd i amlygu effaith newidiadau i'r dreth etifeddiant

Undeb Amaethwyr Cymru yn y Senedd i amlygu effaith newidiadau i'r dreth etifeddiant

Cyn dadl yn y Senedd ar newidiadau dadleuol Llywodraeth y DU i Ryddhad Eiddo Amaethyddol (APR) ar ddydd Mercher 5 Mawrth, bu Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn y Senedd unwaith eto yn lobïo gwleidyddion Cymru, gan bwysleisio’r angen i Lywodraeth y DU adolygu’r newidiadau pellgyrhaeddol i’r polisi.

Roedd y ddadl, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth y DU i oedi ac adolygu’r newidiadau i’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol.

Er gwaethaf cefnogaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, gwelwyd mesur Plaid Cymru yn methu o drwch blewyn.

Pasiwyd cynnig diwygiedig a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gydnabod y pryderon a fynegwyd gan ffermwyr Cymru ynghylch newidiadau i’r dreth etifeddiant, a chymal y byddai Gweinidogion Cymru yn parhau i hannog Llywodraeth y DU i roi ystyriaeth lawn a phriodol i farn ffermwyr Cymru.

Cyn y ddadl, cafodd Undeb Amaethwyr Cymru, llais annibynnol ffermydd teuluol Cymru, gyfarfod â llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox AS a Llyr Gruffydd AS o Blaid Cymru, gan gyfleu pryderon y sector amaeth ynghylch yr effaith bosibl gall diwygiadau’r Trysorlys ei chael ar ffermydd teuluol a chynhyrchiant bwyd.

Yn flaenorol, honnodd Prif Weinidog y DU na fyddai “mwyafrif helaeth” o ffermwyr yn cael eu heffeithio gan y newidiadau, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2026. Yn y cyfamser, honnodd ffigurau Trysorlys y DU eu bod yn disgwyl i tua 500 o ystadau ar draws y DU gael eu heffeithio gan y newidiadau bob blwyddyn.

Fodd bynnag, mae ymchwil flaenorol gan gyrff o’r diwydiant wedi codi amheuon sylweddol ynghylch ffigurau’r Trysorlys.

Mae dadansoddiad gan Undeb Amaethwyr Cymru yn awgrymu y gallai cymaint â 48% o dderbynwyr Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yng Nghymru gael eu heffeithio gan y newidiadau, gyda’r undeb yn rhybuddio y gallai’r newidiadau gael effaith ddinistriol ar ffermydd teuluol a chynhyrchu bwyd, yn ogystal ag arwain at gynnydd mewn tir amaethyddol yn cael ei brynnu gan gyrff corfforaethol a chwmnïau allanol.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru eisoes wedi cyflwyno amrywiaeth o gynigion i’r newidiadau arfaethedig er mwyn ddiogelu ffermydd teuluol a diogelwch bwyd y DU yn well. Cafodd y cynigion hyn eu rhannu gyda Llywodraeth y DU ar sawl achlysur, gan gynnwys mewn cyfarfod â swyddogion Trysorlys y DU yn Llundain ddiwedd mis Chwefror.

Mae’r newidiadau arfaethedig yma yn cynnwys yr egwyddor na ddylai asedau ffermio/amaethyddol gael eu trethu wrth eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall ar gyfer ffermio eu hunain neu eu gosod i deulu ffermio arall. Fodd bynnag, os bydd genhedlaeth iau yn penderfynu gwerthu’r asedau hynny, dylid trethu’r asedau hynny ar y pwynt gwerthu.

Wrth wneud sylw yn dilyn y ddadl, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae newidiadau i APR wedi achosi pryder sylweddol o fewn y sector amaeth yng Nghymru yn ystod cyfnod heriol i ffermwyr Cymru, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw’n gyson am adolygu’r newidiadau. 

"O ystyried y rhwystredigaethau parhaus o fewn y sector ffermio a fynegwyd yn rymus yn ystod y ddadl hon, roedd cyfle yma i’r Senedd anfon neges glir, unedig i San Steffan bod angen oedi ac ailystyried y polisi problematig yma.

"Siomedig oedd gweld y cyfle yma yn methu, ond wrth i bwysau barhau i gynyddu o’r sector ac o feinciau cefn y Llywodraeth, mae’n rhaid i Drysorlys y DU wneud y peth iawn ac ailedrych ar y cynigion yma, gan ddiogelu ein ffermydd teuluol a dyfodol amaethyddiaeth Cymru.”

Yn ogystal â llefarwyr y gwrthbleidiau, cafodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Ian Rickman a’r Dirprwy Lywydd, Dai Miles, gyfarfod ag Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS. Roedd y cyfarfod yn gyfle i drafod yr effaith bellgyrhaeddol y gallai newidiadau i APR ei chael ar ffermydd teuluol yng Nghymru, yn ogystal â thrafod materion brys eraill sy’n wynebu’r sector, gan gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yr adolygiad parhaus o’r rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, TB buchol a Feirws y Tafod Glas.