Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi nodi ei phrif ofynion o Lywodraethau’r DU a Chymru er gwaethaf yr heriau a ddaw wrth ddelio â thirwedd wleidyddol heriol sy’n newid yn gyson.
Wrth siarad yn Sioe Frenhinol Cymru'r wythnos hon, nododd Llywydd UAC, Ian Rickman, fod safiad yr Undeb yn parhau’n gyson a chadarn mewn cyfnod heriol o newid cyson yn ein hinsawdd wleidyddol.
“Mae ffermio yng Nghymru ar groesffordd bwysig gyda’r cyfle i greu sylfaen gadarn i’r diwydiant am ddegawdau i ddod. Er bod creu’r sylfaen hon yn dibynnu’n helaeth ar ddatblygu polisïau amaethyddol datganoledig yma yng Nghymru, rhaid cofio y bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth newydd y DU yn sylfaen i’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig.
“Bydd y gefnogaeth yma yn ei dro yn cael effaith sylfaenol ar allu cynhyrchwyr bwyd Cymru gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr yng ngwledydd eraill y DU, yn Ewrop ac ar draws y byd.
“Er gwaetha’r heriau, rydym fel Undeb yn canolbwyntio ar lobïo y ddwy lywodraeth er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i’n haelodau, amaethyddiaeth Cymru a’n cymunedau gwledig.
“Mae ad-drefnu diweddar Cabinet y Senedd ac Etholiad Cyffredinol y DU wedi arwain at newid sylweddol i dirwedd gwleidyddol Cymru, yn enwedig penodi Huw Irranca-Davies AS yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig. Mae ethol Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan hefyd yn newid arall sylweddol gyda’r posibilrwydd o symud cyfeiriad eto
“Gyda’r heriau gwleidyddol yn parhau yng Nghaerdydd gyda ymddiswyddiad Vaughan Gething mae’n rhaid i ni gynllunio am newid eto fyth yma yng Nghymru o fewn ychydig fisoedd.
Ar lefel y DU, mae UAC yn galw am setliad ariannu teg gwerth £450 miliwn yn flynyddol mewn cyllid dilynol i ddilyn y gyllideb amaeth oedd yna arfer dod i ffermwyr a chymunedau cefn glwad Cymru o goffrau’r UE.
“Ni allwn ddiystyru pwysigrwydd y cymorth hwn fel sylfaen gadarn ar gyfer cynhyrchu bwyd, diogelu’r amgylchedd a diogelu dyfodol cymunedau gwledig Cymru.
“Mae angen i ni hefyd weld agwedd mwy cadarn o hyn allan tuag at unrhyw gytundebau masnach newydd gyda gwledydd a blociau masnachu eraill os ydym am amddiffyn ffermwyr Cymru a sicrwydd bwyd o fewn y DU. Mae’n rhaid i fewnforion ac allforion bwyd ddilyn yr un trefniadau rholaethol a safonau os ydym am sicrhau cysondeb rhwng cynhyrchwyr bwyd y DU a’r UE.”
Mae UAC yn galw am anogaeth a chefnogaeth er mwyn i ffermwyr allu buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddol ar y fferm fydd o fudd i gymunedau lleol. Dylid cydnabod cynhyrchu bwyd fel ased cenedlaethol a dylid atal y defnydd o dir amaethyddol da er mwyn cyrraedd targedau plannu coed a thargedau amgylcheddol eraill.
Mae’n rhaid i bolisïau caffael flaenoriaethu cefnogaeth cyrff cyhoeddus i fusnesau Cymreig a Phrydeinig gan gydnabod yr ystod o fanteision y gall polisïau sydd wedi’u dylunio’n briodol eu sicrhau i gymdeithas. Mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur newydd y DU ddiogelu a hyrwyddo safonau uchel y DU o ran iechyd a lles anifeiliaid a dod â chyfraith i rym sy’n sicrhau y dylid cadw pob ci ar dennyn ar dir amaethyddol.
“Er gwaethaf yr ansicrwydd yng Nghaerdydd, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin cysylltiadau cryf gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth Cymru yn cael sylw teilwng. Rhaid diogelu cyllid amaeth fel dilyniant i’r hyn a dderbyniwyd gan yr gronfeydd yr UE yn y gorffennol sy’n allweddol ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth a chymunedau gwledig yng Nghymru. O ystyried hyn fe ddylid parhau i gyd-ariannu cynllun o’r fath gan sicrhau y bydd cyllid digonol ar gael gan Lywodraeth y DU.
“Mae’n rhaid i’r broses o ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fydd yn rhoi sefydlogrwydd i’n ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd, barhau os yw’r cynllun yn mynd i gael ei weithredu yn 2026. Rhaid i’r cynllun ystyried cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn gwbl gyfartal a bod yn hygyrch ac o fewn cyrraedd pob ffermwr gweithredol yng Nghymru.
“Rydym hefyd am weld mabwysiadu datrysiadau technolegol ac arloesol fel rhan ganolog o adolygu’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol sef yr ‘NVZ’. Mae’n rhaid i’r broses fod yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth gadarn wrth geisio mynd i'r afael â materion ansawdd dŵr trwy arloesi yn hytrach na rheoleiddio heb ystyriaeth o le mae’r problemau’n bodoli.”
Ychwanegodd Ian Rickman bod rhaid i Lywodraeth Cymru, nawr yn fwy nag erioed o'r blaen, fabwysiadu dull gwyddonol a chyfannol o ddileu’r diciau mewn gwartheg yng Nghymru wrth weithio gyda Grŵp Cynghori Technegol. Dylid ymchwilio i effeithlonrwydd y dulliau a’r trefniadau profi presennol wrth fynd i'r afael â throsglwyddo clefydau gan fywyd gwyllt.
“Yn olaf, rhaid i gamau tuag at sero net fod yn gynaliadwy ac yn seiliedig ar wyddoniaeth gadarn yn y fath fodd fel nad yw camau gweithredu a gymerwyd mewn ymateb i dargedau tymor byr yn cael eu gwrthdroi. Rhaid i’r camau tuag at leihau ein ôl troed carbon fod yn rhwydd ac yn realistig, gan beidio peryglu cynhyrchiant neu hyfywedd economaidd ffermydd.
“Mae’r dyddiau nesaf yn ddathliad o amaethyddiaeth Cymru a’r ffermwyr sy’n parhau i gynhyrchu bwyd o safon uchel a gwarchod yr amgylchedd yn erbyn cefndir o ansicrwydd a heriau gwleidyddol.”
Dywedodd Ian Rickman mai effeithiau ansicrwydd o’r fath ar draws y DU a rhai cwestiynau polisi sylfaenol fyddai’n cael sylw seminarau UAC a gynhelir dros y dyddiau nesaf, wrth i baneli proffesiynol fynd i’r afael ag ystod amrywiol o bynciau sy’n peri pryder i’r sector amaeth yng Nghymru.
“Fel arfer, yn ogystal â’r digwyddiadau hyn, bydd ein staff a’n Tîm Llywyddol yn cyfarfod â swyddogion a rhanddeiliaid er mwyn tynnu sylw at newyddion da aelodau UAC yn ogystal a phryderon y diwydiant. Gallwch fod yn hyderus y byddwn, er gwaethaf llywio tirwedd wleidyddol heriol, yn parhau i gyflwyno ein dadleuon yn gyson a chadarn er mwyn cynrychioli buddiannau ffermwyr Cymru,” meddai Mr Rickman.