Yn ystod trafodaethau brys a gynhaliwyd heddiw (19 Ionawr) gyda’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, a’i swyddogion, galwodd Undeb Amaethwyr Cymru am ail ystyried y cynllun a chydlunio’r gwaith o ddifrif.
Wrth siarad yn syth ar ôl y cyfarfod, dywedodd Llywydd UAC, Ian Rickman: “Fel ffermwyr, rydym yn deall cryfder y teimladau a rhwystredigaeth ein haelodau ar hyn o bryd. Mynegwyd y pryderon dwys a dyfnder y teimladau sydd gan ein haelodau a’r gymuned wledig ehangach wrth y Gweinidog heddiw.
“Rydym wedi galw am gynnal asesiad annibynnol ar effaith economaidd-gymdeithasol a baich biwrocrataidd polisïau amaethyddol Llywodraeth Cymru, i gynnwys rheoliadau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), TB mewn gwartheg a Rheoli Llygredd Amaethyddol o fewn yr NVZ.
“Dywedom yn glir hefyd y dylid defnyddio’r amser hwn i sicrhau cyfres cyson o gyfarfodydd rhwng y ddwy undeb amaethyddol â’r Gweinidog dros Faterion Gwledig a’i swyddogion er mwyn ailfeddwl y cynigion drwy gydlunio ystyrlon. Mae hyn yn cynnwys sefydlu panel annibynnol â'r dasg o edrych ar ddewisiadau eraill yn lle plannu coed fel y gallwn weithio tuag at sero net mewn ffordd fwy cynaliadwy,” meddai.
Mae’r FUW wedi nodi’n glir ers tro bod yn rhaid i’r SFS fod yn hygyrch i bob busnes ffermio gweithredol, gan ddarparu sefydlogrwydd hirdymor i fusnesau o’r fath yn ogystal a’r economi wledig ehangach sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth. Mae angen iddo hefyd ddarparu ffrwd incwm ystyrlon sy’n gwobrwyo ffermwyr yn briodol, drwy fynd y tu hwnt i’r costau a dynnir a’r incwm a gollir, ac sy’n sail i bwysigrwydd cadwyn gyflenwi bwyd o ansawdd uchel yma yng Nghymru.
“O’r hyn y gwelwn ni, ni fydd yr SFS ar ei ffurf bresennol yn gynaliadwy ac mae’n amlwg nad yw’n barod. Ail adroddodd y Gweinidog ei sicrwydd na fyddai’n lansio’r Cynllun nes ei fod yn barod.
“Rhaid felly ystyried parhad y Cynllun Taliad Sylfaenol ar y cyfraddau presennol hyd nes ein bod yn hyderus bod yr SFS yn barod. Oni wneir hyn, byddwn mewn perygl o ail-adrodd y cangymeriadau sydd wedi ei gwneud yn Lloegr gyda diflaniad taliadau sylfaenol a bron yr holl gyllid yn ddibynol ar weithredoedd amgylcheddo.
“Rydym yn croesawu’r cyfarfod adeiladol gyda’r Gweinidog a’i swyddogion ar adeg sy’n dyngedfennol bwysig i’r diwydiant. Fodd bynnag, mae'r cam nesaf bellach yn eu dwylo nhw ac rydym yn mawr obeithio y byddant yn cymryd ein sylwadau o ddifrif.
“Unwaith eto, ni allaf or bwysleisio pa mor bwysig yw hi i bob unigolyn a busnes y bydd y cynllun hwn yn effeithio arnynt ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad erbyn 7 Mawrth. Mae’n parhau i fod yn gwbl hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud hynny er mwyn sicrhau’r fod y Llywodraeth yn clywed ein barn,” ychwanegodd Ian Rickman.