Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru wedi diddanu’r rhai a ymwelodd â stondin yr Undeb yn y sioe sirol, a gynhaliwyd yn Nhŷ Cerrig, Harlech, gydag arddangosiadau coginio, cerddoriaeth fyw a digon o sgyrsiau am faterion ffermio.
Dywedodd Heledd Williams, Swyddog Gweithredol Sirol UAC Meirionnydd:
“Bu’n ddiwrnod llawn prysurdeb a llwyddiannus ar stondin yr Undeb, a chawsom gyfle i gynnal trafodaethau gyda nifer o fudiadau, a chyfarfod hefyd gyda Liz Saville Roberts AS, Mabon ap Gwynfor AS a Llyr Gruffydd AS.”
Ymysg y nifer fawr o sefydliadau ac unigolion a ymwelodd â stondin UAC yn ystod y dydd oedd Ambiwlans Awyr Cymru sef elusen newydd Llywydd UAC, RABI, Tîm Troseddau Cefn Gwlad, Eryl P Roberts ar ran Cyswllt Ffermio ac Alun Edwards fel llysgennad y Bartneriaeth Diogelwch Fferm.
Bu Mel Thomas hefyd yn cynnal arddangosfeydd coginio gan ddefnyddio cynnyrch lleol fel Cig Oen Y Glastraeth a Chig Eryri.
Daeth David Bisseker a'r diwrnod i ben gydag adloniant ar y corn.
“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n helpu mewn unrhyw ffordd yn ystod y dydd a gobeithio bod yr aelodau wedi cael sioe bleserus a llwyddiannus,” ychwanegodd Heledd Williams.