Brecwast yw un o brydau pwysicaf y dydd ac mae’n gyfle gwych i siarad a rhannu eich meddyliau cyn dechrau’r diwrnod, gan helpu hefyd i wella iechyd meddwl pobl.
Felly er mwyn hybu’r buddion iechyd a chael cyfle am sgwrs cyn i’r diwrnod ddechrau, unwaith eto, mae timau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ar draws y wlad yn cynnal amrywiaeth o frecwastau ffermdy yn ystod yr wythnos rhwng dydd Llun 15 a dydd Sul 21 Ionawr 2024. Bydd UAC, unwaith eto hefyd yn cynnal brecwast ffermdy yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, Ionawr 16.
Dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn arw at ein brecwastau ffermdy blynyddol. Gallwn ddechrau’r diwrnod gyda’n teulu, ffrindiau a chymdogion, mewn ffordd gadarnhaol ac iach, a chodi arian ar yr un pryd at ein hachos elusennol, sef Ambiwlans Awyr Cymru. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at gefnogaeth wych eto. Mae’n deg dweud bod dechrau iach i’r diwrnod nid yn unig yn dda i galon iach, ond hefyd i feddwl iach.”
Mae wythnos frecwast Ffermdy UAC hefyd yn rhoi cyfle i hyrwyddo’r cynnyrch lleol o safon wych y mae ffermwyr yn ei gynhyrchu i ni bob dydd o’r flwyddyn, a thrwy gydol yr wythnos frecwast bydd UAC yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein heconomi wledig.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni am frecwast. Rydyn ni eisiau i chi fod yn rhan o'r hyn rydyn ni'n ei wneud, a rhannu eich meddyliau a'ch pryderon am gyflwr y diwydiant. Rydym hefyd am glywed eich hanesion chi, a fydd yn helpu ni i ddeall sut gallwn ni helpu ein gilydd. Pa ffordd well o wneud hynny na o gwmpas bwrdd lle rydyn ni'n mwynhau bwyd gwych a phaned o de,” ychwanegodd Ian Rickman.
###
Breakfast events per county - please contact the local office to book your seat at the table:
Anglesey
Saturday 20th of January - Clwb Rygbi Llangefni
Brecon & Radnor
Tuesday 16th January - Bodwigiad Farm, Penderyn
Friday 19th January - Builth Pavilion
Caernarfon
Saturday 13th January - Caffi Y Fron, Y Fron, Caernarfon
Wednesday 17th January- Hendre Feinws, Y Ffôr, Pwllheli
Thursday 18th January - Neigwl Plas, Botwnnog, Pwllheli
Friday 19th January -Dylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed
Friday 19th January - Caffi Mart Bryncir, Bryncir, Garndolbenmaen
Carmarthen
Wednesday 17th January - Gwynfe Community Hall
Thursday 18th January - Pontyates Welfare Hall
Friday 19th January - Llanarthne Village Hall
Ceredigion
Tuesday 16th January- La Calabria, Ffostrasol, Llandysul
Wednesday 17th January- Mynach Hall, Devils Bridge
Friday 19th January- Felinfach Hall, Felinfach
Denbigh & Flint
Monday 15th January- Corlan Ddiwylliant Llangwm
Friday 19th January- Neuadd Owen, Cefnmeiriadog
Saturday 20th January- Neuadd Bentref Rhosesmor
Glamorgan
Thursday 18th January - Aberthin Village Hall, Aberthin Ln, Aberthin, Cowbridge
Gwent
Friday 19th January - Ty Oakley Farm, Hafodydrynys
Saturday 20th January - Cwm Farm Shop, Ynyswen Rd, Ynyswen, Treorchy
Meirionnydd
Monday 15th January - Cross Foxes, Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog
Wednesday 17th January - Y Sospan, Dolgellau
Friday 19th January- Neuadd Bentref Llanuwchllyn, Llanuwchllyn, Bala
Saturday 20th January - Neuadd Mynach, Cwmtirmynach
Montgomeryshire
Tuesday 16th January - Maengwyn Cafe, 57 Heol Maengwyn, Machynlleth
Wednesday 17th January - Dyffryn Cafe & Restaurant, Foel, Welshpool
Thursday 18th January - The Bull & Heifer, Bettws Cedewain, Newtown, Powys
Saturday 20th January - The Wynnstay Inn, Llansilin, Oswestry
Pembrokeshire
Tuesday 16 January - Canolfan Hermon, Hermon
Friday 19 January - Crundale Hall, Crundale