2025 - Edrych ymlaen i’r flwyddyn newydd

“How long would it last?” Those were the questions of December and January. Not even the most ‘disloyal’ of farmers would have ventured to give to the Union more than three months at the outside. Well now, despite the critics, despite the harsh words, and looking back, the Union, despite everything, has thrived and gone from strength to strength.”

Brawddeg agoriadol rhifyn cyntaf erioed Y Tir, a gyhoeddwyd ar Ionawr 1af 1957 - gan gyfeirio at sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru yn yng nghyfnos 1955.

Er gwaethaf y newidiadau dramatig ym myd amaeth, cymdeithas a llywodraethu dros y saith degawd diwethaf, mae cefnogaeth Undeb Amaethwyr Cymru i ffermwyr Cymru wedi parhau’n gyson. Yn wir, er gwaethaf y newidiadau a’r heriau parhaus wynebai’r sector, mae’n destun balchder i mi fod gwerthoedd craidd yr Undeb o ddiogelu ein ffermydd teuluol Cymreig yn parhau i fod mor ganolog i’n gwaith heddiw ag yr oedd saithdeg mlynedd yn ôl.

Wrth i ni felly nodi’r garreg filltir bwysig hon yn hanes Undeb Amaethwyr Cymru, edrychaf ymlaen at ymgysylltu ag aelodau a’r sector mewn dathliadau a digwyddiadau ledled Cymru drwy gydol 2025. Bydd hyn yn rhoi cyfle nid yn unig i edrych yn ôl ar stori a llwyddiannau’r Undeb, ond hefyd yn gyfle i ystyried yr heriau a’r cyfleoedd ehangach sy’n wynebu ffermio yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain.

O ystyried yr ansicrwydd a brofwyd yn y sector yn 2024, rwy’n mawr obeithio y bydd 2025 yn rhoi mwy o sefydlogrwydd i ffermwyr na’r 12 mis blaenorol. I’r perwyl hwn, rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal terfyn uchaf y Cynllun Taliad Sylfaenol ar £238m fel rhan o’u cyllideb ddrafft ar gyfer 2025-2026. Mae cynnal cyllideb BPS – sy’n parhau i fod mor hanfodol i gynifer o ffermwyr – i’w groesawu, ond mae’n siomedig nad yw’r ffigwr hwn wedi gweld unrhyw godiad eto eleni i ganiatáu ar gyfer chwyddiant, sydd wedi bod yn erydu gwerth ein taliadau BPS, mewn termau real ers dros ddegawd. Ceir cwestiynau hefyd ynghylch sut mae’r cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn cymharu â’r buddsoddiad blaenorol o raglenni cymorth Ewropeaidd, yn ogystal â sut y bydd cyllid amaethyddol yn cael ei neilltuo fel rhan o strwythur adrannol diwygiedig Llywodraeth Cymru sydd bellach yn gweld Newid Hinsawdd a Materion Gwledig gyda’i gilydd.

Wrth drafod cyllid ffermio, mae’n anochel un o bwyntiau llosg 2025 fydd datganiad Llywodraeth Cymru'r haf hwn ar fodelu taliadau ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae Undeb Amaethwyr Cymru eisoes wedi croesawu’r cyfle i gyfrannu i’r gwaith wrth adolygu’r SFS o’r cynigion cychwynnol trychinebus - gan helpu i ddisodli’r gofyniad 10% o goed, tra'n cydnabod pwysigrwydd tir comin a SoDdGA. Fodd bynnag, fel yr ydym wedi’i wneud yn glir o’ch cychwyn, mae’n gwbl hanfodol bod y cynllun yn cael ei ariannu’n ddigonol.

Tu hwnt i gyllid, rydym hefyd yn aros yn eiddgar am ddatblygiadau gan Lywodraeth Cymru ar yr adolygiad NVZs, a gwaith Cynllun Cyflawni’r Rhaglen Dileu TB. Mae’r NVZs a bTB yn cynnig heriau enfawr i gynaliadwyedd ffermydd Cymru, a bydd cydweithio â’r sector yn allweddol i fynd i’r afael â’r problemau amrywiol sy’n deillio o’r ddau fater.

Gan droi at San Steffan, o safbwynt amaethyddol mae llawer o’r trafodaethau diweddar wedi canolbwyntio ar y newidiadau i’r dreth etifeddiant a’r APR yn dilyn Cyllideb mis Hydref. Gyda’r rhwystredigaeth a’r dicter o fewn y sector ynglŷn â’r newidiadau yn parhau i ferwi drosodd, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i adolygu’r polisi hwn, a’r niwed y gallai ei achosi i ffermydd teuluol a’r sector ffermio yn ei gyfanrwydd.

Ar y ffrynt cartref yma yng Ngurnos, mae Sean a minnau hefyd yn edrych ymlaen at flwyddyn arall yn ffermio mewn partneriaeth, ac rwy’n siŵr y bydd ganddo ddigon o syniadau ffres i symud y busnes yn ei flaen yn dilyn ei daith ddiweddar i Seland Newydd.

Yn ôl yr arfer bydd y tywydd yn chwarae rhan hollbwysig yn ein blwyddyn ffermio a gadewch i ni obeithio y bydd hi’n well na’r llynedd! Mae prisiau’n parhau i fod yn uchel ar gyfer ein cig eidion a chig oen wrth i ni ddechrau 2025 a hir y parhaed hynny! Mae'r defaid yn edrych yn dda wrth i ni ddechrau'r flwyddyn, ond gadewch i ni weld sut mae wyna'n mynd. Mae’n ymddangos yn gymharol dawel yma nawr bod holl loi Wagyu wedi symud ymlaen i’w cartrefi newydd, ac nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ynglŷn â faint y byddwn yn ceisio eu magu eto eleni, ond mwy o newyddion am hynny yn y misoedd nesaf.

Mae llawer wedi newid ers 1955, ond yn y pen draw mae rôl hollbwysig ffermwyr Cymru wrth gynhyrchu bwyd o safon uchel, a chynnal yr amgylchedd yn parhau i fod cyn bwysiced ag erioed o’r blaen. Gyfochr ag aelodau, swyddogion a staff Undeb Amaethwyr Cymru, edrychaf ymlaen at flwyddyn brysur arall, gan barhau i sicrhau bod anghenion a buddiannau ffermydd teuluol Cymru yn cael eu clywed yn glir.