Cydnabod Joyce am ei chyfraniad eithriadol i amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin

Joyce Owens, ffarmwraig adnabyddus o Lannon, yw enillydd Gwobr Undeb Amaethwyr Cymru Cymdeithas Amaethyddiaeth a Helwyr y Siroedd Unedig 2024, sy’n cydnabod person sydd wedi gwneud Cyfraniad Eithriadol i Amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gadawodd Joyce yr ysgol yn 16 oed, i weithio yn y sector amaethyddol. Dechreuodd ei gyrfa fel derbynnydd i Dalgetty, gan fynd ymlaen i weithio i'r Bwrdd Marchnata Llaeth am ddau ddegawd. Ers hynny mae hi wedi gweithio i Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin fel Cynorthwyydd Gweinyddol ers 23 mlynedd.

Dechreuodd ffermio mewn partneriaeth â’i gŵr Gerallt yn Fferm Lletty, Llannon, ger Llanelli yn 1990 – gan ganolbwyntio ar ddefaid a moch. Dechreuwyd gyda dwy hwch yn rodd gan ei thad-yng-nghyfraith, cyn mynd ymlaen i ddatblygu eu cenfaint o foch Cymreig a Landrace. Dechreuodd eu busnes porc drwy gyflenwi lladd-dy Pwllbach yn Llanelli, cyn mynd ymlaen i gyflenwi cigydd Rob Rattray yn Aberystwyth, ac yn ddiweddarach Siop Fferm Cwmcerrig ger Gorslas, Sir Gaerfyrddin.

Dros y tri degawd diwethaf mae Joyce a Gerallt wedi rhagori wrth ddangos eu moch mewn sioeau amaethyddol lleol a chenedlaethol - hyd at 20 sioe'r flwyddyn.  Ym 1995, mi enillon nhw Brif Bencampwriaeth y moch yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru - gan ailadrodd y llwyddiant yn 2016. Maent hefyd wedi cystadlu yn y Ffair Aeaf ers cychwyn y digwyddiad yn 1990 - gan ennill ystod eang o anrhydeddau gan gynnwys Pencampwriaeth y Parau, y Bencampwriaeth Unigol a Phencampwr Carcas y Sioe.

Derbyniodd Joyce yr anrhydedd o feirniadu adran y Moch Cymreig yn Sioe Fawr Swydd Efrog yn 2014 ac yn Sioe Frenhinol Caerfaddon a'r Gorllewin yn 2017, yn ogystal â beirniadu amrywiaeth o gystadlaethau moch mewn Ralïau CFfI ledled Cymru.

Yn 2019, cafodd cyfraniad Joyce i’r sector moch ei gydnabod gyda gwobr Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (ARAgS), yn ogystal â chael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol adran y Moch a Geifr yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Ers hynny mae hi hefyd wedi cymryd y rôl yn y Ffair Aeaf ac yn Brif Stiward yn yr Ŵyl Wanwyn, gyda Joyce yn parhau i fod yn hyrwyddwr brwd dros y sector moch a’i ddyfodol yng Nghymru.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yng nghinio Nadolig cangen Sir Gaerfyrddin Undeb Amaethwyr Cymru yn y Forest Arms, Brechfa, gydag is-lywydd rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, Anwen Hughes, a Sian Thomas, Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig, yn cyflwyno’r wobr i Joyce.

Wrth longyfarch Joyce ar ei gwobr, dywedodd cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin, Ann Davies AS: “Mae Joyce yn enillydd teilwng o’r wobr hon, gan gydnabod ei gwaith diflino a’i hymroddiad dros y degawdau i sector amaethyddol Sir Gaerfyrddin. Yn benodol, dylid canmol ei hymrwymiad cyson a’i brwdfrydedd heintus tuag at y sector moch drwu ei chyflawniadau a’i rolau beirniadu.- ac rwy’n gwybod bod hyn eisoes wedi’i gydnabod ar lefel Cymru a’r DU drwy ei llu o wobrau eraill.

"Yn ogystal ag ar fuarth y fferm ac yn y cylch arddangos, mae hi wedi ymroi ei gyrfa o ddydd i ddydd i gefnogi’r sector amaethyddol. Boed hynny gyda Dalgetty, y Bwrdd Marchnata Llaeth, a nawr gydag Undeb Amaethwyr Cymru, ni ellir diystyru ei gwaith caled a’i chefnogaeth i ffermwyr ledled Sir Gaerfyrddin, ac rwy’n falch iawn o weld ei hymdrechion a’i hymroddiad yn cael eu cydnabod drwy’r wobr hon.”