Undeb Amaethwyr Cymru yn ymateb i Gylllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Ian Rickman wedi ymateb i’r Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth 10 Rhagfyr).

Cyhoeddodd y Gyllideb ddrafft gynnydd ym mhob adran o'r Llywodraeth gyda'r adran Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn derbyn £36.35m (6.6%) ychwanegol a £71.95m mewn mwy o gyfalaf (31%);

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd y byddai’r terfyn uchaf o’r Cynllun Taliad Sylfaenol yn cael ei gadw ar £238m a darparu cyllid ychwanegol o £5.5m o ran adnoddau ac £14m o ran cyfalaf ar gyfer cynlluniau buddsoddi gwledig ehangach.

Yn gynharach eleni, cyflwynodd Undeb Amaethwyr Cymru dystiolaeth gynhwysfawr i Bwyllgor Cyllid y Senedd yn amlinellu’r angen dybryd i ddiogelu ac adfer cyllid fferm, yn ogystal â chynnal taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar eu cyfraddau presennol. Bu’r alwad hon ddilyn cyfres o doriadau dros y blynyddoedd diwethaf i gyllideb Materion Gwledig Cymru, gyda blwyddyn ariannol 2023-2024 yn gweld toriad o £37.5 miliwn. Dilynwyd hyn gan gyllideb 2024-2025, a ddatgelodd doriad pellach flwyddyn ar ôl blwyddyn o £62 miliwn, sef y gostyngiad cymharol mwyaf o unrhyw un o gyllidebau adrannol Llywodraeth Cymru, sef tua 13%.

Wrth ymateb i gyhoeddiad y Gyllideb Ddrafft, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

“Mae ffermwyr Cymru yn wynebu galwadau cynyddol i gyflawni ystod mwyfwy o amcanion cynaliadwyedd ac amgylcheddol, tra’n parhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel. 

O ystyried y toriadau anghymesur a wynebwyd yng nghyllideb Materion Gwledig Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid refeniw Newid Hinsawdd a Materion Gwledig 6.6% yn un i’w groesawu – er mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn darparu eglurder ar frys ynghylch sut bydd cyllid adrannol yma yn cael ei ddosbarthu i gefnogi ffermydd teuluol a’n cymunedau gwledig.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru  wedi bod yn glir bod yn rhaid i Lywodraeth Cymruddiogelu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2025-2026, yn enwedig wrth inni edrych ymlaen at y cyfnod pontio gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. I’r perwyl hwn, rydym yn croesawu’r penderfyniad i gynnal terfyn uchaf taliadau’r BPS – sy’n hollbwysig o ran darparu lefel o sicrwydd i ffermwyr yng Nghymru wrth iddynt wynebu llu o heriau a newidiadau eraill.

Er bod cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer buddsoddiad gwledig ehangach a chynlluniau amgylcheddol, ceir cwestiynau brys ynghylch sut mae hyn yn cymharu â'r buddsoddiad gwledig a gafodd Cymru yn hanesyddol drwy'r rhaglenni cymorth Ewropeaidd.

O ystyried bod Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniad i gynnal lefelau blaenorol o gyllid Materion Gwledig drwy Grant Bloc Llywodraeth Cymru, nid oes unrhyw reswm pam y dylid tynnu unrhyw gyllid yn ôl o’r cymorth ar gyfer Materion Gwledig - yn enwedig o ystyried bod Cymru wedi cael tua £90 miliwn yn flaenorol drwy’r grant Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, gyda tua hanner ohono’n cael ei drosglwyddo’n flynyddol o’r taliadau uniongyrchol a dderbyniwyd gan ffermwyr.

Wrth edrych ymlaen, mae’n hollbwysig bod unrhyw gynnydd yn y gyllideb Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn cael ei ddyrannu’n deg i’r sector amaethyddol. Fel y bydd modelu economaidd yn debygol o’i ddangos, ni ellir disgwyl i gyllidebau’r dyfodol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy aros ar y lefelau presennol - rhaid iddynt ar y lleiafswm gael ei gynnal fel ei fod yn cyfateb i gyfanswm cyllid hanesyddol Polisi Amaethyddol Cyffredin Ewrop o leiafswm o £337 miliwn y flwyddyn.”