
Fel rhan o’n pecyn aelodaeth, rydym yn cynnig- cyngor arbenigol, nifer o ostyngiadau ac ymgynghoriadau am ddim, rhoi cyngor ar y datblygiadau polisi diweddaraf, darparu rhwydwaith o swyddfeydd lleol, lobïo llywodraeth a’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau, a rhoi llais i ffermwyr Cymru.
Ein nod yw i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau’r rheiny sy’n ennill incwm o amaethyddiaeth yng Nghymru. Rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiad sydd gennym gyda'n ffermwyr. Mae gennym strwythur democrataidd a lleol, sy’n golygu bod aelodau’n dylanwadu ar bolisi UAC ac yn graidd i’r Undeb
Nhw hefyd fu’n gyfrifol am yr holl waith papur fel bod modd i fi hawlio Cynllun y Taliad Sylfaenol o dan y categori Ffermwr Ifanc. Roedd cymorth UAC yn amhrisiadwy.
