Ydych chi'n derbyn ein e-byst?
Canllaw i atal e-byst FUW rhag mynd i'ch ffolder Sbam/Sothach
Rydym wedi bod yn e-bostio diweddariadau pwysig a gwahoddiadau arbennig i aelodau FUW yn ddiweddar. Mae Covid-19 wedi gwthio’r byd i gyfathrebu ar-lein. Ond mae'n ymddangos nad yw rhai ohonoch chi'n derbyn ein e-byst. Mae’n bosib bod nhw’n eistedd yn eich ffolder sothach neu sbam. Mewn rhai achosion efallai nad ydynt yn dod drwodd atoch chi o gwbl oherwydd eich gosodiadau derbyn e-byst yn ddiogel. Dyma rai awgrymiadau i sicrhau nad ydych yn colli e-byst FUW.
Y broses hawsaf a ddilynir gan y mwyafrif o ddarparwyr blychau post yw:
- Agorwch e-bost gan yr anfonwr rydych chi am gymeradwyo
- Cliciwch y cyfeiriad oddi wrth/cyfeiriad yr anfonwr ar frig yr e-bost
- Cliciwch Add to contacts neu Add to safe senders’ list
Gall y broses hon amrywio ychydig ar gyfer pob darparwr e-bost. Rydym wedi rhestru’r camau ar gyfer y prif westeiwyr e-byst.
Camau i ychwanegu cyfeiriad anfonwr at eich cysylltiadau
BT Internet
- O'r tab Settings, dewiswch y ffolder Safe senders a chliciwch ar y botwm Add
- Ychwanegwch post@fuw.org.uk a chliciwch Save
- Ar ôl derbyn neges i gadarnhau bydd y cyfeiriad e-bost yn cael ei ychwanegu at eich rhestr o anfonwyr diogel
Gmail
- Ychwanegwch y cyfeiriad at eich cysylltiadau
- Ychwanegwch post@fuw.org.uk i'ch Cysylltiadau Gmail
- Hefyd - Marciwch negeseuon fel ‘Not spam’ os yw Gmail wedi marcio e-byst yr ydych yn dymuno eu derbyn fel sbam, dywedwch wrth Gmail nad sbam yw’r e-byst
- Yn Gmail, ewch i'r ffolder sbam
- Chwiliwch am e-byst sy'n cynnwys y cyfeiriad yr ydych am ei gymeradwyo (ee post@fuw.org.uk)
- Dewiswch yr holl e-byst a ddangosir
- Cliciwch More ac yna Not Spam
Hotmail
-
Mewngofnodi i'ch Hotmail, cliciwch ar yr eicon Settings ar ochr dde uchaf y dudalen, ei ehangu a chlicio ar More Mail Settings
-
Cliciwch ar Safe and blocked senders
-
Cliciwch Safe Senders
-
Mewnosodwch y cyfeiriad e-bost rydych chi am ei ddweud sy'n ddiogel (post@fuw.org.uk)
-
Yna cliciwch Add to list