Ar 25 Tachwedd, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, ddatganiad ochr yn ochr ag amlinelliad diwygiedig o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a chrynodeb gweithredol o ganfyddiadau’r Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon.
Cafodd swyddogion o Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn gyfarfod yn ddiweddar ag Aelod Seneddol Maldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden AS i drafod pryderon ynghylch Parc Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, a all gynnwys cyfran helaeth o ogledd Powys.
“Amddiffyn pobl sy’n gweithio” - dyna linell a glywyd dro ar ôl tro yn y cyfnod cyn, ac yn ystod y datganiad Cyllideb hirddisgwyliedig yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, wrth i’r llwch setlo ar gyhoeddiad Rachel Reeves ar Noson Calan Gaeaf, i lawer o ffermwyr diwyd Cymru, mae canlyniadau’r Gyllideb yn debygol o fod yn fwy o gast na cheiniog yn y pen draw.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon dybryd yn dilyn y cyhoeddiad gan Ganghellor y Trysorlys yng Nghyllideb yr Hydref (30.10.24) y bydd rhyddhad treth ar eiddo amaethyddol yn cael ei ddiwygio o 2026, gan adael dyfodol llawer o ffermydd Cymru yn y fantol.
Yn ystod y Gyllideb, cyhoeddwyd y bydd y rhyddhad treth o 100% yn dod i ben i fusnesau a thir gwerth dros £1 miliwn
Ffrainc yn gwrthwynebu Cytundeb Masnach yr UE-De America
Mae Ffrainc yn brwydro i ohirio trafodaethau rhwng yr Undeb Ewropeaidd (UE) â bloc masnachu Mercosur De America ar gytundeb masnach. Disgwylir y bydd y cytundeb rhwng yr UE â bloc De America’n cael ei gwblhau mor gynnar â’r mis nesaf.
Fel rhan o brosiect profiad gwaith ar gyfer myfyrwyr, mae Canolfan Milfeddygaeth Cymru wedi dylunio arolwg i gael gwell dealltwriaeth o wybodaeth ffermwyr am glefydau mynydd rhew.
Bydd yr holl ymatebion yn cael cyfle i ennill gwobr a bydd yr enillydd yn derbyn taleb Amazon gwerth £30.
Cynigir Cynllun Cynefin Cymru yn 2025. Gall pob busnes ffermio cymwys gyflwyno cais.
Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am y cynllun mae’n bwysig bod yr holl ardaloedd cynefin ar eich tir wedi’u cadarnhau drwy lenwi ffurflen Cadarnhau Data SFS 2024 ar RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau, sef 6 Rhagfyr 2024.
Bydd gweddill taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a thaliadau llawn ar gyfer y rhai sydd heb gael taliad ymlaen llaw yn dechrau ar 12 Rhagfyr 2024. Bydd y taliadau’n amodol ar broses ddilysu lawn.
Mae taliadau ymlaen llaw gwerth hyd at 70% o werth yr hawliad BPS terfynol a ragwelir ar gyfer 2024 wedi’u talu lle’r oedd modd cadarnhau’r cymhwysedd i hawlio, a’r holl ddogfennau ategol wedi’u derbyn mewn pryd i wneud y taliadau.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhyddhau ei hadroddiad blynyddol ar Amaethyddiaeth yn y Deyrnas Unedig dan y teitl ‘Agriculture in the United Kingdom 2023’.
Mae’r adroddiad a’r crynodeb yn cynnwys ffeithiau a ffigurau diddorol yn ymwneud â phob dim, o strwythur y diwydiant i brisiau anwadal mewnbynnau a chynhyrchion, sut mae amaethyddiaeth yn perfformio o ran ‘amaeth amgylcheddol’, incwm cyfartalog Busnesau Ffermio, prisiau da byw ac ati
Mae dau adroddiad wedi’u cyhoeddi, un gan Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) a’r llall gan y Gynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau Mewn Amaethyddiaeth (RUMA), sy’n datgelu pa gynnydd a wnaed yn y DU mewn perthynas ag ymwrthedd gwrthficrobaidd a gwerthiant gwrthfiotigau.
Wrth i’r cyfnod caeedig ar gyfer gwasgaru slyri ar y rhan fwyaf o ffermydd Cymru ddod i ben (15 Hydref), mae Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud diwygiadau tymor byr i’r Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio sy’n ymwneud â rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (NVZ).
Agorodd cadeirydd pwyllgor llaeth UAC, Brian Walters, gatiau ei fferm noswyl Sioe Laeth Cymru 2024, i dynnu sylw at bwysigrwydd ffermydd llaeth teuluol yng Nghymru.
Yn ffermio 500 acer yng Nghaerfyrddin gyda’i wraig Ann a’u dau fab, Aled a Seimon, mae’r teulu’n rhedeg buches laeth o 220 o fuchod ynghyd â 200 o stoc ifanc ar system lloia mewn bloc yn yr hydref, gyda’r pwyslais ar gynhyrchu llaeth o ansawdd da o borfa.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, bod aelodau Bwrdd y Rhaglen Dileu TB Gwartheg bellach wedi’u penodi.
Mae’r newyddion yn cwblhau’r strwythur llywodraethu newydd fel y’i hamlinellir yng Nghynllun Cyflawni Rhaglen Dileu TB Gwartheg 2023-2028, yn dilyn ffurfio’r Grŵp Cynghori Technegol ar TB Gwartheg yn gynharach eleni.
UE yn gohirio rheoliadau datgoedwigo newydd ar fewnforion
Ar Hydref 3, dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd y byddai’n oedi am flwyddyn cyn rhoi Rheoliad Datgoedwigo’r Undeb Ewropeaidd (EUDR) ar waith, tan 30 Rhagfyr 2025, er mwyn iddo gael ei weithredu’n ddidrafferth o’r cychwyn cyntaf.
Mae Canolfan Milfeddygaeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA) i helpu ffermwyr defaid i ganfod a rheoli clefydau mynydd rhew. Defnyddir y term ‘mynydd rhew’ am ei bod hi’n debygol bod y rhan fwyaf o’r stoc sydd wedi’i heintio ddim yn dangos unrhyw arwyddion, a bod y defaid hynny sydd ag arwyddion neu symptomau gweladwy yn cynrychioli brig y broblem yn unig.
Bydd y ffordd mae'r Stocrestr Flynyddol Defaid yn cael ei chynnal yng Nghymru yn newid. Er mwyn sicrhau bod y stocrestr flynyddol yn gyson â holl wledydd eraill y DU, y dyddiad ar gyfer y stocrestr fydd 1 Rhagfyr bellach Ni fydd yr wybodaeth sydd ei hangen yn newid.
Mae dau newid arwyddocaol:
Mae’r BTO (British Trust for Ornithology) yn lansio Cudyll Cymru, prosiect gwyddoniaeth dinasyddion newydd sbon sy’n anelu at wella dealltwriaeth o adar ysglyfaethus ledled Cymru.
Mae’r BTO yn chwilio am wirfoddolwyr ar draws Cymru i helpu i ganfod ac arsylwi ar adar ysglyfaethus, yn enwedig o fewn Ardaloedd Gwarchodedig y wlad.
Dylai pob ffarmwr fod yn wyliadwrus ac yn ofalus wrth brynu a gwerthu da byw, wrth i’r achos cyntaf o’r feirws Tafod Glas (BTV-3) gael ei gadarnhau yng Nghymru.
Cadarnhawyd yr achos cyntaf o BTV-3 Ddydd Gwener, 27 Medi 2024 ar ôl i brofion gwyliadwriaeth ganfod y feirws mewn tair dafad a oedd wedi symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr. Cadarnhawyd achos arall hefyd, gan olygu bod cyfanswm o ddau achos yng Nghymru bellach. Mae’r ddau achos wedi’u cadarnhau fel achosion yn sgil symud o ardal risg uchel.
Mae troseddau gwledig yn effeithio nid yn unig ar yr unigolion a’r busnesau a dargedir yn uniongyrchol, ond gallant hefyd gael effaith economaidd, cymdeithasol ac emosiynol ar y gymuned wledig gyfan.
Mae troseddau gwledig yn cynnwys amrywiaeth eang o droseddau, gan gynnwys lladrata, fandaliaeth, dympio gwastraff anghyfreithlon, troseddau bywyd gwyllt ac ymddygiad anghymdeithasol, ymhlith eraill.
Mae cwrs newydd wedi’i sefydlu sef ‘Cwrs Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn’ (RDOC), sy’n gwrs ar-lein i addysgu perchnogion cŵn ar sut i leihau achosion o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Mae wedi ei groesawu gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae ar gael erbyn hyn i heddluoedd ledled Cymru ar gyfer perchnogion cŵn sydd wedi ymosod ar dda byw.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cymeradwyo’n llwyr argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar bolisi amaethyddol yn ei adroddiad ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg’ a gyhoeddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod Bwrdd Rhaglen Dileu TB Gwartheg bellach wedi ei sefydlu.
Mae’r newyddion yn cwblhau’r strwythur llywodraethu newydd yn dilyn ffurfio’r Grŵp Cynghori Technegol ar TB mewn Gwartheg yn gynharach eleni.
Yn dilyn trydydd cyfarfod o’r Bwrdd Crwn Gweinidogol a gynhaliwyd (23 Gorffennaf) yn Sioe Frenhinol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r bwriad i dalu am gynnal a chadw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) fel rhan o’r taliad sylfaenol cyffredinol drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Mae ymchwil gan UAC i ddiogelwch cyflenwad bwyd Cymru yn dangos bod dibyniaeth y DU ar fwyd o wledydd eraill wedi dyblu bron ers canol yr 1980au.
Mae 40 y cant o fwyd y DU yn cael ei fewnforio bellach, o’i gymharu â thua 22 y cant yng nghanol y 1980au. Mae’n destun pryder bod tua 20 y cant yn dod yn uniongyrchol o wledydd sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y newid yn yr hinsawdd.
Dyna gefndir seminar Undeb Amaethwyr Cymru ar Faes y Sioe Frenhinol
UAC yn cydnabod milfeddyg a safodd ysgwydd yn ysgwydd gyda ffermwyr yn ystod protestiadau
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cydnabod Rhys Beynon-Thomas am ei wasanaethau i amaethyddiaeth yn Sioe Frenhinol Cymru.
Mae Rhys Beynon-Thomas yn filfeddyg profiadol a ddychwelodd i Gymru yn 2014 i weithio fel milfeddyg yn arbenigo mewn anifeiliaid fferm yn Sir Gaerfyrddin, ochr yn ochr â ffermio’n rhan amser ar fferm y teulu yn yr Hendy, Abertawe. Mae bellach yn gyfarwyddwr gyda Milfeddygon Prostock.
Mae prosiect peilot newydd sy’n anelu at helpu cynhyrchwyr cig eidion i arbed arian wrthi’n chwilio am ffermwyr addas o Wynedd ac Ynys Môn i gymryd rhan.
Bydd y prosiect - Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru PGI - yn ystyried effaith pesgi gwartheg o fewn cyfnod magu byrrach ar elw economaidd busnes, yn ogystal â’i effaith bositif ar yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir.
Mae llawer o berchnogion a deiliaid tir yn hapus i ganiatáu mynediad ar gyfer dringo creigiau, ond mae eraill yn gyndyn oherwydd pryderon a chamddealltwriaeth ynghylch atebolrwydd cyfreithiol.
I fynd i’r afael â’r pryderon hyn mae Cyngor Mynydda Prydain (BMC) wedi cyhoeddi taflen ar gyfer perchnogion a deiliaid tir lle ceir clogwyni, creigiau, chwareli neu gerrig brig sy’n addas ar gyfer dringo creigiau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymarfer cadarnhau data fel rhan o’r Cam Paratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Nod yr ymarfer cadarnhau data yw diweddaru systemau mapio RPW gyda’r ardaloedd cynefin a’r gorchudd coed cywir ar ffermydd, cyn i’r SFS gael ei ddylunio’n derfynol a’i gyflwyno yn 2026.
I helpu i sicrhau bod ffermwyr yn rhoi gwybod am bob erthyliad fel rhan o’u trefn loia, mae’r grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil (RH&W) wedi lansio taflen a hwb ar-lein yn cynnwys Cwestiynau a Ofynnir yn Aml, i helpu i leihau’r rhwystrau rhag rhoi gwybod am erthyliadau a chyflwyno samplau erthylu i’w harchwilio.
O 1 Hydref 2024 mi fydd yn ofyniad cyfreithiol ar bob ceidwad adar yng Nghymru (ar wahân i geidwaid adar anwes heb unrhyw fynediad i’r awyr agored) i gofrestru fel ceidwad adar/dofednod ar Gofrestr Dofednod Prydain.
Bydd y newid hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyfathrebu â phob ceidwad adar yng Nghymru os digwydd bod yna achosion o glefyd adar
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi nodi ei phrif ofynion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er gwaethaf yr heriau o geisio ymdopi â sefyllfa wleidyddol sy’n newid yn gyson.
Mae safiad yr Undeb yn parhau’n gadarn a diflino o fewn arena wleidyddol sy’n newid o hyd.
Mae ffermio yng Nghymru ar groesffordd bwysig a fydd yn pennu dyfodol y diwydiant am ddegawdau i ddod. Er bod y trywydd yn dibynnu i raddau helaeth ar ddatblygu polisïau amaethyddol datganoledig yma yng Nghymru, ni ddylid anghofio y bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth newydd y DU yn pennu, i bob pwrpas, y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i gefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r ddarpariaeth o gynlluniau cymorth i helpu i bontio’r bwlch nes bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cael ei roi ar waith, yn ogystal â pharhad mawr ei angen Cynllun y Taliad Sylfaenol, fel y bu’r Undeb yn lobïo amdano, i roi sefydlogrwydd i ffermydd teuluol yng Nghymru.
Bydd Cynllun Cynefin Cymru unwaith eto ar agor ar gyfer ceisiadau gan ffermwyr sydd ag ardaloedd wedi’u nodi fel cynefin ar eu tir. Gellir ymestyn cytundebau Tir Comin Cynllun Cynefin Cymru, mae darpariaethau Cyswllt Ffermio wedi’u hymestyn, a bydd y Taliadau Cymorth Organig yn parhau yn 2025
Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i wrando ar ffermwyr Cymru wrth i’r crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad diweddaraf y Cynllunio Ffermio Cynaliadwy (SFS) gael ei gyhoeddi. Mae llais y diwydiant wedi bod yn uchel ac yn glir, a hyd yn hyn, mae wedi bod yn broses heriol i bawb dan sylw.
Nid yw’n syndod bod y farn gyffredin o du’r nifer enfawr o 12,000 o ffermwyr a sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn galw am newidiadau sylweddol i gynigion y cynllun.
Bydd Undeb Amaethwyr Cymru’n mynd ati’n ddi-oed i anfon neges glir i Lywodraeth Lafur newydd y DU yn San Steffan bod angen setliad ariannol blynyddol teg ar Gymru o £450 miliwn o gyllid etifeddol PAC yr UE, i gefnogi cynhyrchiant, yr economi wledig, a’r gwaith a wna ffermwyr dros yr amgylchedd.
Serch y rhwystredigaeth am yr oedi cyn cyflwyno deddfwriaeth Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru, bydd Gorchymyn BVD Cymru 2024, y bu disgwyl hir amdani, yn cael ei chyflwyno o 1 Gorffennaf 2024.
Ffermio’n parhau i fod yn un o’r galwedigaethau mwyaf peryglus
Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau bod 27 o bobl wedi marw ar ffermydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Gydag wyth digwyddiad ychwanegol yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfanswm y marwolaethau a gofnodwyd ar gyfer 2023 a 2024 yn 35, hyd yn hyn.
Yn ystod y cyfnod o dywydd sych a gafwyd nôl ym Mehefin manteisiodd nifer o bobl ar y cyfle i wneud y mwyaf o’r tywydd da a thorri gwair yn gynnar. Er bod y tymheredd yn ffafriol, ni chafodd pob ardal ddiwrnodau o haul uniongyrchol, gan olygu bod y glaswellt a dorrwyd yn cael ei sychu mwy gan y cynhesrwydd a’r gwynt.
Mae’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil wedi cyhoeddi diweddariad ar y risg mewn perthynas â chlefyd y Tafod Glas. Yn sgil y tywydd cynhesach yn ddiweddar, gyda’r tymheredd dyddiol cyfartalog yn uwch na 12°C yn gyson, mae yna bosibilrwydd bellach o drosglwyddo feirws y Tafod Glas (BTV) mewn siroedd risg uchel.
Ar 1 Gorffennaf 2024 cyflwynwyd Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) 2024 i waredu buchesi yng Nghymru o BVD.
Mae BVD yn feirws heintus mewn gwartheg sy’n achosi amryw o broblemau iechyd megis:
Bydd y ffordd mae'r stocrestr yn cael ei chynnal yng Nghymru yn newid. Er mwyn sicrhau bod y stocrestr flynyddol yn gyson â holl wledydd eraill y DU, y dyddiad ar gyfer stocrestr yng Nghymru fydd 1 Rhagfyr bellach, ond ni fydd yr wybodaeth sydd ei hangen yn newid.
Mae dau newid arwyddocaol:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymarfer cadarnhau data, fel rhan o’r Cam Paratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Nod yr ymarfer cadarnhau data yw diweddaru systemau mapio RPW gyda’r ardaloedd cynefin a’r gorchudd coed cywir ar ffermydd, cyn i’r SFS gael ei ddylunio’n derfynol a’i gyflwyno yn 2026.
Ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn swyddogol, mi roedd yna, ar y dechrau, awydd gwleidyddol yn San Steffan i arwyddo cytundebau masnach rydd brysiog a datgelu ‘buddiannau’ ein trefniadau masnachu ar ôl Brexit.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi lleisio pryderon clir am y cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd, yn enwedig am nad yw cytundeb Awstralia o fawr o werth i economi’r DU yn ei gyfanrwydd.
Wrth inni nesáu at yr Etholiad Cyffredinol, mae UAC, ar y cyd ag NFU Cymru a CFfI Cymru, wedi trefnu 15 o hystingau ledled Cymru i ddarparu’n haelodau â chyfle i holi eu hymgeiswyr lleol ar ffermio a materion gwledig yng Nghymru.
Mae ffermio yng Nghymru wedi cyrraedd croesffordd bwysig a fydd yn pennu ei ddyfodol am ddegawdau i ddod.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n falch iawn o gyhoeddi bod Gareth Parry wedi ei benodi yn Bennaeth Polisi, a hynny ychydig ddyddiau’n unig cyn ei briodas.
Roedd dathliad dwbl i Gareth, brodor o Lanfarian ger Aberystwyth, wrth iddo ef a Catrin, Rheolwr Swyddfa pencadlys Undeb Amaethwyr Cymru, briodi yn ddiweddar. Maent eisoes wedi ymgartrefu ar fferm odro, bîff a defaid y teulu yn Llanafan, Ceredigion.
Mae Hufenfa Mona wedi cyhoeddi dyfodol ansicr i’w cyflenwyr llaeth, ar ôl methu â sicrhau cyllid gan randdeiliaid, ac maent wedi dweud wrth eu cyflenwyr y bydd cwmni prosesu llaeth arall yn prosesu llaeth dros dro.
Mae’r cyfleuster yn cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy ac mae ganddo’r potensial i gynhyrchu 30,000 tunnell o gaws cyfandirol y flwyddyn. Mae ymrwymiad Hufenfa Mona i ostwng ôl troed carbon y broses o gynhyrchu caws yn golygu mai nhw oedd y cyntaf yn y DU i ddefnyddio lorïau trydan i gasglu llaeth.