Crynodeb o newyddion Tachwedd 2024

Ffrainc yn gwrthwynebu Cytundeb Masnach yr UE-De America

Mae Ffrainc yn brwydro i ohirio trafodaethau rhwng yr Undeb Ewropeaidd (UE) â bloc masnachu Mercosur De America ar gytundeb masnach.  Disgwylir y bydd y cytundeb rhwng yr UE â bloc De America’n cael ei gwblhau mor gynnar â’r mis nesaf.

Mae’r Arlywydd Macron yn cael trafferth dod o hyd i ddigon o gefnogaeth ymhlith gwledydd yr Undeb Ewropeaidd i atal y cytundeb, ac ymddengys ei fod bellach yn chwilio’n ehangach am gefnogaeth ar gyfer ei genhadaeth i rwystro’r cytundeb masnach hwn.

Mae Arlywydd Ffrainc dan bwysau i ddangos ei fod yn brwydro dros fuddiannau ffermwyr y wlad, gyda’r undebau ffermio wrthi’n trefnu diwrnod o brotestiadau.

 

 

 

Ffliw adar wedi’i ganfod mewn moch yn yr Unol Daleithiau

Mae’r ffliw adar H5N1 wedi’i ganfod mewn mochyn yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf, gan godi pryderon y gallai hynny gynyddu’r risg y bydd pobl yn dal yr haint.

Ystyrir moch fel ‘llestri cymysgu’ ar gyfer feirysau ffliw, oherwydd gallant  gario feirysau ffliw adar a phobl ar yr un pryd, gan gynyddu’r bygythiad o straen hybrid newydd, all heintio pobl yn haws.

Roedd y moch yn rhannu adnoddau dŵr, siediau ac offer gyda dofednod oedd wedi’u heintio ar fferm yn yr Unol Daleithiau.

 

 

Cyflwyno ffermwr o Sir Benfro â Gwobr Cyfraniad Arbennig UAC i’r Diwydiant Llaeth yng Nghymru

Mae’r ffermwr llaeth, Stephen James, o fferm Gelliolau yng Nghlunderwen, Sir Benfro wedi derbyn gwobr Gwasanaeth Cyfraniad Arbennig UAC i’r Diwydiant Llaeth yng Nghymru yn Sioe Laeth Cymru 2024 yng Nghaerfyrddin.

Roedd y panel beirniaid wrth eu boddau efo’r holl enwebiadau eleni, ond roedd gwaith diwyd a diflino Stephen am dros 20 mlynedd, yn cynrychioli’r diwydiant mewn rôl gyhoeddus ar y broblem o TB Gwartheg, yn ei osod ar y brig.

Stephen yw Cadeirydd Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, swydd y bu ynddi ers Gorffennaf 2018. Fel Cadeirydd, mae’n gweithio’n agos gyda Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru, ac yn gweithio i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru. Mae hefyd wedi bod yn ffigwr blaenllaw yn cyflwyno pryderon ffermio yng Nghymru gerbron y Llywodraeth.